成人快手

Cwestiwn ac ateb: Canllawiau ymarfer corff yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Plismyn yn herio menyw am dorheulo mewn parcFfynhonnell y llun, Reuters

Mae canllawiau newydd yn dod i rym yng Nghymru ddydd Sadwrn ar beth sy'n dderbyniol i bobl wneud wrth ymarfer corff yn ystod y pandemig coronafeirws.

Dywed y Llywodraeth fod angen cryfhau'r canllawiau i leihau pa mor aml mae pobl yn gadael eu cartrefi er mwyn atal lledaeniad yr haint ac osgoi straen ar y GIG.

Maen nhw am iddi hi fod yn gwbl glir na ddylai pobl deithio i wneud ymarfer corff a bod angen i'r rhai sy'n seiclo wneud hynny mewn ardal sydd o fewn pellter cerdded i'r cartref.

Ond mae teuluoedd gyda phlant ag anawsterau dysgu penodol, gan gynnwys awtistiaeth, bellach yn cael gadael y t欧 fwy nag unwaith y dydd.

Mae'r egwyddor sylfaenol yn parhau - fod angen i bobl aros adref gymaint 芒 phosib - ac mae'r canllawiau llawn .

Pa mor bell all rhywun deithio i ymarfer?

Dylai pobl ymarfer corff yn lleol, neu "mor agos 芒 phosib i'r cartref.

Ni ddylai pobl yrru o'u cartrefi i ymarfer corff a "ni ddylid teithio unrhyw bellter sylweddol".

Mae hynny'n golygu na ddylai pobl wneud siwrne arbennig er mwyn ymarfer mewn man gwledig neu o harddwch naturiol - mannau sydd ar gau beth bynnag, er mwyn atal ymwelwyr.

Dylech chi osgoi mannau sydd yn aml yn brysur, fel llwybrau a pharciau.

Pa mor aml gewch chi ymarfer?

Unwaith y diwrnod ac "am gyfnod rhesymol".

Does dim cyfnod penodol wedi ei glustnodi, ond mae'r canllaw yn dweud y byddai pedair neu bum awr yn "annhebygol o fod yn rhesymol".

Rhaid osgoi cwrdd 芒 ffrindiau, er enghraifft, a chadw pellter o ddau fedr o bobl eraill.

Oes yna eithriadau?

Dywed y rheolau fod pobl 芒 chyflyrau iechyd neu drafferthion symud penodol, gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn, ddim o reidrwydd yn gallu gwneud ymarfer corff o'u cartrefi.

Mae'r unigolion yma yn cael gyrru "i leoliad gwastad addas, fel parc, at y diben hwn" - ond mae dal angen iddyn nhw fynd "i'r lleoliad hygyrch cyfleus agosaf" ac osgoi teithiau hir diangen.

Hefyd, gall rhai pobl gyda chyflyrau iechyd ac anableddau yn cynnwys anableddau dysgu, awtistiaeth a dementia ymarfer corff fwy nag unwaith y diwrnod.

Gallwch chi ymarfer gyda rhywun arall?

Ddyliech chi ymarfer ar ben eich hun, neu gyda phobl sy'n byw dan yr un to 芒 chi, neu ofalwyr, ble mae hynny'n angenrheidiol.

Pa ymarfer corff sy'n dderbyniol?

Cerdded, rhedeg a seiclo.

Rhaid osgoi unrhyw weithgaredd sydd ag elfen o risg - fel nofio yn y m么r, mewn llynnoedd neu afonydd.

Oes hawl cael picnic yn ystod sesiwn ymarfer corff?

Yn syml, na - a does dim hawl eistedd ar fainc "am gyfnod estynedig" ychwaith.

Oes hawl gwneud unrhyw beth arall wrth adael y t欧 i ymarfer?

Oes - mynd 芒'r ci am dro, er enghraifft, neu siopa am fwyd.

Mae'r rhain yn cael eu hystyried yn rhesymau dilys i fod allan.

Pa mor bell mae modd i rywun seiclo?

O fewn "pellter cerdded rhesymol" o'ch cartref.

Dydy'r canllaw ddim yn nodi pellter penodol. Ond mae'n pwysleisio y "byddai damwain neu nam ar y beic ymhell o'r cartref yn rhoi straen ychwanegol ar y gwasanaethau iechyd neu'n golygu y byddai rhaid i rywun arall wneud taith ychwanegol er mwyn helpu".

Oes modd seiclo i'r gwaith?

Oes, cyhyd 芒 bod modd cyfiawnhau mynd i'r gwaith, neu wneud y gwaith, yn y lle cyntaf.

Pa reolau eraill sydd yna i seiclwyr?

Rhaid seiclo ar ben eu hunain, neu gydag aelodau o'r un aelwyd.

Rhaid glynu i lwybrau cyfarwydd, sydd o fewn eu gallu.

Ar lwybrau sy'n cael eu rhannu, rhaid bod yn ystyriol o gerddwyr, rhedwyr a seiclwyr eraill.

Hefyd mae'n rhaid aros dau fetr oddi wrth bobl eraill, ac arafu neu stopio er mwyn gadael i bobl fynd heibio fel bo'n briodol.

Dan ba amgylchiadau eraill mae hawl i adael ein cartrefi?

Mae'r rhesymau dilys yn cynnwys:

  • N么l bwyd a nwyddau meddygol ar gyfer yr aelwyd, gan gynnwys anifeiliaid, neu ar ran unigolion bregus.

  • Casglu arian, neu dalu, rhai busnesau a gwasanaethau.

  • Sicrhau cymorth meddygol neu filfeddygol.

  • Helpu person bregus, neu roi cymorth brys.

  • Rhoi gwaed.

  • Teithio i'r gwaith os nad oes modd gweithio o adref.

  • Mynd i angladd os taw chi yw'r trefnydd, neu os ydych wedi cael gwahoddiad, neu'n gofalu am alarwr.

  • Ymweld 芒 mynwent neu ardd goffa i dalu teyrnged i berson ymadawedig.

  • Rhesymau cyfreithiol, gan gynnwys mynd i'r llys, bodloni amodau mechn茂aeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol.

  • Defnyddio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel yn achos gofal plant neu gyfleusterau addysgol i blant gweithwyr allweddol, neu gymorth i ddioddefwyr troseddau a thrais yn y cartref.

  • Trefniadau i sicrhau fod plant yn cael treulio amser gyda dau riant sy'n byw ar wah芒n.