Sut i gadw eich plant yn brysur gartref
- Cyhoeddwyd
Mae 'na wledd o gynnwys rhyngweithiol hwyliog ac addysgiadol ar gael gallai fod o ddiddordeb i rieni a'r rhai hynny sy'n gwarchod yn ystod yr wythnosau i ddod.
Dyma gasgliad o'r cynnwys Cymraeg gorau i gyd mewn un lle.
Bitesize
Adnoddau dysgu, cyngor a chymorth i rieni.
Dyma bum ffordd y gallwch chi gadw eich plant - a'u hymennydd - yn brysur gartref.
Casgliad o fideos deniadol i feithrin hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyson - mewn plant a rhieni yn y cartref ac mewn gwersi.
Cyfres o ffilmiau byr wedi eu hanimeiddio a gweithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed sy'n dysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae them芒u yn cynnwys Rhif; Mesurau ac arian; Si芒p, safle a symud; Trin data.
Casgliad o fideos a gweithgareddau hwyliog sy'n dod 芒'r Gymraeg yn fyw mewn arddull sgwrs bob dydd.
Adnoddau addysgol am bum merch eithriadol o Gymru. Mae pob pecyn dysgu yn cynnwys ffilm, cynllun gwers a gweithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau yn rhoi cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod cyfnod y merched, a'n eu cymharu gyda Chymru fodern.
Gweithgareddau, clipiau fideo a nodiadau adolygu ar gyfer Cyfnod Allweddol 3, sy'n cynrychioli'r dair blynedd gyntaf yn addysg ysgolion uwchradd Cymru, ar gyfer disgyblion 11-14 oed.
Cyw
Casgliad o ddeunyddiau addysgiadol ar gyfer plant oed meithrin a chyfnod sylfaen er mwyn sicrhau bod y dysgu yn parhau tra bod yr ysgolion ar gau gan gynnwys cyfresi teledu yn ogystal 芒 deunydd digidol ac apiau.
Pob math o weithgareddau rhyngweithiol hyfryd gan gynnwys y Clwb Darllen a C芒n Golchi Dwylo
Mae Ap Byd Cyw yn gyfle i arwain eich plentyn trwy fyd llawn hwyl a lliw wrth gyd chwarae a darganfod gyda'ch gilydd. Chwiliwch hefyd am ap Cyfri gyda Cyw ac ap Cyw a'r Wyddor.
S4C Clic
Gwyliwch eich hoff raglenni S4C yn fyw ac ar alw ar a .
CBeebies
O'r Teletubbies i'r Go Jetters, mwynhewch jig-sos, gemau a phosau yng nghwmni rhai o'ch hoff gymeriadau ar wefan CBeebies. (Gemau ar gael ar gyfrifiadur yn unig.)
Podlediad Stori TicToc
Apiau addysgol
Hwyl wrth chwarae ar y fferm gyda Alun yr Arth a'i ffrindiau.
Gweithgareddau a gemau rhyngweithiol i gefnogi sgiliau sillafu yn y Gymraeg o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4.
Ar gyfer dysgwyr ifancaf y Cyfnod Sylfaen, mae'n cynnwys cyfres o gemau deniadol a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn y Gymraeg.
Cyd-ganwch gyda Bedo, y bardd glas, gan ddilyn ei symudiadau i'r caneuon yn eich ystafell fyw.
Dros 60 o gemau bychain yn Gymraeg. Ffordd wych o ddysgu, atgyfnerthu a gwella eich Cymraeg tra'n chwarae gemau difyr.
Atgyfnerthu sain a ffurfiad llythrennau gyda chaneuon i'ch arwain o lythyren i lythyren.
Cofiwch gysylltu os oes gennych chi awgrym am unrhyw adnoddau ar-lein arall hoffech chi i ni eu hystyried ar gyfer y rhestr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020