Ar daith i Hwngari
- Cyhoeddwyd
Wedi i Gymru golli o 2 - 1 yn Croatia brynhawn Sadwrn, mae bechgyn Ryan Giggs yn teithio ymlaen i brifddinas Hwngari ar gyfer ail g锚m oddi cartref y garfan o fewn 3 diwrnod.
Ond sut le ydy Hwngari, a beth yw ei hanes? Dyma 'chydig o ffeithiau difyr am wrthwynebwyr Cymru.
Maint
Mae Hwngari yn 93,030 km2 (35,920 m2) mewn arwynebedd. Gyda Chymru'n 20,779 km2 (8,023 m2) o faint mae'n golygu bod Hwngari tua pedair gwaith a hanner maint Cymru.
Poblogaeth
Mae 9.7m o bobl yn byw yn Hwngari, ond mae poblogaeth y wlad wedi bod yn gostwng ers dechrau'r 1980au. Mae arbenigwyr yn dweud os fydd y gostyngiad yn parhau gall y boblogaeth fynd lawr i 6m erbyn 2070. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio, y gyfradd geni yn mynd yn is, a llawer o bobl ifanc yn mynd dramor i weithio wedi iddynt raddio o'r brifysgol.
Budapest, y brifddinas, yw'r ddinas fwyaf gyda 1.8m yn byw yno, a 3.3m yn y rhanbarth ehangach. Yn dilyn Budapest, y dinasoedd mwyaf yw Debrecen, Szeged, Miskolc a P茅cs.
惭补驳测补谤辞谤蝉锄谩驳
惭补驳测补谤辞谤蝉锄谩驳 yw enw'r wlad yn yr iaith Hwngareg, ac Magyar Nyelv yw'r enw ar yr iaith. Mae Hwngareg yn cael ei hystyried gan lawer fel iaith gymharol anodd i'w dysgu, ac nid yw'n debyg i ieithoedd y gwledydd sy'n amgylchynu'r wlad, ond yn hytrach i ieithoedd y Ffindir ac Estonia.
Yr wyddor
Mae yna 44 llythyren yn y wyddor Hwngareg, gan gynnwys pedair fersiwn o'r llythyren "O".
Arian
Yr arian sy'n cael ei ddefnyddio yn Hwngari yw'r Forint, gyda 100 Fill茅r mewn un Forint. Ar hyn o bryd gall 拢1 brynu tua 362 Forint.
Gwersyll yr Urdd
Mae gan yr Urdd ganolfan breswyl wedi ei lleoli yn ngogledd orllewin Hwngari.
Derbyniodd yr Urdd d欧 Kisbodak H谩zfel, fel rhodd gan ddyn o'r enw Michael Makin yn 2013. Roedd yn chwilio am sefydliad ieuenctid fyddai 芒 diddordeb derbyn adeilad yn Hwngari ar yr amod y byddai'n cael ei ddefnyddio fel adnodd i bobl ifanc gael profiad o'r wlad.
Does gan Michael Makin ddim cyswllt penodol 芒 Chymru, ond fe dreuliodd amser yn ardal Llangollen pan yn iau, gan gael ei gyfareddu gan harddwch yr ardal, y diwylliant a'r iaith Gymraeg.
Mae'r t欧 wedi cael ei adnewyddu a'i addasu i groesawu grwpiau o bobl ifanc o'r Urdd.
Lan m么r
Na, does gan Hwngari ddim arfordir, ond dydi hynny ddim yn ei stopio rhag cael gwersylloedd 'lan m么r'. Llyn Balaton yw'r llyn mwyaf yng nghanolbarth Ewrop, yn 48 milltir ar ei hiraf ac 8.7 milltir ar ei letaf.
Ar lannau Llyn Balaton mae pentrefi gwyliau a chartrefi moethus, a hefyd nifer o winllannoedd sy'n cynhyrchu gwinoedd enwocaf Hwngari.
Barddoniaeth am Gymru
Mae llawer o blant ysgol yn Hwngari yn ymwybodol o Gymru, nid oherwydd p锚l-droed neu rygbi, ond oherwydd gwaith un o'u beirdd enwocaf, J谩nos Arany. Ysgrifennodd Arany gerdd o'r enw A walesi b谩rdok (Beirdd Cymru) yn 1857.
Daeth gorchymyn i feirdd Hwngari ysgrifennu cerddi i nodi ymweliad yr Ymerawdwr Franz Joseph I o Awstria. Ond fe benderfynodd Arany ysgrifennu cerdd am hanes 500 o feirdd Cymreig a gafodd eu lladd gan y Saeson yng Nghastell Trefaldwyn dan orchymyn Edward I yn 1283, blwyddyn wedi llofruddiaeth Llywelyn ap Gruffudd.
Roedd symbolaeth y gerdd yn cyfeirio at y driniaeth oedd yr Hwngariaid yn ei derbyn gan yr Awstriaid, ac yn ffurf o brotest gan Arany yn erbyn yr awdurdodau yn Fienna.
Ciwb Rubik a dyfeisiadau eraill
Cafodd y Ciwb Rubik ei ddyfeisio gan Ern艖 Rubik, g诺r o Budapest, yn 1974.
Mae dyfeisiadau eraill o Hwngari yn cynnwys y beiro p锚lbwynt, hologramau, camer芒u thermographig, cyfrifiaduron digidol a'r binoculars.
Baddondai
Mae Hwngari yn cymryd mantais o'r ffaith bod gymaint o ffynhonnau cynnes yn y wlad ac mae 450 o spas a baddondai cyhoeddus ledled y wlad.
Mae'r baddondai yno ers dyddiau'r Rhufeiniaid, ac yn 么l yr Hwngariaid dyma'r ffordd orau i ddod dros hangover!
Goulash
Mae goulash (骋耻濒测谩蝉 yn Hwngareg) yn symbol cenedlaethol, ac mae wedi cael ei fwyta yno ers y nawfed ganrif, gan fugeiliaid yn wreiddiol. Mae'n fath o stiw sy'n gallu cynnwys nifer o bethau fel cig, llysiau, nwdls, tatws ac un peth allweddol... paprika.
Mae bwydydd eraill cenedlaethol yn cynnwys 辫补辫谤颈办谩蝉 cyw i芒r, stiw gyda gwreiddiau Iddewig o'r enw s贸濒别迟, h补濒谩蝉锄濒茅 (cawl gyda physgodyn carp), y gacen soml贸i galuska a'r ddiod feddwol p谩濒颈苍办补.
Y t卯m p锚l-droed cenedlaethol
Roedd yna rai blynyddoedd lle'r oedd Hwngari yn un o dimau p锚l-droed gorau'r byd. Rhwng 1950 ac 1956 fe enillodd y t卯m 42 gwaith, cael saith g锚m gyfartal a cholli dim ond un g锚m (rownd derfynol Cwpan y Byd yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn 1954).
Mae Hwngari wedi cyrraedd ffeinal Cwpan y Byd ddwywaith (1938 ac 1954), a'r chwarteri dair gwaith (1934, 1962 ac 1966). Mae'r t卯m hefyd wedi ennill y fedal aur yn y Gemau Olympaidd dair gwaith (1952, 1964 ac 1968).
Mae Ferenc Pusk谩s yn cael ei gydnabod fel un o'r chwaraewyr p锚l-droed gorau yn hanes y g锚m - enillodd 85 cap dros Hwngari, gan sgorio 84 g么l.
Dydi'r t卯m cenedlaethol heb fod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd diweddar, ac mae'n debyg mai'r chwaraewr gorau yn ddiweddar oedd Zolt谩n Gera a ymddeolodd o chwarae dros ei wlad y llynedd.
Mae record Cymru yn erbyn Hwngari yn dda, gan ennill pum g锚m, colli tair a chael dwy g锚m gyfartal. 2005 oedd y tro diwethaf i'r timau wynebu ei gilydd, ac fe enillodd Cymru 2-0, gyda Craig Bellamy'n sgorio'r ddwy g么l.
Enwogion
Ymysg rai o enwogion Hwngari mae'r cyfansoddwr Franz Liszt, L谩szl贸 B铆r贸 (a ddyfeisiodd y feiro) a Joseph Petzval (dyfeisydd y binoculars).
Mae yna lawer iawn o enwogion yn y byd adloniant sydd o dras Hwngaraidd, fel Tony Curtis, Drew Barrymore, Harry Houdini, Paul Simon, Gene Simmons o'r band KISS, Alanis Morissette ac Zsa Zsa Gabor a enillodd goron Miss Hwngari yn 1936.
Hefyd o ddiddordeb: