成人快手

Cyflafan Beirdd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Darlun John Martin o'r 'Bardd Olaf' ar ymyl y clogwyn. Llun drwy gwrteisi Oriel Gelf Laing, Newcastle upon TyneFfynhonnell y llun, Laing Art Gallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Darlun John Martin o'r 'Bardd Olaf' ar ymyl y clogwyn. Llun drwy gwrteisi Oriel Gelf Laing, Newcastle upon Tyne

Eleni mae dathliadau'n digwydd i nodi 200 mlwyddiant geni bardd a ysgrifenodd gerdd enwog am gyflafan erchyll lle lladdodd brenin Lloegr holl feirdd Cymru. Ond nid yng Nghymru mae'r dathliadau'n digwydd, ond yn Hwngari.

Un o gerddi enwocaf y bardd J谩nos Arany o Hwngari oedd A Walesi B谩rdok' - Beirdd Cymru.

Yn 么l y chwedl, digwyddodd y gyflafan mewn gwledd yng Nghastell Trefaldwyn, pan wrthododd y beirdd ganu clodydd brenin Lloegr, Edward y cyntaf.

Mae maer Trefaldwyn, Eric Fairbrother, yn teithio i Hwngari i fod yn rhan o'r dathliadau sy'n cychwyn ar 2 Mawrth. Bydd yn cyflwyno rhyddid y dref i'r bardd ac mae plac yn cael ei godi iddo yn Nhrefaldwyn.

Beirniadu brenin Awstria

Gofynnwyd i Arany ysgrifennu cerdd yn canmol ymweliad brenin Franz Joseph I o Awstria 芒 Hwngari yn 1858. Ond yn lle hynny fe ysgrifennodd am hanes 500 o feirdd Cymru yn cael eu llosgi gan Edward I o Loegr yn y canoloesoedd.

Ffynhonnell y llun, Mikl贸s Barab谩s

Roedd Arany yn defnyddio'r stori fel trosiad i feirniadu rheolaeth brenhiniaeth Awstria dros Hwngari wedi'r ymgais am chwyldro yn 1848.

Mae'r gerdd ar gwricwlwm ysgolion y wlad ac yn cael ei chyfrif yn un o gerddi pwysicaf Hwngari a gall y rhan fwyaf o bobl y wlad ei dyfynnu.

Ar 么l i Hwngari ennill ei hannibyniaeth wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth y gerdd hon yn symbol pwysig o'r frwydr honno.

Er fod y gerdd yma'n un o rai mwyaf adnabyddus Hwngari ychydig o bobl Cymru oedd yn gwybod amdani cyn i Karl Jenkins gyfansoddi symffoni yn seiliedig ar y gerdd gyda geiriau Cymraeg iddi gan Twm Morys.

Perfformiwyd y premiere Prydeinig o'r gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn Awst 2012 gyda'r unawdwyr Dennis O'Neill, Rebecca Evans a Ch么r yr Eisteddfod.

Roedd hi eisoes wedi cael ei pherfformio yn Hwngari yn 2011.

Gwreiddiau'r stori

Ond o ble daw'r stori ac ydy hi'n wir?

Ffynhonnell y llun, Richard Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l y chwedl lladdwyd y beirdd wedi gwledd yng Nghastell Trefaldwyn

Yn ei ragair i'r gerdd dyma ysgrifenodd Janos Arany: "Mae'r haneswyr yn amau'r peth ond mae wedi ei nodi'n gryf yn y chwedlau fod Edward I o Loegr wedi anfon 500 o feirdd Cymru i'r stanc wedi ei fuddugoliaeth dros y Cymry (1277) i'w hatal rhag deffro'r wlad a dinistrio rheolaeth y Saeson drwy s么n am orffennol gwych eu cenedl."

Mae paentiad enwog gan Thomas Jones, Y Bardd Olaf, hefyd yn dweud yr un stori, wedi ei seilio ar gerdd o'r enw The Bard gan Thomas Gray sy'n adrodd yr un chwedl.

Yn y paentiad mae bardd olaf Cymru yn sefyll ar glogwyn gyda'i delyn ar fin neidio i'w farwolaeth.

Mae paentiad arall gan John Martin yn darlunio golygfa debyg.

Ffynhonnell y llun, Laing Art Gallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Darlun John Martin o'r Bardd Olaf

Er fod un o'r cofnodion cynharaf o'r stori yng ngwaith Syr John Wynn o Wydir sy'n ysgrifennu am hanes ei deulu yn y 16eg ganrif, prin yw'r dystiolaeth hanesyddol o'r gyflafan.

Ond fe afaelodd yn y dychymyg nes dod i sylw ehangach yng ngherdd Thomas Grey yn 1757.

Os yw'n wir ai peidio mae'n symbol o ba mor bwysig yw traddodiad a diwylliant i hunaniaeth ac ofn y rhai sydd mewn grym o'r p诺er hwnnw.

Roedd beirdd yn y canoloesol yn uchel eu parch yn y gymdeithas, yn gyfrifol am barhau'r traddodiad llafar ac wedi eu cysylltu'n agos gyda'r uchelwyr a'r tywysogion oedd yn eu noddi.

Yn y paentiadau maen nhw wedi eu portreadu fel disgynyddion y derwyddon Celtaidd.

Mae'r dathliadau 200 mlwyddiant yn Hwngari yn cychwyn yn Nagyszalonta ar 2 Mawrth 2017 ac mae'r flwyddyn gyfan wedi ei nodi fel blwyddyn i gofio am y bardd.

Bydd digwyddiadau mawr eraill yn cael eu cynnal yn Debrecen, Nagyk艖r枚s a Budapest a rhifyn newydd o holl waith J谩nos Arany yn cael ei gyhoeddi.