成人快手

Gemau Rhagbrofol Euro 2020: Croatia 2-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ivan PerisicFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ivan Peri拧i膰 yn rhwydo ail g么l y t卯m cartref

Bu'n rhaid i d卯m Ryan Giggs dalu'n ddrud am eu camgymeriadau wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Croatia brynhawn Sadwrn.

Wrth i'r tymheredd godi uwchben 30C gradd yn Stadion Gradski, roedd profiad y t卯m cartref yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth - er i Gymru orffen yn gryf.

Croatia - yn chwarae yn eu crysau tywyll - aeth ar y blaen.

Fe sgoriodd James Lawrence g么l i'w rwyd ei hun ar 么l 17 munud ar 么l pas dreiddgar Luka Modric a chroesiad Ivan Peri拧i膰.

Roedd y ddau yna'n ddraenen yn ystlys Cymru drwy gydol y g锚m - a Peri拧i膰 sgoriodd yr ail yn fuan wedi'r egwyl wedi dryswch yn amddiffyn yr ymwelwyr.

Disgrifiad,

Ben Davies: 'Mae'n rhaid i ni wneud mwy'

Er gwaetha'r gwres llethol yn Osijek, fe lwyddodd Cymru i frwydro'n 么l.

Fe wyrodd ergyd yr eilydd David Brooks oddi ar yr amddiffynnwr ac i gefn y rhwyd gyda llai na chwarter awr yn weddill i wneud y sg么r yn 2-1.

Fe allai Cymru fod wedi cipio pwynt tua'r diwedd ond fe orffennodd y g锚m yn 2-1.

Bydd Cymru nawr yn teithio i Budapest cyn wynebu Hwngari nos Fawrth.