Y myfyrwyr sy'n dysgu sut i achub ymfudwyr rhag boddi
- Cyhoeddwyd
Fe allai 2024 fod y flwyddyn waetha' eto, o ran nifer y mudwyr sy'n marw wrth geisio croesi'r moroedd, yn 么l un o asiantiaethau'r Cenhedloedd Unedig.
Eisioes mae 56 wedi boddi, meddai'r asiantaeth, wrth geisio croesi Mor Udd yn unig.
Mae un elusen sydd wedi'i lleoli ym Mro Morgannwg i hyfforddi chwilio ac achub ar y m么r, yn dweud bod eu myfyrwyr, sy'n dod o bob cwr o'r byd, yn gynyddol rwystredig am y camwybodaeth a'r twyllo sy'n digwydd wrth ddenu pobl i beryglu'u bywydau fel hyn.
Mae elusen Atlantic-Pacific, sydd 芒'i bencadlys yng Ngholeg yr Iwerydd yn Sain Dunwyd yn darparu cychod achub ac hyfforddi criw.
Yn 么l ei sylfaenydd, Robin Jenkins, sydd 芒 phrofiad personol o gymryd rhan mewn ymdrechion achub, mae M么r y Canoldir yn "llawn sgerbydau [ac] mae'n sefyllfa dywyll, erchyll".
Mae Sefydliad Rhyngwladol dros Fudo (IOM) y Cenhedloedd Unedig yn cadw cofnodion o nifer y mudwyr sy'n marw neu'n diflannu ers degawd, ac fe allai 2024, medden nhw, fod y fwyaf difrifol eto.
Y llwybr ar draws canol M么r y Canoldir yw'r dull prysuraf i gyrraedd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Dyma'r llwybr mwyaf peryglus hefyd.
Hyd at ddechrau Tachwedd roedd 157,000 o bobl wedi croesi'r m么r i Ewrop.
Cofnodwyd 1,983 o farwolaethau gan y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Ymfudo (IOM).
- Cyhoeddwyd20 Awst
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd
Dywed Robin Jenkins: "Nid yn unig mae pobl mewn cyflwr truenus pan maen nhw'n cael eu hachub.
"Maen nhw wedi profi taith hir o drallod, wedi cael eu hecsbloetio a'u harteithio, wedi wynebu'r arswyd o adael cartre, ac mae nifer fawr o bobl wedi gadael eu cartrefi'n gwybod na fyddan nhw'n ei weld eto."
Yn wreiddiol o Lanilltud Fawr, fe wnaeth Robin Jenkins a chriw Sea-Watch, sefydliad sy'n cynorthwyo ym M么r y Canoldir, achub 32 o bobl - plant a babanod yn eu plith.
Roedden nhw oll ar gwch dingi bychan oedd yn gwbl anaddas i'r m么r.
'Rhyfel, gorthrwm a thlodi'
Mae sawl rheswm pam bod pobl yn mudo fel hyn, meddai Mr Jenkins, ond yn bennaf "rhyfel, gorthrwm a thlodi" yw'r cymhelliad.
Ychwanegodd bod cambwybodaeth am y sefyllfa'n cyfrannu at y broblem,
"Mae rhai'n talu 拢15,000. Mae'r bobl yn cael gwbod bod hyn yn mynd i fod yn hawdd. Maen nhw'n cael gwbod y bydd yn ddiogel a bod yr Undeb Ewropeaidd yn barod i'w croesawu 芒 dwylo agored."
Ond nid dyna'r gwirionedd.
Mae gwaith elusen Atlantic-Pacific yn adleisio hanes Coleg yr Iwerydd. Yno yn y 1960au y cafodd cychod RIB eu cynllunio.
Gyda'u gwaelodion cadarn ac ochrau hyblyg yn llawn aer, mae'r cychod yma bellach yn cael eu defnyddio'n eang - fel cychod hamdden gan y lluoedd arfog ac, yn allweddol, er mwyn achub bywydau.
Fe werthodd y Coleg y patent a hawliau cychod RIB i elusen y bad achub, yr RNLI am 拢1.
Mae'r berthynas yna, medde Emma Barnett, aelod o staff Coleg yr Iwerydd, wedi talu ar ei ganfed.
Dywedodd: "Heddi, mae'r myfyrwyr yn cael eu hyfforddi nid yn unig mewn adeiladu cychod ond hefyd maen nhw'n dysgu sgiliau achub bywyd, diolch i'r bartneriaeth gyda Atlantic-Pacific."
'Gwneud gwahaniaeth' yn lle siarad
Ymhlith myfyrwyr y Coleg sy'n cael eu hyfforddi gan elusen Atlantic Pacific mae Finley ac Efa. Mae'r ddau'n awyddus i fynd i ranbarth M么r y Canoldir i gynorthwyo.
Yn 么l Finley mae elusen AP yn "rhoi'r siawns i ni ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen.
"Y prif ffordd ry'n ni'n trio helpu yw stopio boddi byd-eang. Trwy AP gallwn ni helpu yn uniongyrchol... gallwn ni stopio siarad am byti fe ac actually mynd yna i'r llefydd sydd angen yr help a mynd i wneud gwahaniaeth."
Dwedodd Efa: "Nawr bo' fi 'di dysgu am y pwysigrwydd, pa mor bwysig yw e yn ein byd ni heddiw, fi wir yn teimlo'n rhan ohono fe, bo' fi'n barod i achub bywydau, dysgu sgiliau a datblygu ar y d诺r bob wythnos.
"Fi wir yn mynd i ddefnyddio fe ar 么l gadael Coleg yr Iwerydd."
Yn 么l Robin Jenkins "mae pobl ifanc yn gweld y naratif ofnadwy yma'n digwydd ar y teledu ac yn dweud 'na alla' i ddim gwylio mwy o hyn, mae'n rhaid i fi gymryd rhan'."
Mae rhai o gyn-fyfyrwyr y Coleg - fel Theo Tran, 25, sydd o Fietnam yn wreiddiol -eisoes wedi bod yn cynorthwyo ym M么r y Canoldir.
Mae wedi dychwelyd i'r Coleg i hyfforddi eraill. Mae'r gwaith achub yn galed, meddai, ond mae'n dod 芒 "balchder bo' chi'n gwneud y peth cywir".
Eleni eto mae sawl achos wedi bod lle mae sawl person wedi boddi wrth geisio croesi'r sianel i'r Deyrnas Unedig.
Ar 3 Medi bu farw 12 o bobl oddi ar arfordir Ffrainc - chwech o blant a menyw feichiog yn eu plith. Fis yn ddiweddarach bu farw pedwar arall, gan gynnwys bachgen dyflwydd oed, wrth i bobl gael eu "gwasgu dan draed" ar ddau gwch yn llawn mudwyr.