成人快手

Gemau Rhagbrofol Euro 2020: Cymru 1-0 Slofacia

  • Cyhoeddwyd
Dan JamesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cymru'n dathlu g么l gyntaf y prynhawn gan Dan James

Mae Cymru wedi ennill eu g锚m ragbrofol gyntaf ym Mhencampwriaeth Euro 2020 o 1-0 yn erbyn Slofacia, diolch i g么l yn ystod pum munud cynta'r g锚m.

Dyma oedd g么l gyntaf Dan James dros Gymru, ar ei ymddangosiad llawn cyntaf i'w wlad hefyd.

Disgrifiad,

Roedd Joe Allen wrth ei fodd fod Cymru wedi ennill eu g锚m ragbrofol gyntaf

Roedd yna sawl cyfle arall i'r t卯m cartref, wrth iddyn nhw bwyso'n gyson yn erbyn yr ymwelwyr.

Ond er waetha sawl ymgais at y g么l, gan gynnwys chwe ymdrech gan Gareth Bale, fe fethodd t卯m Ryan Giggs ag ymestyn eu mantais.

Bu'n rhaid i Wayne Hennessey wneud sawl arbediad i rwystro Slofacia rhag dod yn gyfartal yn y deg munud olaf.

Mae Cymru ar frig tabl gr诺p E, ar y blaen i Slofacia a Croatia ar wahaniaeth goliau, gyda Croatia yn herio Hwngari yn nes ymlaen ddydd Sul.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma oedd g么l gyntaf Dan James i Gymru ar ei ymddangosiad llawn cyntaf hefyd

Dyma oedd y dechrau gorau posib i ymgyrch Cymru wrth iddyn nhw geisio efelychu eu llwyddiant adeg pencampwriaeth Ewro 2016.

Fe benderfynodd Giggs roi ei ffydd yn rhai o'i chwaraewyr ifanc, gan ddewis James Lawrence o flaen Ashley Williams, a hefyd fe roddodd y dechreuad llawn cyntaf i asgellwr yr Elyrch Dan James.

Roedd gan saith o'r chwaraewyr a ddechreuodd brynhawn Sul lai na 10 o gapiau yr un.

A James, gyda'r capten Gareth Bale, Harry Wilson a David Brooks fu'n gyfrifol am achosi dryswch i amddiffyn Slofacia yn fuan yn y g锚m, drwy gyfnewid safleoedd yn aml, ac a wnaeth yn y pen draw ganiat谩u i James daro ergyd isel heibio'r g么l-geidwad Martin Dubravka, a'r b锚l yn mynd i gefn y rhwyd.

Bu Cymru'n ffodus i beidio ac ildio g么l wrth i Robert Mak daro'r b锚l tuag at y rhwyd, gyda Wayne Hennesey yn arbed unwaith eto.

Ac fe fu'n rhaid i sawl un o'r crysau cochion osod eu hunain o flaen eu g么l er mwyn rhwystro ymgeisiadau cynyddol Slofacia yn y munudau olaf.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe darodd capten Cymru, Gareth Bale, sawl ergyd yn agos at g么l Slofacia.

T卯mau heddiw:

Cymru: Hennessey, Connor Roberts, Mepham, Jamie Lawrence, Ben Davies, Allen, Smith, Wilson, Brooks, James, Bale (Ward, Gunter, Dummett, Williams, Tyler Roberts, John, Matondo, Vaulks, Hedges, Woodburn, Thomas, Adam Davies).

Slofacia: Dubravka, Pekarik, Vavro, Skriniar, Hancko, Kucka, Lobotka, Hamsik, Rusnak, Duda, Mak (Kozacik, Stetina, Satka, Gregus, Mihalik, Stoch, Bero, Hrosovsky, Chrien, Safranko, Duris, Rodak).

Dyfarnwr: Felix Zwayer (Yr Almaen)

Cardiau melyn: Cymru 2 (Allen, Brooks) Slofacia 7