成人快手

Ar daith i Croatia

  • Cyhoeddwyd
croatiaFfynhonnell y llun, KIRILL KUDRYAVTSEV

Mae ymgyrch t卯m p锚l-droed Cymru i gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop 2020 yn ailddechrau gyda thaith i Croatia.

Bydd bechgyn Ryan Giggs yn chwarae yn erbyn y Croatiaid yn Osijek am 2pm brynhawn Sadwrn 8 Mehefin.

Ond faint ydych chi'n gwybod am y wlad? Dyma ambell ffaith ddiddorol.

Maint

Mae Croatia yn 56,594 km2 (21,851 m2) ac yn rhif 127 ar restr gwledydd mwya'r byd. Mae Croatia tua dwywaith a hanner maint Cymru, sydd yn 20,779 km2 (8,023 m2).

Gorwedd Croatia ar lan y M么r Adriatig, ac mae'n ffinio 芒 phum gwlad; Bosnia Herzegovina, Hwngari, Montenegro, Serbia, a Slovenia.

Poblogaeth

Mae gan Croatia boblogaeth o 4.15m, sydd tua miliwn yn fwy na Chymru, sydd 芒 3.2m o bobl.

Y brifddinas Zagreb yw'r ddinas fwyaf gyda thua 800,000 yn byw yno. Yn dilyn Zagreb, y dinasoedd mwyaf yw Split ac yna Rijeka.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y 'Zastava Hrvatske', baner swyddogol Croatia. Uwchben y darian mae symbolau o ardaloedd o fewn y wlad; Dubrovnik, Dalmatia, Istria a Slavonia

Hrvatska

Yn y Groasieg, enw'r wlad yw Hrvatska, a'r iaith yw Hrvatski.

Stadion Gradski Vrt, Osijek

Bydd Cymru yn wynebu Croatia yn Stadiwm Gradski vrt yn Osijek. Mae'n gartref i ddau d卯m p锚l-droed, NK Osijek a Fortuna VNO Osijek.

Mae'r stadiwm yn dal 18,5000 o bobl, a bydd 1,100 o seddi wedi eu neilltuo ar gyfer cefnogwyr Cymru.

Mae Cymru wedi chwarae - a cholli - yn Osijek ddwywaith o'r blaen. 2-0 oedd y sg么r yn 2010 dan reolaeth John Toshack, ac hefyd yn 2012 pan oedd Chris Coleman wrth y llyw.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r olygfa fydd yn croesawu cefnogwyr Cymru yn Osijek

Arian

Ers Mai 1994 y Kuna yw arian Croatia, gyda 100 Lipa yn gwneud un Kuna. Ar hyn o bryd gall 拢1 brynu tua 8 kuna a 41 lipa.

Crafats a thei

Mae'r crafat yn dyddio n么l i'r 1630au pan oedd milwyr t芒l o Croatia yn cael eu gyrru i Ffrainc. Roedd y milwyr yn gwisgo crafat rownd eu gyddfau - lliain ar gyfer y milwyr cyffredin a rhai sidan moethus i'r swyddogion.

Ffynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Milwr yn 2014 yn gwisgo crafat i nodi diwrnod rhyngwladol y tei yn Zagreb, Hydref 2014

Enwau poblogaidd

Yr enwau mwyaf poblogaidd i ddynion yw Ivan, Marko, Josip, Stjepan, a Tomislav, ac ymysg yr enwau mwyaf poblogaidd i fenywod mae Marija, Ana, a Ivana.

Game of Thrones

Cafodd Croatia ei ddefnyddio gan HBO fel un o'r lleoliadau i ffilmio'r gyfres Game of Thrones.

Dinas Dubrovnik oedd yn cael ei ddefnyddio rhan amlaf ar gyfer dinas King's Landing yn y gyfres.

Ffynhonnell y llun, Loop Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Waliau trawiadol dinas Dubrovnik

C诺n dalmatian

Mae ardal Dalmatia yn Croatia yn enwog am ei harddwch, ac mae dinasoedd arfordir fel Split a Dubrovnik yn boblogaidd gyda thwristiaid.

Dalmatia hefyd yw cartref y c诺n adnabyddus o'r un enw.

Ffynhonnell y llun, Yuri Smityuk

Y t卯m p锚l-droed cenedlaethol

Fe chwaraeodd Croatia gemau answyddogol yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, hyd 1956. Ond o hynny tan 1991 roeddent yn chwarae fel rhan o d卯m Yugoslavia.

Daeth eu g锚m gyntaf fel gwlad annibynnol yn 1992, gan chwarae tair gwaith yn erbyn Awstralia. O fewn ychydig flynyddoedd i'w g锚m gyntaf roedd y t卯m yn mwynhau 'oes aur', gyda s锚r fel Davor 艩uker, Zvonimir Boban a Slaven Bili膰 yn helpu'r wlad i orffen yn drydydd yng Nghwpan y Byd Ffrainc 1998.

Mae gan Croatia hyd heddiw lawer o s锚r yn eu carfan, fel Ivan Peri拧i膰, Ivan Rakiti膰, a'r capten sy'n chwarae i Real Madrid, Luka Modri膰. Yn dilyn Cwpan y Byd 2018, lle orffennodd Croatia yn ail, enillodd Luka Modri膰 y Ballon d'Or - y wobr sy'n cael ei rhoi i chwaraewr p锚l-droed gorau'r byd.

Mae Cymru wedi chwarae yn erbyn Croatia bedair gwaith, gan golli tair a chael un g锚m gyfartal.

Ffynhonnell y llun, VI-Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraewr ganol cae Real Madrid a Croatia, Luka Modri膰

Enwogion eraill

Mae'r p锚l-droedwyr Zlatan Ibrahimovi膰 (Sweden), Mark Viduka a Mark Bosnich (Awstralia), a Fredi Bobi膷 (Yr Almaen) i gyd o dras Croataidd.

Cafodd yr ymladdwr UFC, Stipe Mio膷i膰 ei eni yn yr UDA i rieni Croataidd, a daw'r chwaraewyr tenis Goran Ivani拧evi膰 a Marin 膶ili膰 o'r wlad.

Ond nid pobl o'r byd chwaraeon yw'r unig enwogion sydd gyda chysylltiadau 芒 Croatia.

Mae'r cerflunwyr Ivan Mestrovic a Oscar Nemon o'r wlad, felly hefyd y seryddwr Ruder Boskovic a'r nofelydd Ivo Andri膰, a chafodd y dyfeisiwr enwog Nikola Tesla ei eni yn Smiljan yng ngorllewin y wlad.

O gefndir Croataidd hefyd mae'r actorion John Malkovich ac Eric Bana, Krist Novoselic o'r band Nirvana, a'r gantores Lorde.

Gwrandewch ar sylwebaeth fyw o'r g锚m ar Camp Lawn ar 成人快手 Radio Cymru o 1.30pm

Hefyd o ddiddordeb: