成人快手

Merched Mawreddog: Arglwyddes Rhondda

  • Cyhoeddwyd

Wrth i bobl Cymru gael eu gwahodd i bleidleisio am y ferch Gymreig go iawn gyntaf i gael ei hanfarwoli fel cerflun yn yr awyr agored fel rhan o brosiect Merched Mawreddog, Cerys Matthews sy'n edrych ar gyfraniad yr ymgyrchydd a dynes fusnes, Arglwyddes Rhondda.

Mae modd pleidleisio dros bwy rydych chi'n credu yw'r fenyw ddylai gael ei hanfarwoli gyda cherflun cyhoeddus, a darganfod mwy amdanynt, ar wefan bbc.co.uk/merchedmawreddog.

Disgrifiad,

Merched Mawreddog: Arglwyddes Rhondda

Arglwyddes Rhondda - Swffragt, dynes fusnes byd-eang, golygydd ac ymgyrchydd gydol oes ar gyfer cydraddoldeb

Magwyd: Llanwern 1883

Marwolaeth: Llundain, claddwyd yn Llanwern 1958

Dyfyniad allweddol: "Y mudiad swffrag茅t oedd daioni bywyd... chwa o awyr iach i'n bywydau clustogog, herciog. Roedd yn rhoi gobaith i ni am ryddid a ph诺er a chyfle."

Roedd Arglwyddes Rhondda yn fenyw freintiedig ond defnyddiodd y fraint honno yn y ffordd orau bosibl - i ymladd dros hawliau bob menyw.

Fe wnaeth hi bethau na fyddai ond ychydig o fenywod eraill o'i chefndir wedi meiddio eu gwneud.

Wedi'i geni gyda'r enw Margaret Haig-Thomas, roedd hi'n swffrag茅t a wnaeth y frwydr am y bleidlais yn newyddion tudalen flaen. Fe ddaeth ag Emmeline Pankhurst i Gymru ac arwain ymgyrch y bleidlais ymhlith merched Casnewydd.

Wynebodd y Prif Weinidog Asquith, oedd yn gwrthwynebu rhoi'r bleidlais i ferched, drwy neidio ar ei gar. Cyneuodd d芒n mewn blwch post a chafodd ei hanfon i'r carchar, lle aeth hi ar streic newyn.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe wnaeth hi sicrhau fod merched yn chwarae rhan hollbwysig, gan eu recriwtio i'r gwasanaethau merched. Daeth yn Gomisiynydd Cymru yn Adran Gwasanaeth Cenedlaethol y Merched, yna'n brif reolwr recriwtio merched yng Ngweinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol yn Llundain.

Wrth groesi'r Iwerydd, fe wnaeth hi oroesi pan suddwyd y Lusitania gan dorpido yn ystod y rhyfel, gan hawlio mwy na 1,100 o fywydau. Gan frwydro i oroesi am awr yn y d诺r rhewllyd, roedd y trawma yn foment dyngedfennol i Arglwyddes Rhondda.

"Beth a wnaeth oedd newid fy marn amdanaf fi fy hun," meddai.

"Nid oedd gen i lawer o hunanhyder... ac yma roeddwn wedi dod drwy'r prawf hwn heb godi cywilydd arnaf fi fy hun. Sylweddolais y gallwn reoli fy ofn pan ddaeth hi'n bryd gwneud hynny."

Eistedd yn Nh欧'r Arglwyddi

Ar 么l y rhyfel, yn ogystal ag ymgyrchu dros hawliau menywod oedd yn gweithio nad oedd am gael eu gwthio yn 么l i'r cartref, fe wnaeth hi hefyd barhau 芒'r frwydr ar gyfer cam olaf y bleidlais i ferched a arweiniodd at yr holl ferched yn cael pleidlais yn 1928.

Hi oedd menyw fusnes byd-eang fwyaf ei hoes - roedd hi'n eistedd ar fwrdd 33 o gwmn茂au, yn goruchwylio ymerodraeth ddiwydiannol o fwyngloddiau, cwmn茂au llongau a phapurau newydd. Hi hefyd oedd y fenyw gyntaf - a hyd yn hyn yr unig fenyw - i fod yn Llywydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Fel newyddiadurwraig, creodd bapur wythnosol arloesol a dylanwadol iawn o'r enw Time and Tide, a oedd yn cynnwys rhai o gewri llenyddol yr 20fed ganrif - o George Orwell a Virginia Woolf i JRR Tolkien.

Roedd ganddo fwrdd arloesol o ferched yn unig ond roedd yn apelio at ferched a dynion. Gan archwilio gwleidyddiaeth Cymru, Prydain a gwleidyddiaeth ryngwladol yn ogystal 芒'r celfyddydau, roedd Time and Tide yn un o'r cyfnodolion allweddol o'r cyfnod rhwng y rhyfeloedd.

Hefyd, defnyddiodd Arglwyddes Rhondda y papur i wthio ei rhaglen flaengar o'r enw'r Gr诺p Chwe Phwynt. Roedd yn gwneud cydraddoldeb rhwng y rhywiau o'r pwys mwyaf.

Roedd Arglwyddes Rhondda yn dadlau bod rhaid i ddeddfwriaeth gymdeithasol ac economaidd gyd-fynd 芒 hawliau pleidleisio i fenywod. Roedd ei rhaglen yn ceisio deddfwriaeth i famau a fyddai'n amddiffyn plant yn well.

Roedd o flaen ei hoes wrth fynnu cyfreithiau llym ar ymosodiadau ar blant ac roedd yn ceisio amddiffyn mamau gweddw 芒 phlant ifanc a'r fam ddi-briod 芒 phlant.

Roedd y tri phwynt arall yn ymdrin 芒 hawliau cyfartal i ddynion a merched, yn mynnu gwarchodaeth gyfartal plant ar gyfer rhieni priod, cydraddoldeb cyfle yn y gwasanaeth sifil a chyflog cyfartal i athrawon.

Ac Arglwyddes Rhondda yw'r rheswm y gall merched eistedd yn Nh欧'r Arglwyddi heddiw. Ymladdodd am 40 mlynedd i gael arglwyddi benywaidd - ond yn anffodus bu farw ar 么l i'r ddeddf yr ymladdodd drosti gael ei newid, yn rhy hwyr i dderbyn ei sedd ei hun.

Byddai unrhyw un o'r cyflawniadau unigol hyn wedi sicrhau ei lle mewn hanes - rhowch nhw i gyd at ei gilydd ac mae Arglwyddes Rhondda yn parhau i fod yn un o'r ffigyrau mwyaf nodedig y mae Cymru wedi eu hadnabod erioed.