成人快手

Merched Mawreddog: 'Cyfle i gydnabod Hen Wlad ein Mamau'

  • Cyhoeddwyd
cerys matthews a'r merched mawreddog
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Cerys Matthews mae'n bwysig dathlu ein r么l fodelau benywaidd hanesyddol

Wrth i bobl Cymru gael eu gwahodd i bleidleisio am y ferch Gymreig go iawn cyntaf i gael ei hanfarwoli fel cerflun yn yr awyr agored, Cerys Matthews sy'n egluro cefndir y prosiect Merched Mawreddog a pham ei bod hi mor bwysig dathlu ein r么l fodelau benywaidd hanesyddol.

Mae modd pleidleisio dros bwy rydych chi'n credu yw'r fenyw ddylai gael ei hanfarwoli gyda cherflun cyhoeddus, a darganfod mwy amdanynt, ar wefan bbc.co.uk/merchedmawreddog.

Allwn i ddim credu pan ddywedwyd wrthyf nad oedd un cerflun o Gymraes oedd wedi bod mewn gwirionedd ar strydoedd a sgwariau Cymru.

Mae tystiolaeth o gyflawniad gwrywaidd o'n cwmpas ym mhobman. Gellir gweld cerfluniau o ddiwydianwyr, milwyr, gwladweinwyr, cerddorion ac eiconau chwaraeon mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru.

Ewch am dro o amgylch ein prifddinas ac mae dynion mewn efydd a marmor ym mhobman, gan gynnwys Aneurin Bevan, Ivor Novello, Lloyd George, Syr Gareth Edwards, Syr Tasker Watkins, Fred Keenor a John Batchelor.

Ond nid oes un cerflun o ferch a wnaeth fyw mewn gwirionedd - yn hytrach na cherflun generig - ar wah芒n i'r ymladdwr Celtaidd Buddug yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.

Mae ymadrodd Saesneg sy'n llythrennol yn dweud "Ni allwch fod yr hyn na allwch ei weld". Yng Nghymru, mae merched wedi tyfu am genedlaethau heb unrhyw arwydd gweladwy o'r merched anhygoel sydd wedi helpu i lywio ein cenedl.

Efallai fod yr arwresau hanesyddol hyn yn anweledig ond nid yw hynny'n golygu nad oedden nhw'n bodoli.

Rydym yn byw yn Hen Wlad ein Mamau yn ogystal 芒'n Tadau. Ac mae'n hanfodol ein bod yn gwybod straeon am ferched y gorffennol er mwyn iddynt fod yn r么l fodelau ysbrydoledig ar gyfer merched y dyfodol.

Problem ryngwladol

Ond nid problem Gymreig yn unig yw'r diffyg henebion sy'n dathlu merched hanesyddol. Mae'r un peth yn wir ledled Prydain a'r byd.

Yn 2016, fe wnaeth Caroline Criado Perez - yr awdur a ymgyrchodd i gael Jane Austen ar y nodyn banc - ddadansoddi rhywiau'r holl gerfluniau a restrir ar gronfa ddata cenedlaethol Cymdeithas Henebion a Cherfluniau Cyhoeddus y DU.

Darganfu mai 158 yn unig o'r 925 o gerfluniau a gofnodwyd oedd yn ferched oedd yn haeddu cerflun sy'n sefyll ar ei ben ei hun. O'r 158 hyn, roedd bron i hanner yn ffigyrau alegoraidd, roedd 14 o Fair Forwyn a 46 o'r teulu brenhinol. Gadawodd hynny 25 cerflun yn unig o ferched hanesyddol sydd ddim yn frenhinol yn y DU.

Yn Awstralia, dim ond 3% o gerfluniau cyhoeddus sydd yn anrhydeddu merched go iawn sydd ddim yn frenhinol, ac yn America fe wnaeth arolwg o henebion yn 2011 restru llai na 400 o'i 5,000 o gerfluniau hanesyddol fel cerfluniau o ferched, sefyllfa y cyfeirir ato fel "y nenfwd marmor".

Mewn ymateb i'r diffyg cerfluniau benywaidd hwn, mae ymgyrchoedd wedi cael eu rhoi ar waith ledled y byd.

Yn yr Alban, bydd y National Wallace Monument's Hall of Heroes - sydd yn gartref i 16 penddelw o arwyr Albanaidd fel John Knox - yn croesawu ei ddau benddelw cyntaf o ferched yn ystod y gwanwyn nesaf, a ddewiswyd gan bleidlais gyhoeddus.

Dadorchuddiwyd cerflun o Emmeline Pankhurst ym mis Rhagfyr yn ei dinas enedigol, Manceinion, lle mae un heneb fenywaidd arall ymhlith 17 o gerfluniau gwrywaidd, sef y Frenhines Fictoria.

Bydd Central Park yn Efrog Newydd - cartref i 22 o ddynion efydd - yn ychwanegu ei gerflun cyntaf erioed o ferch go iawn yn 2020.

Dechrau'r ymgyrch

A nawr, mae Cymru o'r diwedd yn dilyn eu hesiampl. Ddwy flynedd yn 么l, fe wnaeth y newyddiadurwr a'r darlledwr Carolyn Hitt ysgrifennu erthygl yn The Western Mail yn mynegi ei anghrediniaeth nad oedd un cerflun o ferch Gymreig oedd wedi byw mewn unrhyw ofod yn yr awyr agored yng Nghymru.

Fe wnaeth Helen Molyneux - cadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig bryd hynny - ei ddarllen ac ni allai hithau gredu chwaith. Felly, penderfynodd wneud rhywbeth ynghylch hynny.

"Dechreuais edrych i mewn iddo ac roeddwn mewn sioc lwyr, nid yn unig nad oedd unrhyw gerfluniau, ond ei bod mewn gwirionedd yn anodd dod o hyd i straeon am ferched oedd wedi 'cyflawni'," meddai Helen.

"Cefais hefyd fy syfrdanu ei bod yn ymddangos fod pobl y siaradais amdano gyda nhw yn derbyn yn ddidaro nad oedd unrhyw ferched oedd yn haeddu cael eu dathlu! Ni allent feddwl am unrhyw un oedd yn haeddu cerflun - ac felly nid oedden nhw'n bodoli.

"Mewn gwirionedd, wrth gwrs, nid ydym yn gwybod unrhyw beth amdanynt bellach am nad oeddent yn cael eu cydnabod. Yn syml, ni chofnodwyd eu hanes. Dechreuais feddwl beth oedd y rheswm am hyn a beth y dylem ei wneud amdano."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cerflun o Shirley Bassey ei ddangos am gyfnod yng Nghastell Caernarfon yn 2016 - ond prin yw'r rhai o fenywod sydd wedi'u codi'n barhaol yng Nghymru

Mae'n ychwanegu: "Rwyf yn gredwr mawr yn 'ni allwch fod yr hyn na allwch ei weld'. Ac rydym yn sicr yn gwybod y bydd merched yn arbennig yn efelychu'r hyn maen nhw'n ei weld.

"Edrychwch ar yr ymateb sydd ganddynt i luniau mewn cylchgronau, ar-lein - nad yw bob amser yn dda. Mae hysbysebwyr yn galw'r sawl sy'n flogio ac yn defnyddio instagram y mae ein merched yn eu dilyn yn 'ddylanwadwyr' oherwydd eu bod yn ei weld ac am fod fel nhw.

"Ond ble mae delweddau bob dydd o ferched sydd wedi cyflawni gymaint yng Nghymru dros y canrifoedd? Mae gennym gerfluniau o ddigonedd o ddynion. Ond dim o ferched.

"Sut allwn ni normaleiddio llwyddiant a chyflawniad benywaidd os nad ydym yn cael yr un gydnabyddiaeth o ddydd i ddydd 芒'n cymheiriaid gwrywaidd.

"Felly mae'r prosiect cerfluniau yn ffordd eithriadol o wneud llwyddiant benywaidd yn 'arferol' - rhywbeth na ddylid cyfeirio ato fel rhywbeth prin a gwerthfawr.

"I roi delweddau o ferched llwyddiannus, ysbrydoledig i'n merched - a'n bechgyn - y maen nhw'n eu gweld fel rhan o'r ardal maen nhw'n byw ynddi, oherwydd yn y pen draw nid yw bod yn ferch lwyddiannus yn unrhyw beth nodedig."

Pleidlais gyhoeddus

I wneud y cerflun yn realiti, aeth Helen ati i sefydlu tasglu o ferched, nodi lleoliad amlwg oedd wedi'u glustnodi eisoes ar gyfer celfyddyd gyhoeddus yn natblygiad newydd Sgw芒r Canolog Caerdydd, a pherswadio Cyngor Dinas Caerdydd y dylai unrhyw gerflun sy'n cael ei adeiladu ar y safle fod o ferch hanesyddol Gymreig.

Gyda chymorth Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, fe wnaeth tasglu Helen o haneswyr a merched o feysydd busnes, gwyddoniaeth, y gyfraith, y celfyddydau a'r cyfryngau, greu rhestr gychwynnol o 50 o ferched hanesyddol Cymreig.

"Lluniodd panel o arbenigwyr restr fer o bum merch Gymreig allan o'r 50 - Elizabeth Andrews, Betty Campbell, Cranogwen, Elaine Morgan a'r Arglwyddes Rhondda - sydd yn cael eu rhoi ymlaen i bleidlais gyhoeddus fel rhan o'r prosiect Merched Mawreddog.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

(O'r chwith uchaf gyda'r cloc): Elizabeth Andrews, Betty Campbell, Cranogwen, Arglwyddes Rhondda, Elaine Morgan

Y gobaith yw mai'r dechrau yn unig fydd y cerflun hwn, fel mae Helen yn egluro: "Fe wnaethom ddewis merched o ddisgyblaethau a llwybrau bywyd amrywiol rydyn ni'n teimlo sy'n cynrychioli'r gorau o fenywdod Cymreig.

"Mae'r dewis yn aruthrol o anodd ac mae'n hanfodol fod pobl yn deall mai'r cerflun hwn fydd y cyntaf o nifer gobeithio ledled Cymru ac felly nid y bwriad yw dewis y ferch Gymreig 'orau' ond dewis symbol o'r hyn mae merched Cymreig wedi'i gyflawni dros y canrifoedd - yn ogystal 芒 bod yn deilwng yn ei rhinwedd ei hun o sicrhau fod ei stori yn cael ei chofio a'i dathlu.

"Ac yn bwysig iawn rydym am iddo fod yn gerflun anhygoel - darn o gelfyddyd y bydd pobl yn dod i Gaerdydd yn arbennig i'w weld. Hwn fydd y lle y bydd ymwelwyr i'r brifddinas yn heidio yno i gael tynnu eu hunlun cyntaf! Tirnod eiconig."

Unwaith y bydd pobl Cymru wedi dewis eu harwres hanesyddol, bydd tri o gerflunwyr byd-enwog yn cystadlu am y fraint o greu'r cerflun.

Bydd y gwaith celf yn cael ei ddadorchuddio yn 2020 ac wrth i filoedd o ymwelwyr a phobl leol gamu allan o orsaf Ganolog Caerdydd y cerflun cyntaf y byddant yn ei weld fydd merch hynod o hanes Cymru.

Yn olaf, bydd Cymru yn dechrau teimlo fel Hen Wlad ein Mamau yn ogystal 芒'n Tadau.