成人快手

Cassie yn 么l yn y Cwm!

  • Cyhoeddwyd

Mae Cassie Morris yn dychwelyd i Pobol y Cwm.

Ar 么l saib o 15 mlynedd, mae Cassie, sydd yn cael ei hactio gan Sue Roderick, yn dod yn 么l i Gwmderi, a hynny er mwyn gwasgaru llwch ei ffrind, Mrs Mac.

Mae hyn yn deyrnged i Iola Gregory, actores Mrs Mac, a fu farw y llynedd. Cafodd Cymru Fyw sgwrs 芒 Sue yngl欧n 芒 sut deimlad yw hi i wisgo'r sodlau uchel a'r clust-dlysau mawr unwaith eto.

Cysylltodd y cynhyrchydd efo fi a d'eud fod ganddo fo syniad i 'neud teyrnged i Iola - fod Cassie yn dod n么l i wasgaru llwch Mrs Mac at ei g诺r hi, Glan (Cadfan Roberts), yn y Cwm.

O'n i'n licio'r syniad, ond o'n i'n poeni am ddod n么l ar 么l 15 mlynedd, ac isho iddo fo fod yn rwbath credadwy. Ond o'n i'n gallu credu hwn - y stori ydi fod Cassie a Mrs Mac wedi cadw mewn cysylltiad yr holl amser - felly o'dd hyn yn gweithio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llwch Mrs Mac yn cael ei wasgaru yn y Cwm, yn yr un lle 芒 llwch ei g诺r, Glan

'Nath Cassie adael y Cwm 15 mlynedd yn 么l ar 么l i'w mab, Steffan (Huw Garmon), ladd ei chyn-诺r Teg (Ioland Williams), a mynd i fyw efo'i mam yn y gogledd.

Nes i ofyn am bopeth am y cyfnod ers hynny gan y cynhyrchydd - lle o'dd Cassie wedi bod, be' o'dd hi 'di 'neud - achos o'n i isho dod 芒 Cassie yn 么l fel oedd hi. Do'dd na'm pwynt iddi ddod yn 么l os mai dim yr hen Cassie oedd hi.

Ac er mod i'n gwbo' sut i chwarae Cassie, o'dd cael y sgriptiau yn gywir yn bwysig, ond maen nhw 'di gneud job dda efo hynny, ac mae'r un egni yna - sbort a direidus - ac mae hi'n siarad ei meddwl, fel roedd hi!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwallt mawr, clust-dlysau mawr, gwefusau coch - doedd Teg ddim wedi cael y memo...

O'n i'n eitha' pryderus achos faint o amser o'dd 'di bod. Ond ma' Cassie, mae'n debyg, yn un o'r cymeriadau o'dd pobl yn ei chofio ac yn ei hoffi, felly o'dd hynny'n hwb.

Ac o'n i'n eitha' nerfus ar y diwrnod cynta', ond unwaith i mi gael clust-dlysau mawr a'r dillad coch 'mlaen o'dd o fel reidio beic!

Mae'r set wedi newid, wrth gwrs, ac yn llawer mwy a moethus nag oedd yr hen set, ond ma' lot o betha' yr un fath. Mae lot o'r un heb wynebau yna - Andrew Teilo (Hywel), Siw Hughes (Cath), Nia Caron (Anita) - lot o'r un rhai o'n i'n gweithio'n agos efo nhw 15 mlynedd yn 么l. Ac mae lot o'r un criw yna hefyd.

Ond er fod yna wyneba' newydd hefyd, roedd pawb yn groesawgar ac annwyl iawn - mae o fel teulu mawr a dwi 'di joio'n ofnadwy.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cassie yn dathlu'r Nadolig yn y Deri 1994. Mae Hywel (yn y rhes flaen, ar y chwith) dal yn byw, ac yn achosi trafferth, yng Nghwmderi

O'dd ffilmio'r olygfa pan o'dd Cassie yn gwasgaru llwch Mrs Mac yn fwy emosiynol nag o'n i wedi ei fwriadu, a d'eud y gwir. Ddoth o o rwla o'n i ddim wedi bwriadu iddo fo ddod. O'dd o'n naturiol achos o'n i'n meddwl am Iola, wrth gwrs. Allwn i ddim peidio - ro'n i'n ffrindia' mawr efo hi.

Roedd ei theulu hi wedi bod yn awyddus iawn i ni 'neud hyn, a dwi'n meddwl ein bod wedi gallu rhoi teyrnged addas iddi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Na fe'n un mowr! Cassie a Mrs Mac yn joio jin (neu ddau), er fod eu gw欧r, Teg a Glan, ddim bob amser yn hapus!

Gallwch wylio Cassie yn dychwelyd i Gwmderi ar S4C am 20.00 Nos Lun 3 Rhagfyr neu ar 成人快手 iPlayer wedi'r darllediad

Hefyd o ddiddordeb...