成人快手

Ateb y Galw: Yr artist Lowri Mai

  • Cyhoeddwyd
Twinkle and GloomFfynhonnell y llun, Twinkle and Gloom

Yr artist Lowri Mai, sy'n creu darnau celf o dan yr enw Twinkle and Gloom, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Rhydian Dafydd yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi ddim yn si诺r iawn ond un peth dwi'n cofio neud fel hogan bach yn t欧 Nain a Taid ydi rhoi dolis bach mewn bocs domin么s gwag fel arch... Oedd Nain yn deud mod i'n beth bach morbid.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Cymeriad Ted, o'r ffilmiau Bill & Ted.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gorfod meimio canu yn y c么r mewn sioe ysgol.

Ffynhonnell y llun, Lowri Mai
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydi lluniau dy a gwyn yn gweddu personoliaeth morbid Lowri Mai?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Peidiwch 芒 chwerthin, ond mewn arddangosfa am Spice Girls. Oedd o'n amser emosiynol!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae si诺r bod gen i, ond dwi ddim yn gallu meddwl am rai.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'n hoffi adra, mae ardal Bethesda yn hyfryd. Dwi hefyd yn hoff iawn o Fynydd Hiraethog ger Dinbych - lle arswydus.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi meddwl ei fod o rhwng gweld The League of Gentlemen yn fyw, a gweld Sigur R贸s yn fyw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Oedd sioe fyw 'The League of Gentlemen' i bobl lleol yn unig?

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Distaw, morbid a girly.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ffilm o Seland Newydd o'r enw Eagle vs Shark. Mae o rhyw fath o nerdy rom-com, gyda hiwmor rili sych. Dwi'n rili licio fo oherwydd mae'r prif ferch, Lily, yn hollol wahanol i brif ferched ffilmiau Hollywood, hi ydi'r ferch fysa'n ffrind i'r prif ferch ym mhob ffilm arall. Dwi'n gallu uniaethu efo hi yn llwyr.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Mae hon yn rili anodd! Dwi am deud panad o de efo Harry Hill, oherwydd dwi 'di bod yn gwylio lot o'i raglenni'n ddiweddar a mae ei hiwmor o'n ticlo fi.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi byth wedi yfed cwpan o goffi.

O Archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Panad a chacen, 'de.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Cwestiwn anodd. Dwi am dewis Unlovable gan The Smiths oherwydd y llinell "If I seem a little strange well that's because I am". C芒n bach doniol.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cawl ffa chilli, cyri cyw i芒r o tecaw锚 Bethesda, a cacen siocled a hufen dwbl i bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Lana Del Rey, oherwydd mae hi'n dduwies!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Nesdi Jones