成人快手

Ateb y Galw: Y cerddor Rhydian Dafydd

  • Cyhoeddwyd
Rhydian DafyddFfynhonnell y llun, Sarah Jeynes

Y cerddor Rhydian Dafydd o'r band The Joy Formidable sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Rhodri Meilir yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cr茂o mewn pwll padlo yn yr ardd gefn gan fod y d诺r mor boeth!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Hmm. Dwi'n amau mai y crush cynta' oedd Jane Seymour. Si诺r o fod drwy wylio ffilmiau Sinbad. Da oedd rheine!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tydi Jane Seymour ddim wedi newid rhyw lawer ers ei chyfnod yn ffilmiau 'Sinbad'!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Er o'n i'n actio lot, dwi'n cofio gorfod canu fel unigolyn yn yr Urdd pan yn blentyn ifanc a ddoth dim llais allan. Dwn i'm os mai swildod neu be' oedd, ond roedd yn wers gynnar boenus am hyder. Rhyfedd mai canwr/sgwennwr droies i allan i fod!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

O dwi'n cr茂o reit aml. Ond collodd Matt, ein drymar, ei frawd i ganser cwpwl o ddiwrnode yn 么l felly mae dipyn o ddagre wedi bod yn ddiweddar wrth gwrs.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes tad. Llosgi y gannwyll ar y ddwy ochr yw un.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

W. Anodd iawn. Mae yna lot dal i'w weld a mae gymaint o'r wlad yn brydferth. Ddudai ambell i le heddiw.

Y daith dros y bryniau o'r Wyddgrug i Drawsfynydd (Cerrigydrudion, Capel Celyn - atgofion o weld Nain a Taid pan yn blentyn); Y G诺yr (ardal eang efo llefydd cerdded gr锚t yn ymyl y m么r); Ynys Llanddwyn (traeth eitha' lleol, lle da i gerdded i ddianc ac adnewyddu a thawelu y meddwl); Moel Famau (wedi cerdded y bryniau yma sawl gwaith drwy adegau da a drwg. 'Dwi'n mwynhau'r golygfeydd panoramig, y gwyntoedd cryf ac mae'r lle yn fy atgoffa i o adre.)

O Archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dw'n i'm os 'di fy mhen yn gweithio fel yna i fod yn onest. 'Di cael gymaint o nosweithiau anhygoel efo ffrindiau a theulu. Y cwmni yw'r prif beth.

O ran cerddoriaeth, roedd chwarae yn Stadiwm y Mileniwm efo Paul McCartney a'r Manic Street Preachers yn sbesial iawn.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dwi'n gobeithio mai gonest, ffeind a barod i ddysgu/gwrando fydden nhw!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

The Shining yw un ohonynt. Mae hi yn ffilm berffaith o ran awyrgylch ac adeiladu tensiwn i mi. Mae'r cinematography, manylder y cyfansoddiadau a'r set yn anhygoel, aeddfed ac yn fythgofiadwy. Masterpiece Stanley Kubrick.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma Johnny! Mae ffilm 'The Shining' yn codi braw, ond mae Rhydian yn ffan

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Jimi Hendrix. Arwr cynnar i mi. Fuaswn i'n mwynhau rhannu syniadau efo fo, jest siarad, ac wrth gwrs jam bach ar y diwedd!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Roeddwn yn fwnci mewn bywyd arall. Mae cwpwl o ffrindiau yn gwbod hyn yn iawn!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dathlu efo fy nheulu a ffrindiau. Rhannu stor茂au. Eu cymryd i lefydd prydferth dydyn nhw heb fod a rhannu yr ambell i beth doeth dwi wedi ei gasglu dros y blynydde. Cael gwledd efo digon o fwydydd a cherddoriaeth o gwmpas y byd ac wedyn deifio mewn llong danfor i'r lle dyfna' posib. Wedyn hedfan ni gyd i bob gwlad. Dwi'm yn gofyn lot!

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Efallai All along the watchtower gan Jimi Hendrix. Mae'r g芒n yn fy nghymryd i rywle arall. Rhywbeth prin a phwerus.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae caneuon Jimi Hendrix dal i gael effaith, bron i 50 mlynedd ar 么l ei farwolaeth

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cawl Tom Yum, risotto madarch a phwdin toffi stici.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Falle Donald Trump ar hyn o bryd, wedyn fyddai'n gallu rhoi slap go iawn i'n hun a gobeithio deffro yn gall! Fel arall, 'sa bod yn Einstein am y diwrnod yn anhygoel i brofi y lefel yna o ddealltwriaeth.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Lowri Mai (Twinkle and Gloom)