Llywodraeth y DU yn ymrwymo i ariannu S4C nes 2022
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog darlledu'r Deyrnas Unedig wedi dweud wrth bwyllgor o ASau y bydd Llywodraeth y DU yn gwarchod yr arian sy'n cael ei roi ganddi i S4C hyd at 2022.
Dywedodd Margot James y bydd y sianel yn dal i gael 拢7m y flwyddyn gan y llywodraeth tan hynny, ac wedi'r flwyddyn honno bydd holl arian cyhoeddus S4C yn dod o ffi drwydded y 成人快手.
Cyn heddiw roedd Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn ymrwymo i warchod yr arian y mae'n ei roi i S4C ar y lefel presennol o 拢6.762m hyd at 2020 yn unig.
Ond dywedodd y byddai penderfyniad ar gyllideb S4C am y ddwy flynedd ganlynol yn ddibynnol ar ganlyniad yr adolygiad gwariant, sy'n edrych ar wariant holl adrannau'r llywodraeth.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C bod y cyhoeddiad yn "atgyfnerthu sylwadau blaenorol Llywodraeth y DU am bwysigrwydd darparu sefydlogrwydd ariannol i S4C, ac mae diogelu ein lefelau presennol o gyllid tan 2022 yn gam arall ymlaen".
Aildrefnu'r adain fasnachol
Yn y cyfamser, mae S4C wedi dechrau aildrefnu adain fasnachol y sianel.
Y prif weithredwr Owen Evans fydd yn cadeirio bwrdd masnachol y sianel, a elwir yn SDML, yn y dyfodol.
Mae Mr Evans yn adolygu'r strategaeth fasnachol ar hyn o bryd.
Dywedodd S4C ei bod yn ymateb i argymhellion adolygiad annibynnol o'r sianel gan Euryn Ogwen Williams.
Colledion posib
Yn gynharach eleni roedd methiant cwmni Loteri Cymru wedi arwain at golledion posib o hyd at 拢3m i SDML.
Pwrpas SDML yw buddsoddi cronfa fasnachol S4C er mwyn creu incwm ar gyfer elfen gwasanaeth cyhoeddus y busnes.
Dr Carol Bell, cyn-aelod Awdurdod S4C, oedd yn cadeirio'r bwrdd masnachol tan yn ddiweddar.
Yn 么l cofnod yn Nh欧'r Cwmn茂au, fe ddaeth cyfnod Dr Bell fel cyfarwyddwr SDML i ben ar 30 Mehefin.
Mae SDML wedi llwyddo i greu elw i S4C, ond fe wnaeth trafferthion Loteri Cymru danlinellu'r risg oedd ynghlwm 芒 buddsoddiadau'r corff.
Roedd adolygiad Mr Williams ar ran Llywodraeth y DU wedi argymell dod 芒 gweithgareddau masnachol y sianel dan reolaeth bwrdd S4C, ac i'r sianel gael mwy o ryddid i fuddsoddi a chynhyrchu refeniw masnachol.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae'r Awdurdod wedi derbyn argymhelliad yr adolygiad annibynnol o S4C yngl欧n 芒 dod 芒'r gweithgareddau masnachol o dan y prif fwrdd ac wedi penderfynu y dylai Owen Evans y prif weithredwr gadeirio'r bwrdd masnachol.
"Y disgwyl yw i Owen gyflwyno strategaeth fasnachol adolygedig yn fuan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd7 Awst 2017