成人快手

Colled posib o 拢3m i S4C wedi methiant cwmni loteri

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C

Fe allai S4C golli 拢3m yn dilyn methiant y cwmni tu 么l i Loteri Cymru.

Fe aeth y g锚m loteri Gymreig i ddwylo'r gweinyddwyr fis Mawrth, gan adael dros 10,000 o gwsmeriaid heb yr hawl i gyrraedd yr arian sydd ganddynt yn eu cyfrifon ar-lein.

Mae 成人快手 Cymru ar ddeall mai cangen fasnachol S4C, corff o'r enw SDML (S4C Digital Media Limited), oedd prif gefnogwr ariannol y fenter, yn ogystal 芒 bod yn bartner darlledu ar gyfer canlyniadau Loteri Cymru.

Dywedodd S4C nad oeddynt yn disgwyl i fwyafrif y benthyciad gwerth 拢2.5m rhoddodd SDML i Loteri Cymru gael ei ad-dalu, na chwaith oddeutu 拢0.6m o'r ffi am hawliau darlledu sy'n ddyledus.

Bwriad S4C trwy gefnogi cynllun busnes Loteri Cymru oedd denu gwylwyr newydd a chefnogi achosion da, ond methodd y g锚m 芒 denu digon o chwaraewyr i'w gwneud yn gynaliadwy.

G锚m newydd?

Aeth Loteri Cymru i ddwylo'r gweinyddwyr fis Mawrth.

Ar y pryd roedd dros 10,000 o gwsmeriaid gydag arian yn eu cyfrifon ar-lein. Ar gyfartaledd, 拢8 oedd gan bob person, ond mae gan un cwsmer 拢1,000.

Ffynhonnell y llun, Loteri Cymru

Mae'r gweinyddwyr yn trafod trosglwyddo cwsmeriaid Loteri Cymru i gwmni loteri arall.

Y gobaith yw y gallai cwsmeriaid sydd ag arian yn eu cyfrifon naill ai chwarae'r g锚m newydd, neu dynnu eu harian allan.

Ond dydy trosglwyddo'r cwsmeriaid ddim yn debygol o gyfateb i werthiant y busnes a fyddai'n galluogi S4C i adennill ei buddsoddiad.

Beth oedd Loteri Cymru?

拢1 oedd cost chwarae Loteri Cymru yn wythnosol, gyda jacpot gwerth 拢25,000.

Darlledwyd canlyniadau'r g锚m gyntaf ar S4C ar 28 Ebrill 2017.

Talodd dros 拢350,000 o wobrau, a dosbarthodd 拢120,000 i achosion da yng Nghymru.

Pan lansiodd Loteri Cymru, dwedodd y corff bod gan un o bob naw chwaraewr y siawns o ennill gwobr, siawns oedd yn uwch na'r hyn sydd ei angen i ennill gyda gem 'Lotto' y Loteri Cenedlaethol.

Yn ystod saith wythnos cyntaf y g锚m, fe enillodd dros hanner chwaraewyr Loteri Cymru wobrau.

Pan aeth Loteri Cymru i'r wal, fe gadarnhaodd S4C ei bod wedi "prynu hawliau i ddarlledu Loteri Cymru" ond doedd dim s么n am faint ei buddsoddiad ariannol yn y cwmni.

Yn dilyn cwestiynau gan 成人快手 Cymru, mae S4C wedi datgelu bod gan SDML "gytundeb gyda Loteri Cymru oedd yn cyfuno arian datblygu 芒 ffioedd hawliau, gan roi hawliau ecsliwsif i S4C ddarlledu canlyniadau'r loteri".

Mewn datganiad, dywedodd S4C mai ei gobaith oedd "y byddai'r Loteri yn sefydlu ei hun fel digwyddiad wythnosol poblogaidd" ond bod Loteri Cymru wedi methu 芒 denu digon o chwaraewyr i fod yn gynaliadwy.

Roedd hi'n "fater o bryder" i S4C bod nifer sylweddol o chwaraewyr wedi prynu tocynnau o flaen llaw wrth i'r loteri gau.

"O ganlyniad, mae S4C yn dweud bod SDML, ei braich fasnachol, "yn bwriadu ildio rhan o'r ad-daliad y gallai ei ddisgwyl o asedau Loteri Cymru" i sicrhau bod y chwaraewyr i gyd yn cael eu had-dalu.

Ffynhonnell y llun, Loteri Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Loteri Cymru ei lansio fis Ebrill 2017 gyda'r bwriad o godi 拢5m ar gyfer achosion da dros gyfnod o bum mlynedd

Mae llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr, Suzy Davies AC, yn dweud i drafferthion Loteri Cymru godi cwestiynau am drefn S4C o graffu ar benderfyniadau masnachol.

Dwedodd Ms Davies: "Mae yna ddyletswydd o due dilligence ar unrhyw gorff sy'n gwario arian cyhoeddus, gan sicrhau bod unrhyw risg yn cael ei hasesu'n ddoeth. Yn anochel, bydd cwestiynau yngl欧n 芒'r llywodraethu o S4C pan fydd penderfyniad gwario wedi datblygu i fod mor wael 芒 hyn.

"Mae'r adolygiad diweddar o S4C wedi argymell newid y strwythur llywodraethu. Mae'r bennod hon yn awgrymu bod hynny'n syniad da."

Mae SDML yn defnyddio cronfa masnachol S4C i fuddsoddi mewn mentrau sydd i fod i ddod ag incwm i S4C. Doedd dim arian o ochr gwasanaeth cyhoeddus y busnes wedi ei fuddsoddi yn Loteri Cymru.

Yn 么l S4C, mae'r "gwerth a gr毛wyd gan y gr诺p masnachol yn ei gyfanrwydd dros y cyfnod yn fwy na'r golled yn sg卯l Loteri Cymru."