成人快手

Popeth ry'ch chi angen ei wybod am y tywydd poeth

  • Cyhoeddwyd

Gyda rhagolygon tywydd yn ei addo hi'n sych a chynnes am o leia' pythefnos eto, dyma rai ffeithiau am y tywydd diweddar a chynghorion ar sut i gadw'n ddiogel:

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cannoedd o bobl yn heidio i Ynys y Barri dros yr haf

Bu Cymru Fyw yn holi Rhian Haf, cyflwynydd tywydd 成人快手 Cymru, am rai ffeithiau am Haf 2018

Pam mai Porthmadog yw'r ardal boethaf yng Nghymru?

"Gan fod y gwynt yn chwythu o'r gogledd-ddwyrain ar hyn o bryd, Porthmadog yw'r man cynhesa, wrth i'r gwynt gael ei chwythu dros fynyddoedd Eryri, ac i lawr yr ochr arall pan ma'r aer yn cael ei gywasgu, yn sychu ac yn cynhesu fwyfwy. Y term am hyn yw effaith 'FOEHN'."

Oes 'na law ar ei ffordd?

"Ar wah芒n i ambell gawod ddydd Mercher neu ddydd Iau yr wythnos hon - ac ambell gawod o law taranau yr wythnos nesa', fydd hi'n dal yn sych weddill yr wythnos, ac wythnos nesa' hefyd, a'r tymheredd dal yn uwch na'r arfer. "

Pryd oedd hi mor boeth 芒 hyn ddiwethaf?

"Y mis diwetha' oedd y mis Mehefin cynhesaf ar gofnod i Gymru a Gogledd Iwerddon. Ar gyfartaledd roedd y tymheredd yn 19.9C, fel ym mis Mehefin 1976, ac yn debyg i fis Mehefin 1940 pan roedd hi'n 20.6C ar gyfartaledd."

Pam ein bod ni'n cael cyfnod mor hir o wres a sychder ar hyn o bryd?

"Y rheswm am y gwres a'r sychder yw'r gwasgedd uchel dros y Deyrnas Unedig. Mi fydd yn gwanhau rhywfaint ganol yr wythnos, neith alluogi rhai cawodydd i ddatblygu, ond ddiwedd yr wythnos mi fydd gwasgedd uchel arall yn sefydlu dros y wlad, sy'n golygu y bydd hi'n troi'n sych i ni gyd eto, ac yn cynhesu fwyfwy erbyn y penwythnos."

Beth am lefel y paill?

"Mae lefel y paill yn debygol o fod yn uchel am y pythefnos nesa'. Gwair a chwyn sy'n gyfrifol am glefyd y gwair ar hyn o bryd."

Beth am gryfder yr haul?

"Mae lefel yr UV yn uchel iawn ar hyn o bryd - mae'r haul ar ei gryfa' ar yr adeg yma o'r flwyddyn, felly mae'n ddoeth i osgoi'r heulwen yn gynnar yn y p'nawn; cario d诺r pan yn teithio, ac yn ystod digwyddiadau mawrion. "

Sut fydd y tywydd ar gyfer y Sioe Fawr a'r Eisteddfod Genedlaethol?!

"Mae hi'n anodd rhagweld y tywydd bron i dair wythnos o flaen llaw, ond does dim s么n y bydd y gwasgedd uchel yn symud oddi wrthon ni am sbel eto, er bod yna arwyddion y bydd y tywydd yn fwy ansefydlog ddiwedd mis Gorffennaf, efo gwynt o'r gorllewin, all ddod 芒 glaw. "

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y tywydd yn wlyb ac yn ansefydlog iawn adeg Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n yn 2017, ond daeth yr haul i wenu am ychydig.

Sut i gadw'n ddiogel yn yr haul

  • Yfed digon o dd诺r

  • Osgoi bod allan yn haul cynnes y prynhawn

  • Gwisgo digon o eli haul rhag llosgi

  • Cau'r llenni i gadw'r t欧 yn oer

Sut i arbed d诺r

Yn 么l D诺r Cymru does dim problemau gyda ffynonellau d诺r ar hyn o bryd. Ond eu neges ydy i ddefnyddio cymaint o dd诺r yfed ag rydych ei angen, ond i beidio 芒'i wastraffu.

Dyma'u cyngor ar sut i arbed d诺r:

  • Diffodd y tap wrth olchi dannedd

  • Cymryd cawod yn lle bath

  • Mae'n bwysig i beidio 芒 chwtogi ar faint o dd诺r rydych yn ei yfed, ond cadwch jwg o dd诺r yn yr oergell fel nad oes rhaid i chi redeg y tap mor hir am ddiod oer

  • Llenwch y peiriant golchi llestri a'i osod ar 'eco' neu arhoswch a golchi eich llestri i gyd ar un tro

  • Defnyddiwch gan d诺r yn hytrach na phibell dd诺r i ddyfrio eich planhigion a blodau. Mae dyfrio yn gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y prynhawn yn lleihau anweddiad ac yn arbed d诺r.

Sut i edrych ar 么l anifeiliaid yn y tywydd poeth

Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ci-sgodi rhag yr haul.

Mae RSPCA Cymru yn rhybuddio perchnogion anifeiliaid a ffermwyr i gymryd gofal o'u hanifeiliaid yn y tywydd poeth.

Dyma rai cynghorion ar sut i ofalu am anifeiliaid mewn tywydd poeth:

  • Peidiwch 芒 gadael c诺n mewn cerbydau crasboeth. Yn 么l RSPCA gall tymheredd godi'n sydyn mewn ceir, carafanau a hyd yn oed stafelloedd gwydr (conservatories). Meddai llefarydd: "Pan mae'n 22C y tu allan, o fewn awr gall y tymheredd godi i 47C y tu mewn i gerbyd. Gall hwn achosi trawiad gwres a gall ladd c诺n."

  • Gwnewch yn si诺r bod gan anifeiliaid gysgod a d诺r gl芒n i yfed

  • Peidiwch 芒'u gor ymarfer nhw mewn gwres llethol

  • Os yw'r palmant yn rhy dwym i'ch llaw, mi fydd yn rhy dwym i bawennau

  • Rhowch bowlen dd诺r y ci yn y rhewgell cyn rhoi d诺r ynddo, neu rhoi ciwbiau i芒 yn y d诺r i'w gadw'n oerach am yn hirach

  • Rhowch dywelion damp i'r anifail orwedd arno

  • Ni ddylid cludo anifeiliaid mewn tywydd poeth heblaw ei fod yn hanfodol

  • Peidiwch 芒 gadael i anifeiliaid losgi yn yr haul

  • Cadwch danciau pysgod allan o'r haul a cadwch lefel y pwll d诺r yn uchel

  • Ffoniwch 999 i siarad gyda'r heddlu os gwelwch chi anifail mewn sefyllfa beryglus