Doedd hi'n dwym?
- Cyhoeddwyd
Mae'r tywydd gwlyb wedi bod yn bwnc trafod yr haf hwn ac mae unrhyw obaith am haf hir a chynnes yn prysur ddiflannu wrth i fis Gorffennaf fynd yn ei blaen. Ond 40 mlynedd yn 么l, roedd hi'n stori dra gwahanol. Roedd y tywydd yn sicr yn bwnc trafod bryd hynny, ond am ei bod hi'n haf sych a chrasboeth. Mae rhai o ddarlledwyr Cymru yn cofio'r dyddiau da:
Torri rheolau
Roedd Huw Llywelyn Davies yn gweithio i HTV yn 1976, ac yn cyflwyno rhaglen nosweithiol 'Y Dydd'. Roedd y tywydd mor boeth yr haf hwnnw fel ei bod nhw'n methu darlledu'n y stiwdio.
"Dwi'n cofio yn haf 1976, r'on i'n cyflwyno rhaglen 'Y Dydd' am 6 o'r gloch y nos, ac mi oedd hi mor dwym yn y stiwdio, hyd yn oed yr adeg hynny o'r dydd, roedd yn torri rheolau iechyd a diogelwch ac felly roedd yn rhaid i fi a Vaughan Hughes gyflwyno tu fa's," meddai.
"Roedd stiwdios HTV yn ardal Pontcanna, Caerdydd, ar y pryd, ac mae gen i gof clir ohonon ni'n darlledu'r rhaglen yn yr awyr agored, ger caeau Llandaf."
Eisteddfod y llwch
Digwyddiad cofiadwy arall yr haf hwnnw, ac un mae Huw Llywelyn Davies, yn ogystal 芒'r darlledwyr R Alun Evans a Gwyn Llewelyn yn ei gofio, ydy Eisteddfod chwedlonol Aberteifi a gynhaliwyd yn Awst 1976. Mae'r 诺yl yn cael ei chofio fel "Eisteddfod y llwch".
Roedd y darlledwr R Alun Evans yn sylwebu ar y seremon茂au o faes y Brifwyl i'r 成人快手.
"Dwi'n cofio ei bod hi'n haf poeth iawn, yn sych iawn a bod 'na lwch yn codi yn gymylau," meddai. "Roedd y maes yn eitha' agos at y m么r, felly roedd 'na wynt cryf a'r llwch yn codi.
"Roedd y llwch yn gorchuddio'r ceir, roedden nhw gyda'r butraf a welais i erioed. 'Ta faint o lanhau oeddech chi'n neud i'r car, roedd yn 么l yn lwch i gyd y diwrnod wedyn!"
Darlledwr arall oedd yn gweithio yn y cyfnod oedd Gwyn Llewelyn, ac mae'n cofio haf poeth '76 am resymau personol.
"Dyma'r flwyddyn wnaethon ni fel teulu symud o Gaerdydd i'r gogledd," meddai. "Y cof mwya' sy' gen i ydy gallu manteisio ar y traethau a'r mynyddoedd yn y gogledd, roedd y plant yn fach ac felly fe wnaethon ni ddewis y flwyddyn iawn i adael Caerdydd a dod i'r gogledd.
"Dwi'n cofio gweithio yn Eisteddfod Aberteifi hefyd yr haf hwnnw, yn y llwch, a thorri'r stori fawr, y sgandal Eisteddfodol honno, pan wnaeth Dic Jones ennill y Gadair, cael ei ddiarddel, a'r Gadair wedyn yn mynd i Alan Llwyd.
"Roedd yn gyfnod o newid byd i mi'n bersonol, am fy mod i'n gadael y byd teledu a mynd i gyflwyno radio gyda'r 成人快手."
'Rhannu bath gyda fy chwaer'
Roedd yn gyfnod o newid byd i Gwyn Llewelyn, ond mi wnaeth haf poeth '76 osod trywydd i fywyd Derek Brockway, dyn tywydd 成人快手 Cymru, a oedd yn wyth oed ar y pryd.
"Fe ddechreuodd fy niddordeb i mewn tywydd, diolch i haf 1976," meddai Derek. "R'on i'n wyth mlwydd oed. Dwi'n cofio bod y d诺r yn cael ei ddiffodd am gyfnodau, ac oedd yn rhaid i fi rannu d诺r bath gyda fy chwaer a defnyddio d诺r golchi llestri i roi i'r blodau.
"Fe aethon ni ar wyliau teuluol i Eastbourne y flwyddyn honno a dwi'n cofio'r daith yn y car, gweld yr holl sychder ac mi oedd 'na lot o danau gwair hefyd.
"Dwi'n cofio gwylio Jack Scott, dyn tywydd y 成人快手 ar y pryd a meddwl mai meteorolegydd yr o'n i am fod ac fe wnaeth fy nhad brynu thermomedr i fi. Darllen am yr haf twym a gwylio'r teledu y flwyddyn honno oedd dechre'r diddordeb."
Felly beth ddigwyddodd yn yr haf chwedlonol hwnnw, a pha dywydd allwn ni ddisgwyl yng Nghymru dros yr wythnosau i ddod?
"Y rheswm gafon ni haf mor dwym a sych yn 1976 oedd bod 'na floc yn y patrwm tywydd, lle roedd gwasgedd uchel wedi ffurfio ac aros am gyfnod hir - mae hyn yn digwydd weithiau - a dyna ddigwyddodd yn 1976," meddai Derek.
"Roedd 'na dywydd sych, llawer o haul a thymheredd uwch na'r cyfartaledd. Roedd hydref 1975 a'r gwanwyn ddechre 1976 wedi bod yn sych hefyd, felly roedd y cronfeydd d诺r yn isel cyn dechre.
"O ran eleni, fe roedd 'na gyfnod o wasgedd uchel a thywydd braf ddiwedd Mai a dechrau Mehefin, ac yn aml pan mae hynny'n digwydd yn gynnar yn y flwyddyn, mae tywydd gwlyb ac ansefydlog yn gallu dilyn.
"Mae 'na gyfnod sefydlog a thywydd braf i ddod cyn diwedd Gorffennaf, ond does dim arwydd bod 'na heatwave i ddod, na chyfnodau hir o dywydd sefydlog a phoeth cyn diwedd yr haf."