成人快手

Emma Chappell yn ennill Dysgwr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Emma
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dau fab Emma Chappell, Deion a Guto, yn siarad Cymraeg

Mewn noson gala arbennig yn Neuadd Tre Ysgawen ger Llangefni nos Fercher, cyhoeddwyd mai Emma Chappell yw Dysgwr y Flwyddyn 2017.

Cafodd ei geni yng Nghaergrawnt a'i magu yn Royston, Sir Henffordd, ond mae hi bellach yn byw yn Neiniolen, Gwynedd.

Dywedodd Emma fod ennill y wobr yn brofiad "ardderchog".

"Dwi mor hapus dwi'n gallu rhoi rhywbeth yn 么l a dangos pa mor galed dwi 'di gweithio a pa mor galed ma'r tiwtoriaid a bobl sy' 'di cefnogi fi dros y blynyddoedd - y teulu, pobl eraill - maen nhw di bod yn wych hefyd.

"Dwi jyst mor hapus."

'Llysgennad i'r iaith'

Sylweddolodd bod y Gymraeg yn bwysig iawn i Arwel, ei chymar, ac felly cyn symud i Gymru aeth ati i ddod o hyd i ddosbarth nos yn Warrington.

"Nes i gyfarfod o a sylwi pa mor bwysig ydy'r iaith a Cymraeg a Cymru a bob dim iddo fo, so nes i jyst meddwl, reit, wel, na'i mynd ati os ydw i'n mynd i fod 'efo fo.

"Mae'r manteision o ddysgu Cymraeg yn bellgyrhaeddol," meddai, "yn enwedig i bobol sydd 芒 phlant. Mae e wir wedi newid fy mywyd i ac wedi bod o fantais fawr i'r teulu", meddai.

Y beirniaid eleni oedd Jenny Pye, R. Alun Charles a Nia Roberts, ac wedi cyhoeddi'r canlyniad, dywedodd Mr Charles: "Mae wedi bod yn gystadleuaeth agos dros ben.

Disgrifiad,

Tlws Dysgwr y Flwyddyn / Welsh Learner of the Year

"Da' ni wedi bod yn ystyried rhuglder a hyder y dysgwyr, eu hymroddiad nhw i'r gwaith a'u cyfraniad nhw o safbwynt yr iaith yn y gymuned, ond hefyd yr elfen ychwanegol o fod yn llysgennad dros yr iaith - person sy'n gallu annog eraill i ddysgu, i ddyfalbarhau, i groesi'r bont a dod yn rugl yn y Gymraeg, a dwi'n teimlo bod Emma'n dangos y talentau hynny a dweud y gwir."

Dathlu cyfraniad

Mae'r gystadleuaeth yn agored i unrhyw ddysgwr dros 18 ac yn dathlu cyfraniad dysgwyr Cymraeg i'r iaith a chymunedau.

Roedd tri arall wedi cyrraedd y rownd derfynol sef Hugh Brightwell, Daniela Schlick a Richard Furness.

Mae'r enillydd yn cipio 拢300 a thlws arbennig a'r tri arall yn cael 拢100 yr un a thlws i nodi eu llwyddiant. Y beirniaid eleni oedd Jenny Pye, R. Alun Charles a Nia Roberts ac roedd y tri yn hapus iawn gyda safon y gystadleuaeth.

Bydd y pedwar a ddaeth i'r rownd derfynol hefyd yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i gylchgrawn Golwg a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr a bydd Emma Chappell yn cael ei gwahodd i fod yn aelod o'r Orsedd.

Y rhai eraill gyrhaeddodd y rownd derfynol:

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hugh Brightwell y hoff iawn o hanes a diwylliant

Hugh Brightwell - 'Dysgu Cymraeg er mwyn cael bod yn gwrtais'

Mae Mr Brightwell yn byw yn Ellesmere Port ac roedd hi'n benderfyniad ganddo fe a'i wraig i ddysgu Cymraeg er mwyn bod yn gwrtais pan oeddynt yng Nghymru.

Aeth ati i ddysgu Cymraeg ar-lein ac mewn gwersi ac mae'n hoff iawn o fynychu cyrsiau fel ysgolion haf ac ysgolion undydd.

Dywed ei fod yn awyddus i rannu ei brofiadau gyda dysgwyr eraill gan ei fod yn deall yr heriau mae'n nhw'n eu hwynebu.

Mae Hugh yn hoff iawn o hanes a diwylliant ac wedi dilyn cyrsiau archaeoleg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Penderfynodd Daniela Schlick ddysgu Cymraeg ar 么l dod i Gymru ar wyliau

Daniela Schlick - 'Byd newydd'

Daw Daniela Schlick yn wreiddiol o'r Almaen ac fe gwympodd mewn cariad 芒 Chymru wedi dod yma am wyliau. Doedd ganddi ddim dewis, meddai, dim ond dychwelyd a dysgu'r iaith.

Fe symudodd i fyw i Borthaethwy ddwy flynedd yn 么l a chofrestru gyda dosbarth Cymraeg. Mae hi bellach ar gwrs lefel uwch.

"O'm safbwynt a'm mhrofiad i mi allai ddweud unwaith y byddwch yn dechrau dysgu Cymraeg mae'n agor byd cwbl newydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Richard Furniss nad yw erioed wedi dod ar draws unrhyw un sydd wedi dangos agweddau negyddol tuag ato fel dysgwr

Richard Furniss - 'Dod yn rhan o'm mywyd i'

Mae Mr Furniss yn byw yn Llangefni gyda'i wraig Delyth ac mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2005.

Yn wreiddiol dechreuodd ddysgu Gymraeg er mwyn dod o hyd i waith yng Nghymru ond wrth iddo ddod i wybod mwy am Gymru, ei diwylliant a'i hiaith fe ddaeth Cymru yn rhan fawr o'i fywyd.

Fe ddysgodd Mr Furniss Gymraeg drwy gael gwersi ym Mangor a Llangefni a dywedodd bod ei wraig a'i deulu-yng-nghyfraith wedi bod o gymorth mawr.

"Dwin meddwl bod hi'n bwysig egluro i bobl am ddysgu'r iaith ac argyhoeddi nad yw'n broses rhy ofnus ac hefyd mae'n bwysig dweud fod pobl wastad yna i gefnogi."

Ddydd Iau bydd Emma Chapell yn cael ei chyflwyno i gynulleidfa'r pafiliwn gan Lywydd y Llys Eifion Lloyd Jones.

Bydd Emma hefyd yn cael gwahoddiad i fod yn aelod o'r Orsedd.