Dysgwr y Flwyddyn 2017: Adnabod Richard Furniss
- Cyhoeddwyd
Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys M么n bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2017 yn cael ei gyhoeddi. Pedwar sydd wedi dod i'r brig.
Mae Cymru Fyw wedi bod yn eu holi i ddod i'w hadnabod yn well.
Yn Llangefni mae Richard Furniss yn byw, ond fe gafodd ei eni a'i fagu ger Croesoswallt.
Mwy o
Pwy wnaeth dy berswadio/ysbrydoli i siarad Cymraeg?
I fod yn onest, neb i ddechrau. Mi ges i'r cyfle i ddechrau mewn sesiwn flas ym Mhrifysgol Bangor a wnes i fwynhau yn fawr iawn, felly wnes i gario ymlaen.
Ar 么l dechrau, mi wnes i sylwi pa mor bwysig ydy'r iaith i bobl ac mi wnaeth y pwysigrwydd ysbrydoli fi i ddal ati.
Oes digon o help ar gael?
Oes. Dw i wedi ffeindio lot o bethau ar-lein, lot o grwpiau sy'n helpu pobl sy'n dysgu, a lot o bobl sy isio ymarfer defnyddio eu Cymraeg efo unrhywun.
Dw i wedi cael lot o help gan bobl yn fy mywyd; mae 'na lot o bobl o gwmpas sy isio helpu cefnogi dysgwyr. Mi faswn i'n deud bod 'na fwy o help ar gael r诺an nag oedd 'na pan wnes i ddechrau.
Beth fyddai'n helpu ti fel dysgwr?
I ymarfer siarad efo pwy bynnag dw i'n gallu, i wybod bod 'na bobl sy'n cefnogi fi i gario ymlaen, mae'n bwysig i gael y gefnogaeth.
Mi wnes i a fy ngwraig ddechrau siarad dim ond Cymraeg am awr bob dydd ac adeiladu i ddwy awr ac yn y blaen. Hefyd, ges i lot o help trwy wrando ar Radio Cymru a gwylio rhaglenni S4C.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Adlewyrchu. Dw i'n licio s诺n y gair ac mae'n bwysig stopio weithiau ac adlewyrchu pa mor bell dw i wedi dod efo dysgu Cymraeg.
Beth am y gair mwyaf anodd i'w ddysgu?
Mae 'na lot o eiriau anodd weithiau ond dw i'n cael lot o drafferth efo trio deud "anghredadwy" am ryw reswm!
Beth sydd fwyaf anodd am ddysgu Cymraeg?
Mi faswn i'n licio deud treigladau, ond dw i'n si诺r wneith pawb ddeud yr un peth! Ella gramadeg, ond dw i ddim yn berson da efo gramadeg yn Saesneg chwaith.
Un gair i ddisgrifio treigladau?
Her!
Sut mae sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Helpu ysbrydoli pobl i ddechrau dysgu, trio cael mwy o bobl i gael blas bach o'r iaith i ddechrau. Perswadio pobl dydy o ddim yn beth drwg bod yn ddwyieithog.
Ella, trio esbonio'r rhan mae'r iaith wedi chwarae yn hanes Cymru, y diwylliant a beth mae'n meddwl i bobl sy'n siarad Cymraeg.
Trio cael gwared 芒 rai o'r myths am yr iaith, am bobl sy'n siarad Cymraeg ac esbonio hanes iaith ein hun i bobl, trio creu rhyw deimlad cryf tuag at y Gymraeg.
Hefyd, gwneud yn si诺r bod dysgwyr yn gwybod bob pobl sy'n siarad Cymraeg ar eu hochr nhw ac isio cefnogi pobl i ddefnyddio a siarad Cymraeg!
Trefnu mwy o ddigwyddiadau ar gyfer pobl sy'n gweithio llawn amser neu sy ddim efo amser yn y dydd. Mae 'na lot o bobl heb ddigon o amser rhydd, felly mae'n bwysig meddwl amdanyn nhw a sut i helpu nhw.
Helpu datblygu'r iaith ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, datblygu ffyrdd arall o ddysgu fel apiau, neu wasanaethau ar-lein.
Trio ysbrydoli pobl di-gymraeg i ddechrau gwneud y pethau bach eto. Dyna'r peth i mi, i wneud y pethau bach a trio defnyddio Cymraeg am awr bob dydd.
Mae'n dipyn o cliche ond siarad efo'r ci, efo'r gath, efo eich hun, ond trio. Fyddwch chi'n gwella yn y diwedd! Hefyd, deud wrthyn nhw i ddal ati!
Sicrhau bod yr iaith yn cael ei dysgu mewn ysgolion, i bawb gael y cyfle i ddefnyddio Cymraeg. Ar yr un pryd, dechrau dysgu mwy am hanes Cymru i greu cysylltiad rhwng yr iaith a'r hanes.
Hybu busnesau i gefnogi'r Gymraeg.
Trio perswadio grwpiau mawr yng Nghymru i ddefnyddio Cymraeg mwy.
Petaech yn cael eich dewis yn ddysgwr y flwyddyn, mi fyddwch yn cael ymuno gyda'r orsedd- beth fyddech chi'n dewis fel enw?
Rhywbeth sy'n adlewyrchu fy ngwreiddiau a lle ydw i r诺an. Ella rhywbeth fel "Rhisiart o'r Ffin" neu "Cawr o'r Ffin" am mod i'n dod o ardal y ffin rhwng Sir Drefaldwyn a Sir Amwythig ac mae pobl yn galw fi yn "Gawr" am mod i'n eithaf tal.
Neu, yr enw ges i gan Daid fy ngwraig (sef "Yr Hogyn 'Na"), pan oedd o ddim yn gallu cofio fy enw; mae'n bwysig dewis enw da!
And one in English
How would you go about persuading others to learn Welsh?
Explain that being bilingual is a good thing, no matter what language you speak, it's a great skill to have, especially in Wales!
Organise taster sessions where people can come and ask about learning Welsh, begin to learn the basics etc. so that they don't necessarily have to commit to classes to begin with, they can get a feel of the background of the language before they begin; try to dispel any pre-conceptions they may have about Welsh.
I feel it's important to explain to people about learning and convince them it's not too scary and that people will be there to support them.
Also, try to explain how important the language is to the people of Wales and to its history and culture and why people can sometimes be very protective towards Welsh.
Try to organise a list of useful resources for potential learners where they can start to learn about the language, such as websites, apps, TV and Radio programs, books, organisations that would be of use to anyone starting out.
I would also explain that I have never come across anyone who has been negative towards me as a learner, the standard of my Welsh or the fact that I make mistakes; Welsh speakers are very encouraging to learners!