Dysgwr y Flwyddyn 2017: Adnabod Emma Chappell
- Cyhoeddwyd
Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys M么n bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2017 yn cael ei gyhoeddi. Pedwar sydd wedi dod i'r brig.
Mae Cymru Fyw wedi bod yn eu holi i ddod i'w hadnabod yn well.
O Ddeiniolen y daw Emma Chappell.
Mwy o
Pwy wnaeth dy berswadio / ysbrydoli / i siarad Cymraeg?
Y person wnaeth ysbrydoli fi oedd Arwel fy mhartner. Rydan ni wedi bod efo ein gilydd ers 2004 ac ar 么l tua blwyddyn, penderfynes i fynd ati i ddysgu.
Erbyn hyn, mae fy mhlant yn ysbrydoliaeth enfawr hefyd.
Dydw i ddim isio bod mewn sefyllfa lle dydw i ddim yn gallu helpu nhw efo'u gwaith cartref neu helpu nhw mewn unrhyw ffordd arall.
Oes digon o help ar gael?
Oes, roeddwn i'n lwcus iawn achos mi ges i gefnogaeth wych gan y brifysgol ac rydw i'n gwybod bod 'na gwmn茂oedd eraill yn yr ardal sydd yn helpu'u staff ddysgu Cymraeg.
Dydw i ddim yn sicr am ardaloedd eraill, ond yng ngogledd Cymru mae Cymraeg i Oedolion yn cynnig nifer fawr o gyrsiau.
Hefyd, y dyddiau hyn, mae yna help ar-lein gan wefannau e.e Say Something in Welsh, neu'r cyfleuster Vocab ar y wefan 成人快手.
Hefyd, rydw i'n defnyddio'r Ap Geiriaduron ar fy ff么n bob munud!
Beth fyddai'n helpu ti fel dysgwr?
Yn fy marn i, cyfleodd i siarad heb feirniadaeth.
Fel dysgwyr mae pethau fel cyrsiau undydd, ysgolion haf a chyrsiau preswyl yn ardderchog i godi hyder ac rwyt ti'n gallu siarad efo'r tiwtoriaid a dysgwyr eraill heb ofn, ond pan rwyt ti'n mynd allan i'r byd go iawn mae'n stori wahanol!
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Rydw i wedi bod yn meddwl am y cwestiwn yma, ac i ddechrau wnes i ddweud 'Cyfrinach' oherwydd s诺n y gair, ond tra o'n i'n darllen stori i'r hogiau'r noson o'r blaen, cofies i un oedden ni i gyd yn hoff iawn ohono... Pendramwnwgl!
Beth am y gair mwyaf anodd i ti ddysgu?
Wel, am gwestiwn anodd! Mae yna lwyth o ddewisiadau, ond mi ges i drafferth efo 'cyfleusterau' sef facilities. Dydw i ddim isio cyfaddef hyn, yn enwedig achos mae'r gair Cyfleusterau yn rhan o deitl fy swydd!
Beth sydd fwyaf anodd am ddysgu Cymraeg?
Rydw i'n sicr wneith y rhan fwyaf o bobl ddeud treigladau, ond i mi, sut yn y byd rwyt ti i fod i wybod os mae pethau yn wrywaidd neu fenywaidd?
Un gair i ddisgrifio treigladau?
Llifeiriol!
Sut mae sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Yn fy marn i mae'r Llywodraeth yn gwneud y peth cywir wrth ddechrau efo ysgolion, ond mae'n rhaid iddyn nhw gydweithio efo'r teuluoedd i sicrhau defnyddio'r Gymraeg adra hefyd.
Rhaid iddyn nhw weithio efo colegau i gynyddu'r nifer a'r math o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr hefyd a symud efo'r dechnoleg newydd wrth ddefnyddio apiau ac addysgu hyblyg.
Mae'n bwysig ceisio normaleiddio'r iaith i bawb hefyd.
Petaech yn cael eich dewis yn Ddysgwr y Flwyddyn, mi fyddwch yn cael ymuno gyda'r Orsedd - beth fyddech chi'n dewis fel enw?
Dydw i erioed wedi clywed am enw barddol o'r blaen ac rydw i'n meddwl eu bod nhw'n eithaf neis. Ond dydw i ddim yn gallu dewis rhwng y tri isod ac rydw i'n ddiolchgar iawn does dim rhaid i mi bigo!
鈥mma Caergrawnt
鈥mma Caradog
鈥mma Elidir
And one in English
How would you go about persuading others to learn Welsh?
I am always trying to persuade people to learn Welsh and singing the praises of the tutors who have helped me over the years.
Explaining the benefits to people goes a long way, especially for those who have children, it really has changed my life and has been a massive benefit to the family.
I would also tell people not to fear rejection or humiliation.
Almost every Welsh person I have met has been super supportive of my efforts, mistakes and all; nobody's perfect and most of us make mistakes when we're speaking English anyway, so just go for it!