成人快手

Toni Schiavone

Llywydd y Dydd

Toni Schiavone - yr Urdd yn drysor unigryw i'w drysori

Talodd Llywydd y Dydd, Toni Schiavone, deyrnged i'r llu o wirfoddolwyr, gan gynnwys athrawon, sy'n gwneud gwaith yr Urdd yn bosibl

Cyfeiriodd hefyd at yr holl amrediad eang o weithgareddau gan gynnwys chwaraeon sy'n rhan o weithgarwch y mudiad.

Am yr Eisteddfod dywedodd i lawer iawn o blant yng Nghymru brofi eu llwyddiant cyntaf drwy'r Eisteddfod - boed hynny yn lleol ac yn rhanbarthol yn ogystal a chenedlaethol.

Ychwanegodd iddo ef ei hun gystadlu ac er nad enillodd fod y pleser o fod wedi cystadlu yn parhau yn ei gof.

"Mae gennym yng Nghymru rywbeth unigryw a gwerthfawr i'w drysori sy'n galluogi plant i roi o'u gorau mewn ystod eang o weithgareddau a hynny yn ennyn edmygedd led-led y byd," meddai.

Dyma Toni Schiavone

Yn wreiddiol o Adpar, ger Castell Newydd Emlyn, mae Toni Schiavoneyn awr yn byw ym Mhandy Tudur, Llanrwst, ers dros ugain mlynedd. Mae'r briod 芒 Dawn, a chanddynt bedwar o blant.

Ar 么l mynychu Ysgol Ramadeg Llandysul, graddiodd Toni Schiavone mewn daearyddiaeth ym Mhrifysgol Southampton ac wedi cyfnod yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl, fe'i penodwyd yn Bennaeth Adran Daearyddiaeth Ysgol Dyffryn Conwy.

Treuliodd y rhan fwyaf o'r Nawdegau yn Ymgynghorydd Dyniaethau 芒 chwmni Cynnal yng Ngwynedd, M么n ac yng Nghonwy. O 2001 bu'n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Cymru cyn cael ei benodi yn Bennaeth Sgiliau Sylfaenol Cymru y llynedd.

Mae erbyn hyn yn treulio cryn dipyn o'i amser yn ysgrifennu deunyddiau addysgol ac ef fu'n gyfrifol am ysgrifennu a golygu llyfr Daearyddiaeth 'Cymru Newydd,' ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae hefyd oedd un o gyd-olygyddion atlasau Cymru Gwasg Rhydychen.

B'n weithgar iawn gyda'r Urdd dros y blynyddoedd, yn arbennig felly ym maes chwaraeon gan gynorthwyo yng nghlwb yr Urdd yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac yn Nyffryn Conwy.

Bu hefyd yn gyfrifol am glwb p锚l-droed yr Urdd ym Mro Conwy am 15 mlynedd gyda'r t卯m ynfuddugol yng nghystadleuaeth Genedlaethol yr Urdd ddwywaith.

Dywed ei fod yn falch ei fod yn cynrychioli athrawon a'r byd addysg yn Eisteddfod Conwy eleni.

''Rwyf o'r farn fod athrawon ysgol yn asgwrn cefn i'r mudiad gyda miloedd ohonynt dros Gymru gyfan yn gwneud eu cyfraniad i sicrhau llwyddiant o un flwyddyn i'r llall.''

''Fy ngobaith yw y daw pobl i sylweddoli cymaint o gyfraniad mae'r holl wirfoddolwyr ar yr ymylon yn ei wneud i sicrhau Eisteddfod lwyddiannus, boed hynny trwy gynnal clybiau di-ri, codi arian neu trwy helpu mewn ysgolion lleol,''meddai.


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.