成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Llanerchaeron Lleoliad Eisteddfod yr Urdd
Tachwedd 2008
Llanerchaeron yn lleoliad Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigion 2010

Tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron ger Aberaeron fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd 2010. Penderfynwyd ar y safle mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ceredigion 2010 ddiwedd Mis Medi ar 么l derbyn argymhelliad gan Bwyllgor Maes yr Eisteddfod.

Yn wreiddiol, fe dderbyniwyd cynigion am safleoedd posibl i gynna gwyl ieuenctid fwyaf Cymru oddi wrth un-ar-ddeg lleoliad trwy Geredigion. Ar 么l proses asesu a oedd yn ystyried amryw o ffactorau gwahanol, crewyd rhestr fer o bedwar ar ddechrau'r flwyddyn. Bellach, mae'r Urdd wedi penderfynu ar safle Llanerchaeron yng nghanol y sir.

Yn 么l Aled Sion, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Mae'r Urdd yn ffodus ac yn falch iawn bod cynifer o ardaloedd wedi dangos diddordeb a hod safleoedd o safon ar gael. Ond ar 么l ystyried yr holl elfennau a thrafod gydag awdurdodau eraill, ym marn y Pwyllgor Maes a'r Pwyllgor Gwaith, safle Llanerchaeron oedd ar y brig. 'Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lleol yn Llanerchaeron ac yn genedlaethol. Mae'r safle a'r Pl芒s yn hyfryd ac 'rwy'n argyhoeddedig y bydd y lleoliad godidog hwn yn cyfrannu yn fawr at lwyddiant yr wyl yn 2010."

Dyma fydd pumed ymweliad Prifwyl yr Urdd 芒 Cheredigion and yr ymweliad cyntaf i ardal Aberaeron. Cynhaliwyd yr Eisteddfod ddwywaith o'r blaen yn Aberystwyth a hefyd dwywaith yn Llanbedr Pont Steffan, y tro olaf yn 1999.

Dywedodd Iwan Huws, Cyfarwyddwr Cymru'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Mae'r Ymddiriedolaeth yn hapus iawn bod yr Urdd wedi dewis ein lleoliad yn Llanerchaeron ac mae'n anrhydedd ein hod yn medru croesawu a chynnal yr Eisteddfod, sef un o brif wyliau Cymru ar eiddo'r Ymddiriedolaeth. 'Rydym yn cynnal digwyddiadau niferus ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyson trwy'r flwyddyn mewn amryw o leoliadau ac 'rwy'n ffyddiog y bydd cydweithio hapus rhwng ur Yrdd a ninnau er mwyn sicrhau Eisteddfod fythgofiadwy yng Ngheredigion 2010."

Yn 么l Deian Creunant, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ceredigion: "Mae brwdfrydedd mawr yng Ngheredigion gyda gweithgareddau niferus o dan ofal y pwyllgorau ap锚l leol ym mhob cwr o'r sir. Mae'r Rhestr Testunau yn cael eu llunio yn barod ar gyfer ei gyhoeddi ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf a threfniadau'r Cyhoeddi eisoes ar y gweill. Mae pobl Ceredigion yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr wyl ac 'rydym yn falch iawn bod yr Eisteddfod yn dychwelyd unwaith eto i'r Sir. Gyda safle ardderchog Llanerchaeron yn sylfaen I'r cyfan, fe fydd Eisteddfod 2010 yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle arbennig i blant a phobl ifanc Ceredigion.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy