成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Alan, Haf, Morwen a Dyfed ar y Milford Sound Ymweliad 芒 Seland Newydd
Gorffennaf 04
Morwen Thomas o Gribyn sy'n s么n am ddiwedd ei thaith gyda'i theulu yn Seland Newydd.


Ar 么l treulio pump diwrnod yn Wellington dyma ni'n hedfan i ynys y de. Gan bod ni yno yn ystod yr Hydref i'r Gaeaf roedd wedi bwrw 13 centimedr o eira y noson cynt. Rhaid dweud fod hyn wedi rhoi gwledd inni wrth hedfan o Christchurch i Queenstown. Roedd y golygfeydd yn wych dros Alpau'r De oedd dan eira a'r llynnoedd. Disgyn ym maes awyr Queenstown a chopaon y mynyddoedd o amgylch dan eira, awyr las las a'r haul yn disgleirio. Maes awyr bath yw o ran maint ac yr oedd yn rhoi'r teimlad y gallech gyffwrdd 芒'r mynyddoedd ac yna sylweddoli pam oeddem yn teithio mewn awyren mor fach. Disgyn yma oedd y profiad gorau, profiad a golygfa bythgofiadwy.

Teithio drwy'r dre ac yna allan yr ochr draw i fyny i'r gwesty oedd yn sefyll ar ochr mynydd y Coronet Peak. Golygfa w欧ch arall a lliwiau'r Hydref o'n cwmpas. Yr Ewropeaid a ddaeth mewn a'r coed collddail.

Ar 么l setlo mewn, defnyddio gwasanaeth y gwesty i fynd mewn i'r dref. Tref brysur yw Queenstown yn llawn ymwelwyr. Tref sy'n cynnig pob math o weithgareddau awyr agored, gleidio, beicio, cychod jet, marchogaeth, can诺io, naid bynji a llawer mwy. Yma hefyd cewch siawns i ymgymerid at yr "Awesome Foursome" fel y galwyd e, sef gwibio mewnhelicopter drwy'r ceunentydd, cychod jet, rafftio peryglus a naid byngi uchelaf sydd yn hemisffer y de. Profiad gwych yn 么l Dyfed a Bleddyn!

Mae digon i wneud yma trwy gydol y flwyddyn. Mae pob tymor yn dechrau gyda gwyliau a dathliadau. Erbyn heddiw mae'r tymor sg茂o wedi dechrau ar y Remarkables a'r Coronet Peak. Ar y Coronet Peak gellwch sg茂o'n y nos trwy ddilyn llwybrau sydd wedi eu goleuo. Oddi ar y saith degau mae'r gweithgareddau yma wedi datblygu ac mae pobl yn heidio yma o bedwar ban byd. Bu Alan yn paragleidio o gopa'r mynydd Bob a disgyn ynghanol y dre. Profiad a wnaeth fwynhau'n fawr. I gyrraedd y copa yma rhaid oedd teithio mewn gondola.

Sail y dre ar lan Llyn Wakatipu sy'n golygu "Space where the Demon lie". Llyn yn ystod y rhewlifau yw ond mae yna chwedl bod y llyn wedi dod i fodolaeth trwy wasgnod demon cysglyd. Cafodd y demon ei losgi pan iddo gipio un o ferched prydferthaf y Maori. Y gred yw bod calon y demon ddim wedi marw ac mae'n dal i guro.

Gall lefel y d诺r godi a disgyn cymaint a saith centimedr bob pum munud. Hwn ydi'r ail lyn mwyaf yn ynys y de. Yn rhedeg gydag ochr y llyn mae mynyddoedd y "Remarkables", golygfa oedd yn newid o flaen eich llygaid. Un funud roeddem yn gweld y mynyddoedd dan eira'n erbyn yr awyr las a'r funud nesa roedd y cymylau'n pasio heibio o dan y copaon. Golygfeydd pur iawn, awyr las, eira gwyn a llyn glasach. Golygfeydd yn union fel chi'n gweld ar gerdyn post. Yr hyn oedd yn eich taro oedd y glendid a chadwraeth yr amgylchedd, dim llygredd. Dwy'n si诺r bod yr ardal yma gyda'r prydferthaf yn y byd.

Os nad oeddech am fentro y gweithgareddau awyr agored roedd yna ddigon o siopau fel Louis Vuilton i'ch diddori. Y ffordd orau i weld y dre oedd ar droed. Pleserus oedd cerdded y rhodfa oedd yn llawn siopau, llefydd bwyta a siopau swfeniriau. Yma hefyd cawsom flasu cig oen y wlad ar ei orau. Roeddynt yn defnyddio crwyn yr wyn i wneud dillad a bagiau. Roeddynt yn feddal ac ysgafn iawn.

Mae'r rhodfa yma'n arwain lawr i'r pen pier. Mae llawer o'r bythynnod trefedigaethol yn dal yma gan gynnwys Eichardt's Tavern sy'n dyddio n么l i 1871 a chartref yr Ewropead cyntaf i gyrraedd y dref, sef, William Gilbert Rees.

Mae Queenstown yn borth i Barc Cenedlaethol y Ffiordydd. Mi wnaeth Dyfed ymuno 芒 ni yma ar Ddydd Gwener y Groglith ac yna gyrru i Te Anau lle buom yn aros dros nos. Bore trannoeth roedd yna fws yn ein codi am 8 o'r gloch y bore a dechrau ar y daith i Milford Sound. Llyn Te Anau yw'r olygfa gyntaf o wlad y ffibrdydd. Mae 75 milltir o fan hyn i Milford Sound. Taith droellog trwy amrywiaeth o olygfeydd prydferth, fforestydd glaw, mynyddoedd garw, afonydd byrlymus a theithiau cerdded pictiwresg. Mae gwlad y ffiordydd yn un o'r llefydd gwlypaf yn y byd.

Morwen Thomas

Gellir darllen gweddill y stori yn rhifyn Mis Gorffennaf Llais Aeron.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy