Ar y 17eg o Ionawr, 2009 daeth Alwyn Humphries, yng nghwmni Eleri Lewis i Neuadd y Pentre Talsarn.
Pwrpas ei ymweliad oedd i anrhydeddu Ann Sheppard, 22 Maes Aeron oedd wedi cael ei henwebu gan Evana Davies i dderbyn yr anrhydedd Halen y Ddaear.
Bu Ann yn gweithio i gwmni Slimma, Llanbed am 23 mlynedd, and bu raid iddi roi'r gorau i'w gwaith i'w galluogi i aros adref i edrych ar 么l ei rhieni yn eu gwaeledd.
Wedi colli ei rhieni, aeth i weithio yn y ffatri gaws yn Felin-fach, ac wedi i'r gwaith hynny ddod i ben, mae wedi helpu llawer yn y pentre yn Nhalsarn a chyda Clwb y Deillion a threfnu nosweithiau Canu Glwlad.
'Does dim yn ormod iddi ei wneud, mae'n berson hynod o weithgar. Erbyn hyn mae'n gweithio'n rhan amser yn gofalu am berson anabl sydd hefyd yn berson rhannol ddall.
Dymuna Ann ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig 芒'r prynhawn arbennig, yn enwedig Evana a oedd wedi ei henwebu, ac i'r teulu a'r ffrindiau i gyd.
Mae'n gwerthfawrogi'r plant hardd a'r tusw blodau hyfryd a dderbyniodd.
Diolch hefyd i bawb sydd wedi ffonio ac am y cardiau i longyfarch.
|