成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Trip Tyddewi
Mai 2005
W. D. Llewellyn yn rhoi mwy o atgofion i ni am drip ysgol i'r Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi ac yn s么n am ambell gysylltiad gyda dyffryn Aeron.

Y tro yma cawn lun o blant bach Ysgol Cribyn yn eistedd tu allan i Eglwys Gadeiriol Tyddewi yng ngofal y diweddar Mrs. Kathleen Davies, Rhydyfran a oedd yn gogyddes yn yr ysgol bryd hynny.

Dywedir bod tref yn ddinas os oes ganddi Eglwys Gadeiriol ac mai'r ddinas leiaf ym Mhrydain yw Tyddewi. Mae awyrgylch arbennig yn perthyn i'r ardal hon; bob tro yr af heibio pentref Mathria dod i olwg Cam Lludi (Cam y Llew Du) gallaf adrodd, "a'r hud ar Ddyfed ydoedd".

Mae'r Eglwys Gadeiriol yn adeilad hynafol ac urddasol, wedi ei chodi yng Nglyn Rhosin yn y fan lle cododd Dewi Sant ei fynachlog yn 589. Bu eglwys yno wedyn ond ymosodwyd arni droeon gan y Northmyn ("Vikins") a'i llosgi'n llwyr yn 1087. Lladdwyd 2 Esgob ganddynt; Esgob Moregenan yn 999 a'r Esgob Abraham y 1080.

Sefydlodd yr Esgob Bernard Eglwys Gadeiriol newydd yn 1131 wedi iddo gael caniat芒d y Pab i wneud Tyddewi yn ganolfan i bererinion yn 1123. Dechreuwyd adeiladu'r Eglwys bresennol yn 1181 ac ychwanegwyd ati yn y drydedd ganrif ar ddeg, yr unfed ganrif ar bymtheg, y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod cyfnod yr Esgob Gower (1328 i 1347) codwyd Palas yr Esgob a rhan o'r Eglwys gadeiriol.

Bu rhai digwyddiadau trist yn ei hanes wedyn: 1220 dinistrwyd y t诺r newydd; 1247 siglwyd yr adeilad gan ddaeargryn, 1648 dinistrwyd rhannau tu fewn i'r Eglwys gan filwyr Oliver Cromwell.

Mae'r ddau Esgob diwethaf wedi bod 芒 chysylltiadau 芒 Dyffryn Aeron. Bu'r Gwir Barchedig Carl Cooper (yr Esgob presennol) yn ficer yn eglwysi Cilie, Llannerchaeron, Dihewyd a Mydroilyn ac yr oedd y Gwir Barchedig George Noakes, cyn Esgob ac Archesgob Cymru yn un o fechgyn Bwlchllan. 'Roedd e' bob amser yn ymhyfrydu yn y fagwraeth a gafodd yn yr ardal honno.


Cyfrannwch

Enid Heneghan
Rwy wedi gweld o'r erthygl arall mai 1965 oedd y flwyddyn. Heblaw am y trip i Gei Newydd a'r siarc, rwyf hefyd yn cofio'r trip i Bontarfynach. Dyna tro cyntaf i mi fynd ar y tr锚n bach o Aberystwyth. Roedd yr olygfa'n fendigedig, yr haul yn gwenu, arogl y mwg a symudiad y tr锚n. Popeth yn arbennig; ond i mi y peth sy'n sefyll yn y cof yw'r traeth yn Borth. Cyrhaeddom Borth wedi'r daith i Bontarfynach, a phawb eisiau chwarae rownders ar y traeth. Neidio o'r bws gyda'r offer i gyd, cael ein cyfri a'n rhannu yn ddau d卯m, a ffarwelio 芒'r bws, ac yna fe arllwysodd y glaw. Un funud roedd hi'n haul braf, a'r nesaf roedd y mellt a'r tarannau'n hollti'r wybren. Roedd hi'n dipyn o beth i gael 30 o blant a nifer o oedolion fewn i un 'shelter' bychain. Cymrodd hi dros ddeg mlynedd ar hugain i mi fentro n么l i Borth, ac roedd hi'n bwrw glaw y tro hynny hefyd.

Enid o Lambed
Pa flwyddyn aeth y trip o Ysgol Cribyn i Dyddewi? Roeddwn i yn mynychu ysgol Cribyn yn ystod y 60au ac rwy'n cofio Kathleen Davies, Rhydyfran a W D Llewellyn, ein prifathro. Yr unig drip ysgol rwy'n cofio'n dda, yw'r trip i Gei Newydd, a hynny oherwydd i siarc ddod fewn i'r bae ac yn agos iawn i'r traeth.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy