成人快手

Hogia Mon yn gwahodd Cymru i Gaerdydd

Pobl M么n yn croesawu Cymru i Gaerdydd

Eisteddfod 'Cymru i gyd' yn y Brifddinas

Am mai "Eisteddfod i Gymru gyfan" yw hi, oedd y rheswm a roddwyd pan na fyddai neb o Gaerdydd ar lwyfan y Brifwyl heddiw i groesawu Eisteddfod y flwyddyn nesaf - i Gaerdydd.

Yn wir aed cyn belled a Sir F么n i chwilio am rai i lywio'r seremoni groesawu flynyddol a oedd yn gymysgedd ganu, actio, dawnsio a chlocsio gyda cherddoriaeth gan Fonwysyn arall, Gareth Glyn.

Eglurodd Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, mai "Eisteddfod Cymru gyfan" fydd un Caerdydd heb ei phwyllgor lleol na'i chronfa leol ac mai dyna pam y dewiswyd aelodau Aelwyd yr Ynys, Sir F么n, i gynnal y seremoni groesawu.

"Yn fwriadol," meddai y penderfynwyd peidio a chael neb o Gaerdydd ar y llwyfan hyd yn oed.

Ac meddai Aled Si么n, cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Eisteddfod sy'n eiddo i bawb yn genedlaethol fydd un Caerdydd."

Ddydd Sul beirniadwyd Cyngor Dinas Caerdydd gan Lywydd Anrhydeddus yr Urdd, Prys Edwards, am beidio a chynnig nawdd i Eisteddfod 2009 yng Nghanolfan y Mileniwm.

Yn dilyn hynny dywedodd Efa Gruffudd Jones fod yr Urdd yn trafod noddi Eisteddfod Genedlaethol y mudiad gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol a gwleidyddion ac ychwanegodd fod yr Urdd yn gwerthfawrogi'r nawdd gan gyngor Caerdydd i ddwy Eisteddfod yn ystod y chwe blynedd diwethaf.


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.