成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eleri Sion a Iolo Williams Eleri - Merch y Plas
Dychwelyd i Blasdy Llanerchaeron yn Nyffryn Aeron y gwnaeth y gyflwynwraig Eleri Si么n gyda Iolo Williams yn y rhaglen Crwydro ar S4C.

Yn ystod ei phlentyndod treuliodd Eleri oriau lawer yn y plasdy, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

"Roeddwn yn treulio lot fawr o benwythnosau a gwyliau ar y fferm ac yn y plasdy," meddai Eleri, gohebydd Chwaraeon 成人快手 Radio Cymru, a chyflwynydd y rhaglen Wawffactor ar S4C

Plas Llannerchaeron, 漏 BCC"Mae gymaint o le yma fel oeddwn yn gallu rhedeg o gwmpas y lle. Oedd hi fel rhyw Alice in Wonderland!"

Mae Eleri yn lais cyfarwydd i wrandawyr 成人快手 Radio Cymru fel un o gyflwynwyr y rhaglen chwaraeon Sadyrnol, Camp Lawn.

Cyn gohebu bu Eleri ei hun yn cymeryd rhan ym myd y campau gan gynrychioli'r sir mewn hoci a chapteinio'r t卯m rygbi yn y Brifysgol yng Nghaerdydd.

Yn ogystal 芒 diddordeb ym myd y campau, yn ferch ifanc roedd Eleri yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Fe ymwelodd Eleri a Iolo 芒 Chapel Neuadd Lwyd, lle fel ferch fach y dechreuodd adrodd a chanu.

"Dwi'n credu i mi ddechrau canu a sefyll o flaen cynulleidfa pan yn dair neu bedair mlwydd oed," medd Eleri.

"Roedd Capel Neuadd Lwyd yn le da i ddod yn gyfarwydd gyda'r sgil berfformio."

Y tu allan i'r Capel ceir cofeb i anrhydeddu dau aelod o'r capel, David Jones a Thomas Bevan, aeth i Madagascar fel cenhadon ym 1819.

Eleri Sion Eleri oedd y ferch gyntaf i'w phenodi yn ohebydd rygbi ar 成人快手 Radio Cymru cyn mynd ymlaen i gyflwyno rhaglen Y Clwb Rygbi ar S4C.

Mae hi wedi cael cwrdd gyda mawrion y g锚m, ac ymysg y rhai dyma'n creu argraff yw'r g诺r gododd Gwpan y Byd yn 1995 fel capten De Affrica - Francois Pienaar.

"Nes i gwrdd gydag ef pan oedd yn gysylltiedig gyda chlwb y Saraceniaid yn Llundain. Roedd e'n gr锚t, lot o sbort yn perthyn iddo fe a hiwmor ffraeth."

G诺r arall bu Eleri yn mwynhau fod yn ei gwmni yw'r Albanwr Gavin Hastings, ond dyw hi dim yn ffan un o gyn gapteniaid Lloegr a g诺r fu'n rhaid dychwelyd yn fuan o daith y Llewod yn ddiweddar.

"Cwrddais gyda Lawrence Dallaglio unwaith - ond allwn i byth dweud ar gamera beth dwi'n feddwl ohono fe!"

Dwy flynedd yn 么l cafodd y cyfle i ddarlledu o Gwpan Rygbi'r Byd yn Awstralia, profiad y mae hi'n gyfri fel un o uchafbwyntiau ei gyrfa.

"Yr oedd hi'n freuddwyd cael bod allan yno, yn enwedig gan fod Cymru wneud mor dda.," meddai. "Roedd hi'n anrhydedd cael bod yn Gymraes ma's yn Awstralia. Allwn i fyw yno, dyne beth dwi ishe wneud. Mae'n lle ffantastig."

  • Proffeil o Eleri Si么n
  • Gwefan Aberaeron

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy