Llywydd dydd Gwener yn yr Eisteddfod fydd y ddarlledwraig Eleri Si么n.
Ganwyd a magwyd Eleri Si么n ar fferm yn Nyffryn Aeron. Dechreuodd ei gyrfa ym myd teledu fel cantores ar raglenni adloniant ysgafn cyn symud ymlaen i gyflwyno nifer o raglenni chwaraeon plant a oedd yn cynnwys gohebu o Gwpan Rygbi'r Byd yn Ne Affrica yn 1995.
Yn yr un flwyddyn ymunodd Eleri 芒 chriw Chwaraeon 成人快手 Radio Cymru gan ohebu'n gyson ar gemau rygbi ac o ganlyniad, hi oedd un o'r merched cyntaf i ohebu ar rygbi yn y Gymraeg.
Mae gan Eleri hefyd brofiad o weithio y tu 么l i'r camer芒u fel is-gynhyrchydd gyda Sky Sports ar chwe Phencampwriaeth Darts y Byd, Pencampwriaeth P诺l y Byd a Phencampwriaeth Snwcer Prydain.
Ym 1997 ymunodd 芒 th卯m Y Clwb Rygbi fel is-gynhyrchydd a chyflwynydd. Mae Eleri wedi cyflwyno o rai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd megis t卯m Rygbi Cymru'n curo'r gamp lawn yn 2005 a 2008, tair Twrnament Cwpan Rygbi'r Byd (Cymru 1999, Awstralia 2003, Ffrainc 2007) ac ymunodd 芒'r Llewod ar gyfer eu taith o amgylch De Affrica y llynedd.
Gyda phrofiad eang o gynyrchiadau, mae Eleri wedi dangos ei hyblygrwydd gan weithio ar raglenni gwahanol gan gynnwys Wawffactor, Jonathan, Y Briodas Fawr, Cadair Fawr Eleri Si么n, Bwrw'r Bar, Eisteddfod yr Urdd, C芒n i Gymru a Sioe Amaethyddol Cymru.
nes iddi gael babi yn ddiweddar cyflwynai raglen foreol Radio Cymru gyda Dafydd Du. Fe'i dewiswyd hefyd yn wyneb newydd rhaglen Noson Lawen ar ei newydd wedd ar S4C.
Straeon heddiw
Cysylltiadau
Dysgu
Syrcas Gerdd
Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.