成人快手

Abertawe yn estyn croeso

Cadeifrydd, yn eistedd, ac is-gadeirydd Eisteddfod Abertawe

04 Mehefin 2010

Ateb y cwestiwn, "'Beth sydd mor arbennig am Abertawe?" wnaeth cynrychiolwyr o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf ar lwyfan Llanerchaeron brynhawn Gwener.

Bydd yr eisteddfod honno yn cael ei chynn al yn y Felindre ar yr union safle a fu'n gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd yn 么l.

"Efallai bod y tirwedd yn edrych braidd yn llwydaidd," meddai cadeirydd y pwyllgor gwaith, DyfrigEllis, "ond fe fydd yn Steddfod liwgar iawn."

Disgyblion Ysgol Bryn Tawe, Ysgol Gyfun Gwyr ac Ysgol Ystalyfera fu'n 'gwerthu'r eisteddfod honno, gyda disgyblion o ysgolion cynradd y fro, i gynulleidfa Llanerchaeron bnawn Gwener.

Cynhelir yr Eisteddfod rhwng Mai 30 a 4 Mehefin 4 2011.

Dyfrig Ellis, sy'n bennaeth Ysgol Lon Las, a Neil Rosser gyfansoddodd ganeuon i'r cyflwyniad gyda chyfraniadau gan Berian Lewis a Huw Dylan Owen.

Treuliodd y criw oriau dan gyfarwyddyd Laurel Davies a Helen Wyn, yn paratoi.

''Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda'r criw talentog yma'n fawr iawn a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu hymroddiad a'u gwaith caled dros y misoedd diwethaf.

"Mae gwirfoddolwyr eisoes wrthi'n codi arian ac ymwybyddiaeth yn lleol ac mae trigolion Abertawe yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r Eisteddfod i'r ardal flwyddyn nesaf, '' Meddai Dyfrig Ellis.

Rhoddodd cwmni lleol Gravells, yr asiantaeth Renault hynaf ym Mhrydain, gar yn wobr raffl ac mae tocynnau ar werth yn barod ar gyfer Kia Picanto pum drws

Eisteddfod dau gar felly!


Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.