成人快手

Cadair Dic Jones i fardd cyffrous

Gweddw Dic Jones yn llongyfarch Llyr

Yr oedd hi'n fuddugoliaeth y byddai unrhyw fardd yn ei chwennych.

Canmoliaeth hael y beirniaid a chadair y bu gan un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru lais yn ei chynllunio.

Llyr Gwyn Lewis o Gaernarfon enillodd y gadair a roddwyd i Eisteddfod Llanerchaeron gan deulu y diweddar Archdderwydd Dic Jones.

Mae'n fraint aruthrol," meddai, "ac rwyf newydd gael cyfarfod ei deulu ac mae'n meddwl cymaint mwy o wybod iddo ef ei hun gael dweud beth oedd o eisiau am y gadair," meddai Llyr ar 么l derbyn llongyfarchion Jean, gweddw Dic Jones, ar y maes.

Ar lwyfan yr Eisteddfod yr oedd Llyr yn barod wedi clywed ei hun yn cael ei ddisgrifio fel bardd "soffistigedig a chyffrous" gan y beirniaid, Gwenallt Llwyd Ifan a Fflur Dafydd.

"Yn sicr mae gan y bardd hwn weledigaeth a dawn ac mae'n profi hynny drwy gyflwyno awdl unigryw a thrawiadol. O'r darlleniad cyntaf synhwyrwn bod yma fardd go iawn ar waith," meddai Gwenallt Llwyd Ifan a oedd yn traddodi.

Yn awdl drosiadol ar y testun Tonnau dywedodd Llyr ei fod yn dychmygu yn y gerdd wrando ar y Shipping forecast a chyffelybu'r stormydd at m么r i stormodd bywyd.

"Ei neges yw mai stormydd na ragwelir yw'r union bethau sy'n gwneud bywyd yn werth ei fyw ac mae'n ein hannog i wynebu ffawd doed a ddelo a hynny gyda brwdfrydedd rhemp sy'n nodweddiadol o rywun ifan," meddai Gwenallt Llwyd ab Ifan.

. "Braf," meddai, "yw cael awdl mor obeithiol yn y gystadleuaeth ac y mae heb os yn datgelu mwy o ragoriaethau gyda phob darlleniad. Mae'n fardd soffistigedig a chyffrous."

Yn wreiddiol o Gaernarfon mae Llyr yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen a cfhyfaddefodd iddo fod yn 'chwarae' gyda'i awdl mewn darlithoedd.

"Weithiau byddai rhyw ddarlith yn mynd dros fy mhen i," meddai.

Mae Ll欧r wedi cystadlu yn yr Urdd sawl gwaith ar y llwyfan a llenyddol a'r llynedd yr oedd yn ail am y goron ac yn drydydd am y gadair

Yn enillydd hynod o wylaidd disdgrifiodd ei hun fel un sy'n dal i ddysgu cynganeddu.

"Dal i ddysgu ydw i . Yn sicr dydw i ddim yn feistr ar y gynghanedd - mae hi'n feistres go lem arnaf i ond gobeithio y daw hi'n haws efo'r blynyddoedd," meddai.

Ddiwedd dydd, yng nghanol yr holl longyfarch, dim ond un broblem oedd yna. Sut i gael y gadair adref i Gaernarfon.

"Does gen i ddim syniad mae Mam wedi bod yn ffysian Sut wyt ti'n mynd i'w chael hi adra? ond dyna oedd y peth ola ar fy meddwl i . Dwi'n meddwl bod yna rhyw lori yn mynd i Lan-llyn ac mi driwn ni ffendio ffordd o'i chael hi adref wedyn!" meddai.


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.