Yr oedd un o feibion T Llew Jones a dau o'i wyrion yn bresennol mewn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod ddoe iwobrwyo enillwyr cystadleuaeth a drefnwyd gan Gronfa Goffa yr awdur.
Gwobrwywyd dau unigolyn a dwy ysgol a fu'n cyfansoddi ar y thema T Llew Jones a Fi oedd yn rhoi cyfle i blant ysgolion cynradd ac uwchradd fynegi eu perthynas bersonol hwy trwy ei waith a'r bardd a'r nofelydd.

Y mae yna hefyd ddetholiad o'r hyn sgrifennwyd ar fwrdd yn y babell ac fe fydd y gwaith i'w weld ar wefan maes o law.

Yr oedd yn gyfle hefyd i Owenna Davies o'r Gronfa i alw am gyfraniadau i'r gronfa er mwyn ei gwneud yn un haeddiannol o awdur a gyfrannodd gymaint i gyfoethogi bywydau plant Cymru.

Y buddugwyr a dderbyniodd dystysgrif oedd:
Buddug Roberts, Llanllechid; Disgyblion ysgol gynradd Cilie Parc; Siriol Thomas a oedd hefyd yn cynrychioli Ysgol Dyffryn Teifi a fu'n fuddugol yn yr adran uwchradd.
Straeon heddiw
Cysylltiadau
Dysgu

Syrcas Gerdd
Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.