成人快手

Ail fedal ddrama - meddwl am drydedd

Manon

Mae'r gornel arbennig hon o Gymru yn un bwysig iawn i Manon Wyn Williams, enillydd y Fedal ddrama heddiw.

Yng Nghaerfyrddin heb fod yn rhy bell i ffwrdd enillodd y fedal o'r blaen ac yr oedd rhyw hanner awgrym ganddi ei bod a'i llygaid ar Eisteddfod yr Urdd Abertawe y flwyddyn nesaf.

A hithau ond yn 23 oed mae ganddi hawl cystadlu a'i gwneud yn dair.

Yn aelod o Aelwyd Rhosmeirch, Cefni, Ynys M么n mae Manon ar fin cwblhau astudiaeth MA mewn sgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor gyda'r bwriad o fynd ymlaen i ennill doethuriaeth.

Mae hi hefyd yn actores a thybiai fod hynny yn gaffaeliad pan yn mynd ati i sgrifennu dram芒u.

Bu'n dysgu drama yn Theatr Fach Llangefni yn ogystal 芒 chwarae sawl rhan mewn cynyrchiadau gan Gwmni'r Fran Wen a Chwmni Sianco.

Disgrifiwyd ei drama Disgwyl fel yr unig ddrama gyflawn o'r 12 yn y gystadleuaeth gan Mari Rhian Owen oedd yn beirniadu gyda Paul Griffiths, gohebydd theatr Y Cymro.

Derbyniodd Manon ei haddysg yn Ysgol Y Graig Llangefni ac Ysgol Gyfun Llangefni. Enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg a Theatr a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.

Ar wah芒n i gystadlaethau llenyddol mae'n cystadlu'n gyson gydag Aelwyd yr Ynys a'r un flwyddyn ag yr enillodd ei Medal Ddrama gyntaf yng Nghaerfyrddin enillodd hefyd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Gyda Mari Rhian Owen yn cyfeirio at y monolog fel ffurf anodd iawn i ddramodydd mae'n arwyddocaol mai dau fonolog sydd wedi ennill ei medalau i Manon.

Nan, sy'n yw mewn cartref henoed, yw'r cymeriad yn Disgwyl ac yn gymeriad "llawn unigrwydd a hiraeth" meddai Mari Rhian Owen mewn drama sensitif."

Er y gall y pwnc ymddangos yn drwm o'i roi o felna dywedodd Manon bod llawer o hiwmor yn y ddrama hefyd wrth i Nan edrych yn 么l ar ei phlentyndod.

Dywedodd ei bod "wedi gwirioni" o glywed rhyw fis yn 么l ei bod wedi ennill y fedal am yr eildro.


Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Pobol, pethau digwyddiadau - pob math o luniau o'r Maes

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

G锚m newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.