成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y delynores  Gwyneth Evans gyda John Williams, cadeirydd y Gymdeithas, a Nerys Haqq, unawdydd. Gŵyl Dewi 2006
Hanes dathliadau Gŵyl Dewi Dyffryn Comox, Ynys Fancwfyr, gan Idris Rees Hughes.


Yr oedd dathliadau Gŵyl Dewi eleni nos Sadwrn Chwefror 25.

Wel dyna Swper Dydd Gŵyl Dewi drosodd am flwyddyn arall.
Diolch i Gymdeithas Geltaidd Dyffryn Comox (Albanwyr y rhan fwyaf ohonynt) am gymryd Cymry 'r dyffryn dan eu hadain ac ymuno â ni i ddathlu.

A diolch i John Williams (o Lan Conwy gynt) cadeirydd y Gymdeithas am ei waith caled o'n plaid ni i sicrhau dipyn o sylw i Dewi Sant ar dramor draeth.

Wel wrth gwrs yr oedd y dathliad yn gynnar eleni ond beth wnewch chi a ninnau ar bigau'r drain i ddathlu bywyd ac esiampl ein nawdd sant.

Digonedd wrth y byrddauOedd, yr oedd dros gant ohonom wedi ymgynnull yn neuadd yr eglwys leol i falu a siarad ac i ganu a gwledda.

A beth am y bwyd?
Oedd o'n dda.
Dyma gip olwg ar y meniw:
Cawl cenin
Salads o bob math
Cig eidion a phwdin swydd Efrog
Tatws mash a grefi
Llysiau cymysg
Bara/byns
Pwdin
Cystadleuaeth Pice ar y maen
Te a choffi
Diodydd o bob math.
Adloniant
Y tro yma buom yn ffodus i gael gafael ar Gwyneth Evans, telynores o Duncan ger Victoria i'n diddori gyda miwsig o Wlad y Gân ar y delyn a hefyd Nerys Haqq unawdydd o Vancouver a gyflwynodd tua hanner dwsin o ganeuon gwerin Cymreig inni.

Oedd fe roedd 'na ganu cynulleidfaol o fath: Hen Wlad fy Nhadau a Gwŷr Harlech a Chwn Rhondda.

Dewcs, mi ges i noson dda ac mi wnes i fwynhau fy hun hefyd. Gobeithio y cewch chwithau hefyd dipyn o hwyl wrth ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi pa le bynnag y b'och.

Hwyl fawr ichi o Ddyffryn Comox, Ynys Vancouver, Canada.






ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy