 |
 |
Anrhydeddu Cymraes
Oddi wrth Idris Rees Hughes, Ynys Vancouver, Canada
|
Canmol gwaith ymhlith rhai dan anfantais Go brin y caiff neb o ardal Bethesda, nac unrhyw ardal arall yng Nghymru o ran hynny, y siawns i gael gwahoddiad i de yn Government House, Victoria, British Columbia, Canada.
Ond choeliwch chi fyth fe wireddwyd hyn Hydref 29, 2008, pan wahoddwyd Ann Gwyn Roberts, yn enedigol o ardal Bethesda, Arfon, i ymddangos gerbron y Lieutenant Governor, yn Victoria, talaith British Columbia i dderbyn anrhydedd arbennig y Governor General's Caring Canadian Award.
Derbyniodd Ann y gymeradwyaeth am ei gwaith ymhlith y rhai dan anfantais yn nhref Vancouver a'r cylch.
Y mae hi ymhlith dim ond 49 o bobl ledled Canada i'w chymeradwyo - tri, gan ei chynnwys hi, o dalaith British Columbia.
Diwrnod i'w gofio
Llwyddais i gael fy mhig i mewn i Government House, Victoria, y prynhawn Mercher, i wylio ac i gymryd rhan yn y seremoni.
Mwynheais y seremoni seml a diorchest ac wedyn y te bendigedig. Wnai byth ei anghofio yn teimlo fel un o'r 'byddugions'!
Gofynnais i Ann ar ôl y seremoni sut roedd hi'n teimlo ar ôl derbyn yr anrhydedd. Ac meddai:
" Iawn 'sdi." a " Wyddost ti ei bod hi'n ddiwrnod Ffair Llan adra heddiw?"

|
|