成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lwna yn llamu'r tonnau Morfil - ynteu hen bennaeth?
Idris Hughes o Ynys Vancouver yn sgrifennu am anifail y môr y credir ei fod yn ymgnawdoliad o hen bennaeth.



Pentref bychan ar ochr orllewinol Ynys Fancwfyr ydi Gold River - ac mae pethau'n dechrau poethi yno y dyddiau hyn.

Na, nid oherwydd yr amser o'r flwyddyn a gwres yr haul yn cynyddu ond yn hytrach am fod y brodorion lleol mewn ymrafael a'r DFO (Department of Fisheries and Oceans) dros Lwna yr Orca.

Yn chwareus
Mae Lwna bron yn bump oed eleni ac yn pwyso bron i bum tunnell. Am rhyw reswm neu'i gilydd gadawodd ei deulu dair blynedd yn ôl gan ymgartrefu yn Nootka Sound - lle delfrydol i Orca gyda digon o fwyd i'w gadw'n hapus drwy'r flwyddyn.

Yn anffodus dechreuodd Lwna gyfathrachu a thrigolion Gold River a fyddai'n casglu ar y doc efo'u cwn i edrych arno. Byddai yntau, yn ei dro, wrth ei fodd yn crafu ei gefn yn erbyn y doc ac yn gwthio'r cychod bach yn chwareus.

Y llong MV Uckuck 3 wrth y doc yn Nootka SoundErbyn heddiw mae'r DFO yn ystyried Lwna a'i natur chwareus yn dipyn o niwsans yn peryglu ei hun a bywydau pobl eraill.

Y dydd o'r blaen penderfynodd ddod i'r wyneb yn syth o flaen awyren a oedd ar fin glanio yn nyfroedd y Nootka Sound.

Bwriad y DFO ydyw dal Lwna a'i gludo mewn tryc i Peder Bay ger Victoria, rhyw 350 kilometyr i'r de ac yna ei ollwng yn rhydd pan fo pod o Orcas yn nofio heibio.

Yr hen bennaeth
Ond nid yw'r syniad yn dderbyniol i dylwyth y Mowachaht - Muchalaht. Eu dadl hwy ydi gadael i natur gymryd ei chwrs.

Wedi'r cyfan mae Lwna'n ddigon call i adael Nootka os dymuna. Nid yw'n gaeth o bell ffordd; yno o'i ddewis ei hun mae o.

Yn fwy diddorol fyth, cred y Mowachaht bod Lwna yn ymgnawdoli ysbryd y diweddar bennaeth a fu farw yr union amser yr ymddangosodd Lwna yn Nootka Sound gyntaf.

A dymuniad olaf y pennaeth ar ei wely angau oedd dychwelyd yn ôl fel Orca - ceidwad y môr yn ôl traddodiad y brodorion.

Bwriad y llwyth bellach ydi helpu Lwna i osgoi magl y DFO. Maen nhw yno heddiw yn eu ceufad yn hebrwng Lwna allan tua'r môr ac i ffwrdd o afael y rhwyd sy'n mynd i'w garcharu am wythnos cyn ei gludo i Victoria.

Mae Lwna wrth ei fodd efo'r holl sylw ac yn dilyn y ceufadau yn glos ac ufudd gyda'r brodorion yn canu iddo a chosi ei fol.

Pob lwc i'r Mowachaht, a phob lwc i Lwna!






cysylltiadau




ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy