 |
 |
Eryrod yn casglu
Idris Hughes yn sôn am effaith y gaeaf caled ar Ynys Vancouver, Canada.
|
Fe gawsom aeaf digon egar yn Nyffryn Comox eleni a phrin iawn oedd lluniaeth ar gyfer yr anifeiliaid gwylltion.
Ambell i fore roedd teulu o geirw lleol wrth y drws ffrynt yn cardota am afal neu grystyn.
Yr un oedd chwant yr eryrod am bryd o fwyd yn ystod y dyddiau rhewllyd a gorfu inni amryw o weithiau gadw llygaid gofalus ar ein cathod a'n cŵn rhag ofn iddynt ddisgyn i grafangau yr eryrod llwglyd.
Ond diolch i garedigrwydd pysgotwyr lleol fe ddaeth gwledd i'w rhan ambell i fore ar y Goose Spit yn Comox.
A dyma nhw yn eu dwsinau yn disgwyl ac yn gwledda ar gardod y caredigion yn ein mysg.
Mwynhewch y lluniau ac nac anghofiwch yr adar bach draw yng Nghymru. Mae hi'n aeaf arnynt hwythau hefyd.
(Gyda diolch i dynnwr lluniau lleol.)

|
|