12 Tachwedd 2010
Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, anogwyd menywod ar draws Prydain i 'wneud eu rhan' yn ymdrech y rhyfel.
Roedd posteri ac ymgyrchoedd ar draws Prydain yn gofyn i fenywod "Ymuno 芒'r Wrens a rhyddhau dyn i'r llynges" ("Join the Wrens and free a man for the fleet").
Yr enw hoffus ar aelodau Gwasanaeth Menywod y Llynges Frenhinol (WRNS - Women's Royal Navy Service ) oedd y 'Wrens'. Wedi eu ffurfio'n wreiddiol yn 1917, fe chwaraeon nhw r么l werthfawr yn y ddau ryfel byd a rhyfeloedd eraill drwy gydol yr 20fed ganrif.
Trwy'r Wrens, roedd menywod yn gweld eu cyfle i weld y byd a chael swydd a oedd yn llawn antur a phrofiadau newydd. Anogwyd miloedd o fenywod i ymuno a gwneud swyddi yr oedd dynion wedi arfer 芒'u gwneud. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd dros 74,000 o fenywod wedi ymuno.
Yn eu mysg roedd menywod sydd bellach yn aelodau o gangen gogledd Cymru o Gymdeithas y Wrens. Mae'r gr诺p o ogledd Cymru a oedd yn aelodau o'r Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel byd wedi bod mewn cyfres o aduniadau mewn llefydd fel Lerpwl, Caernarfon a Chaergrawnt ac yn rhannu eu hatgofion drwy gynllun wedi ei ariannu gan y
I Margaret Street, o West Kirby yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ym Mhrestatyn, y syniad o groesi'r moroedd a theithio'r byd a'i denodd hi i ymuno.
"Y cyfan yr oeddwn eisiau'i wneud oedd mynd tramor, a thybiais mai ymuno 芒'r Wrens oedd yr ateb perffaith i'm hysfa i grwydro," meddai Margaret, sylfaenydd Cymdeithas WRNS gogledd Cymru, a ymunodd ym 1944 yn 19 oed.
"Pan ymunais, fe'm hanfonwyd i ganolfan hyfforddi yn Mill Hill yn Llundain ac wedi hynny, yn 么l i Lerpwl," meddai Margaret, gan gofio ei siom wrth gael ei lleoli 10 milltir yn unig o'i chartref.
"Gwirfoddolais am ddyletswyddau tramor fel gwyliwr signalau, ond os oeddech o dan 21 oed roedd rhaid cael caniat芒d eich rhieni i fynd tramor. Cymerodd chwe mis hir i mi ddarbwyllo fy rhieni i gytuno." O'r diwedd, ar 么l misoedd o erfyn, roedd ei rhieni'n barod i gytuno. Ychydig fisoedd wedyn, cafodd Margaret ei drafftio i Ceylon, neu Sri Lanka fel y mae'n cael ei adnabod heddiw.
Ar 么l treulio amser byr yn hwylio i'r Aifft, yna i Bombay ac draws India ar dr锚n i Madras cyn troi tua'r de i Danishkodi daliodd Margaret fferi i Colombo, n么l ar ynys Ceylon, gyda 21 o fenywod eraill o'r llong filwrol. Oddi yno, cafodd ei hanfon i Trincomalee, ardal jyngl anghysbell ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr ynys.
Roedd y swyddog cyntaf wedi disgrifio'r genhadaeth fel "bywyd cwbl wahanol - bydd rhaid i chi weithio'n galed oherwydd bod harbwr enfawr yno a llawer o signalau'n mynd ymlaen drwy'r amser, ond gallwch chwarae'n galed. Mae yno nofio, picnics a barbeciws." I ferch 19 oed roedd hyn yn swnio'n rhy dda i'w wrthod. Ynghyd 芒 chwe Wren arall, paciodd Margaret ei bagiau ac anelu am Trincomalee.
"Roedd Trincomalee yn fwrlwm o weithgarwch. Bryd hynny roedd y rhyfel yn Ewrop drosodd felly roeddent wedi anfon llongau o'r llynges gartref a llynges y Canoldir i ymuno 芒 Llynges y Dwyrain Pell, yn barod i oresgyn Japan. Roedd yn harbwr enfawr, un o'r mwyaf yn y byd ar y pryd ac roedd yn llawn dop gyda llongau'n anfon signalau i'w gilydd drwy'r amser. Gan fod cynifer o longau roeddech bron yn gallu cerdded o un llong i'r llall," cofia Margaret.
Roedd Margaret ar ddyletswydd pan ddaeth y signal drwodd bod y bom atomig wedi ffrwydro, a phan gyhoeddwyd diwrnod VJ.
"Ni allech gredu sut roedd yn teimlo; roedd pawb yn hynod gyffrous. Roedd y morwyr yn taflu eu hetiau yn yr awyr a chawsom ddiodydd am ddim. Roedd yr holl bobl leol yn ogystal 芒'r morwyr o gwmpas yr harbwr mewn hwyliau da. Pan ddaeth y machlud, roedd yr holl longau wedi'u goleuo ac roedd cannoedd ar filoedd o d芒n gwyllt yn cael eu cynnau - roedd yn brofiad rhyfeddol," meddai Margaret.
Ynghyd 芒 miloedd o Wrens eraill cafodd Margaret ei dadfyddino ym 1946, ond mae'n parhau i fod yn aelod gweithgar o gangen Rhyl y Wrens.
Roedd Margaret Read yn 24 oed pan atebodd yr alwad i ymuno 芒'r WRNS. Cafodd ei hanfon i Blundellsands yn Lerpwl i gael ei hyfforddi cyn cael ei drafftio i Machrihanish ar Benrhyn Kintyre yn yr Alban.
"Roeddwn yn gweithio dan y ddaear mewn PCB - adeilad amddiffynnol ar gyfer cyfathrebu [protective communications building]. Roeddwn yn wyliwr dosbarthu signalau neu 'bunting tossers' fel roeddem yn cael ein galw. Pan dderbyniom negeseuon, roedd rhaid i ni ddarganfod a oedd yn gyfrinachol neu beidio. Yna penderfynu pwy oedd y bobl iawn i'w dosbarthu nhw iddynt," meddai Margaret, sydd yn 93 oed, ac yn aelod hynaf cangen y Rhyl o'r Wrens.
Roedd Machrihanish yn un o dair gorsaf brysuraf adran awyr y llynges ym Mhrydain ac yn fwrlwm o weithgarwch yn ystod y rhyfel. C芒i ei ddefnyddio i hyfforddi peilotiaid i esgyn awyrennau o lain awyr byr, maint dec llong.
Yno y clywodd Margaret dros yr uchelseinydd fod Buddugoliaeth yn Ewrop wedi'i chyhoeddi.
"Roeddwn ar ddyletswydd pan gawsom wybod am Ddiwrnod VE - roedd gyda'r nos a byddai'r cadoediad gyda'r Almaen yn cael ei lofnodi'r diwrnod wedyn. I ddathlu, rhoddwyd caniat芒d 'Splice the mainbrace' i'r rheiny oedd ar y llongau rhyfel, gan gynnwys y Wrens, sef caniat芒d i gael diod.
"Cawsom ychydig o r峄砿. Roedd yr holl ddynion yn ei yfed yn rheolaidd ond doedden ni wedi'i gael o'r blaen. Aethom i gyd draw a'r cyfan oedd gennym oedd ein mygiau. Roedd casgen fawr gyda bandiau pres disglair o'i chwmpas a rhoddodd swyddog y diwrnod ychydig i ni i gyd. Roedd un o swyddogion y Wrens yno gyda gwydraid o dd诺r - doedd hi ddim eisiau criw o Wrens meddw!" meddai Margaret gan chwerthin.
Er eu bod wedi gweithio'n galed dros oriau hir, mae Margaret yn mynnu bod y cwlwm y mae'r Wrens yn ei rannu wedi'u helpu nhw, cwlwm sy'n dal i fodoli heddiw.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gynllun Arwyr yn 脭l 2 y Gronfa Loteri fawr ffoniwch y llinell gymorth ceisiadau ar 0845 00 00 121 neu ewch i'w gwefan .
Yr Ail Ryfel Byd
Cysylltiadau'r 成人快手
Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.
Gogledd ddwyrain
Ffatri gemegau
Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.
Gogledd orllewin
Straeon rhyfel
O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.