成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
成人快手 Cymru'r Byd - Creu Cenedl

成人快手 成人快手page
Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

成人快手 Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Ll锚n
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Y Rhyfel a'r Dirwasgiad faciw卯s yn ystod y Rhyfel Byd
Faciw卯s yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Effaith y Dirwasgiad
Y mae鈥檙 dirwasgiad yn rhoi terfyn ar y cynnydd diwydiannol a fu鈥檔 mynd ar garlam am ganrif a hanner. Y mae pobl yn gadael Cymru wrth eu miloedd - 390,000 yn gadael rhwng 1925 a 1939. Nid yw poblogaeth Cymru yn cyrraedd y rhif ydoedd yn 1925 tan 1973. Canlyniad y segurdod di-ddewis yw ffataliaeth ac anobaith. Mae byw ar enillion bychan yn cael effaith ar iechyd pobl ac ar gyflwr eu tai. Mae鈥檙 prawf moddion - sy鈥檔 golygu llai o fudd-dal diweithdra os oes gan deulu incwm o ffynhonnell arall - yn arwain ar wrthdystiadau enfawr, yn eu plith protest ar 3 Chwefror 1935, gan hyd at 300,000 ar strydoedd Cymru. Mae methiant ymddangosiadol cyfalafiaeth yn hwb i achos y Sosialwyr a鈥檙 Comiwnyddion, sydd ar flaen y gad ym mhob protest. Mae鈥檙 dirwasgiad yn yr ardaloedd diwydiannol yn ergyd i ddiwylliant y capeli a鈥檙 iaith Gymraeg. Arweiniodd ffrae ynglyn 芒 chynorthwyo鈥檙 di-waith at gwymp Llywodraeth Lafur 1929-31, ac ym marn y Llywodraeth Genedlaethol a ffurfiwyd nid oedd dim i鈥檞 wneud ond aros i bethau wella. Yn 1937, serch hynny, mae鈥檙 llywodraeth yn dechrau cynorthwyo cwmn茂au sy鈥檔 creu swyddi mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel - gan sefydlu鈥檙 polis茂au economaidd rhanbarthol hynny a fyddai mor fanteisiol i Gymru. Ond er y swyddi newydd - yn enwedig mewn llefydd fel gwaith dur Glyn Ebwy a stad ddiwydiannol Trefforest - a chynifer o bobl ddi-waith yn ymfudo, nid yw economi Cymru yn gwella rhyw lawer. Yn y mis olaf cyn y rhyfel, Awst 1939, mae 15.2% o wrywod yswiriedig Cymru yn ddi-waith.

Yr Ail Ryfel Byd
Y mae鈥檙 rhyfel yn datrys problem diweithdra, dros dro o leiaf. Erbyn 1941 mae gan bron bawb sy鈥檔 abl i weithio, swydd, ac mae canran y menywod sy鈥檔 ymuno 芒鈥檙 gweithlu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o鈥檙 Deyrnas Unedig. Ar ben hynny, mae鈥檙 rhyfel yn lladd pymtheg mil o Gymry ac mae galw ar lawer mwy i fynd i weithio mewn ffatr茂oedd yn Lloegr. Credir bod Cymru鈥檔 rhy bell i gyrchoedd awyr yr Almaenwyr; mae鈥檙 holl faciw卯s swyddogol ac eraill sy鈥檔 ffoi rhag y bomio yn ychwanegu rhyw ddau gan mil at rif y boblogaeth. Ond di-sail yw鈥檙 gred bod Cymru鈥檔 ddiogel, fel y profodd y cyrchoedd ar Abertawe yn Chwefror 1941. Serch hynny, mae nifer o ddiwydiannau rhyfel yn cael eu sefydlu yng Nghymru, gan gynnwys stordai arfau enfawr ym Mhenybont ar Ogwr. Y mae llai o alw am weithwyr yn y diwydiannau trymion, ac mae hynny鈥檔 creu鈥檙 gobaith am fwy o amrywiaeth economaidd wedi鈥檙 rhyfel. Oherwydd prinder bwyd mae鈥檙 ffermwyr yn cael mwy am eu cynnyrch. A鈥檙 rhyfel yn llusgo ymlaen mae yna benderfyniad yng Nghymru fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig na fydd ailadrodd holl helbulon y 1930au. A鈥檙 agwedd meddwl yma yw鈥檙 brif ffactor yn llwyddiant ysgubol y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1945.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur

  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
    Tud 1, Tud 2,

  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
成人快手
漏 MM


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy