成人快手

Plant Llundain yn paratoi i adael yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

滨蹿补肠颈飞卯蝉

17 Hydref 2008

Drwy gydol y 1930au roedd bygythiad y rhyfel wedi creu ofn gwirioneddol y byddai cannoedd ar filoedd o bobl Prydain yn cael eu lladd gan fomio'r Almaenwyr.

Er mwyn gwarchod plant ac osgoi'r anrhefn a allai ddigwydd o symudiad y boblogaeth, lluniodd y Llywodraeth gynllun ar gyfer symud plant i loches i rannau o Brydain oedd yn cael eu hystyried yn ddiogel rhag cyrchoedd awyr yr Almaen. Roedd Cymru yn cael ei hystyried yn un o'r llefydd hynny ac anfonwyd dros 100,000 o blant o ddinasoedd mawr Lloegr i loches yng nghefn gwlad Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

I lawer o'r plant, roedd cefn gwlad yn lle dieithr iawn a'r iaith Gymraeg yn rhywbeth hollol newydd iddyn nhw. Gwrandewch ar atgofion Elsie Jones o Lerpwl am syndod gweld blodau a gwyrddni byd natur wrth gyrraedd Cymru am y tro cyntaf.

Roedd rhai cenedlaetholwyr yn poeni bod dyfodiad yr ifaciw卯s Saesneg eu hiaith yn fygythiad mawr i'r Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd oedd eisoes yn rhanedig o ran iaith gan y byddai'r newydd-ddyfodiaid yn ffafrio'r cydbwysedd tuag at y Saesneg.

Ond er yr ofnau yma, agorodd miloedd o bobl eu drysau i'r plant oedd mewn perygl gan ddod 芒 phobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol a ieithyddol, ac o wahanol ddosbarth a thraddodiad, at ei gilydd mewn ffordd oedd heb ddigwydd o'r blaen.

Mewn ardaloedd lle roedd y Gymraeg yn gryfach na'r Saesneg roedd yr ifaciw卯s yn cymhathu yn gynt ac yn aml yn dysgu'r iaith.

Mewn rhai achosion, magwyd cwlwm clos rhwng y teulu a'r ardal a'r plant noddedig ac, am wahanol resymau, ni aeth rhai o'r faciw卯s fyth adref i Loegr wedi'r rhyfel.

Cofia Dorothy Griffiths, a ddaeth yn ifaciw卯 i Ystradgynlais o Lerpwl yn 11 oed, am ei hawydd i ddysgu Cymraeg: "... roedd dosbarth i'r criw Saesneg a'r criw Cymraeg a gofynnes i sa'n i'n cael mynd mewn i'r class Cymraeg achos o ni isie dysgu'r iaith Gymraeg. Fe wedodd Miss Edwards, popeth yn iawn. Es i mewn a dysges i. Unarddeg oed oeddwn i bryd 'ny - roedd hi'n haws i mi ddysgu yr oedran 'ny nag yn henach.

Dorothy Griffiths
Dorothy Griffiths

"Roeddwn i'n awyddus iawn i ddysgu'r Gymraeg. Roeddwn i'n mynd i'r cwrdd a phan oedden ni'n mynd mas roeddwn i'n gofyn i'n anti beth oedd ryw air ac roeddwn i'n cofio. Roeddwn i hefyd yn ffrind efo'r pregethwr a'i wraig. Fe ddechreues i ddysgu adrodd yn yr Eisteddfodau ac fe enilles i lot yn yr Eisteddfodau ... Roeddwn i'n joio fe.

"... pan ddaeth yr amser i'r evacuees fynd yn 么l ond roeddwn i'n dwli bod yma - doeddwn i ddim moyn mynd yn 么l i Lerpwl o gwbl. Aeth fy ffrindiau o Lerpwl yn 么l ond nes i aros ac wedyn cwrdd 芒'm g诺r a ni'n dal i fyw yn Ystradgynlais."

Profad tebyg gafodd Cyril Fathers pan ddaeth yn ifaciw卯 i Gilgerran. Dysgodd Gymraeg yn ysgol Capel Newydd: "Pan es i n么l i Lloegr ar 么l 13 mlynedd yng Nghymru - wedd neb yn Lloegr yn gallu siarad Cymraeg. Wnes i gyfarfod rhai Cymry yn Lloegr - rhai yn siarad Cymraeg a byddwn yn siarad 芒 nhw er mwyn i mi gadw fy Nghymraeg pan o'n i bant yn Lloegr."

Mewn rhai ardaloedd roedd y faciw卯s yn mynd i ysgol ar wah芒n i'r plant lleol ac yn aml roedd gwrthdaro rhwng y ddwy garfan.

I Jimmy Ritchie, a anfonwyd o Benbedw i Ddyffryn Ardudwy yn ystod y rhyfel ond sydd bellach yn ffermwr yn Ysbysty Ifan, lleddfwyd y gwahaniaethau yma dros amser: "Roedd yna ryw hanner cant ohonon ni'r faciw卯s yn Dyffryn a Thal-y-bont ac roedd ganddon ni ysgol ac athrawon ein hunain. Byddai'r Saeson i gyd yn chware efo'i gilydd, ar wah芒n i'r Cymry. Doedden ni ddim yn gallu siarad iaith ein gilydd, ond yn y diwedd mi gychwynnon ni ddod yn ffrindiau trwy chwarae, fel mae plant yn gwneud.

"Mi wnes i ddysgu Cymraeg ar 么l symud yma wrth gwrs, trwy chwarae, adref ac yn yr Ysgol Sul - roeddwn yn fachgen da ac yn mynd bob Sul!

"Mi wnes i aros trwy gydol y Rhyfel. Aeth rhai yn 么l, bob yn ddau a thri wrth iddynt gyrraedd 14 oed a gadael yr ysgol, ond roedd mam wedi marw a dad wedi symud i Ellesmere Port ac roedd yn ddeng mlynedd cyn i mi ddychwelyd i Birkenhead. Roedd yna fwy o dynfa yng Nghymru nac yno erbyn hynny ... Dwi'n fwy o Gymro na Sais erbyn hyn."

Meddai Hafina Clwyd wrth gofio dyfodiad faciw卯s o Lerpwl a Phenbedw i bentref Gwyddelwern yn Edeyrnion: "Nid oedd yr un plentyn yn yr ysgol (na fawr neb yn y pentre) yn medru gair o Saesneg ac nid oedd dim un o'r plant cadw'n medru gair o Gymraeg. Erioed wedi meddwl bod yna iaith arall yn bodoli! Nid wyf yn cofio llawer amdanyn nhw heblaw eu bod yn siarad iaith estron, bod ganddyn nhw lau yn eu pennau a bod yna ymladd ffyrnig rhwng bechgyn y pentre a bechgyn Lerpwl. Yn rhyfedd iawn, penderfynodd rhai ohonyn nhw aros, priodi merched lleol a magu eu plant yn Gymry."

Doedd aelwydydd Cymru ddim bob amser yn falch o weld eu llocheswyr newydd. Roedd arnyn nhw ofn bod germau, llau ac afiechyd yn cael eu cyflwyno i gefn gwlad Cymru o slyms Lloegr.

Cofia Gracie Roberts o Gaernarfon am ymateb eithafol ei mam o glywed am ddyfodiad faciw卯s i'r dre: "Roeddwn i yn eu damio nhw i'r cymyla, munud roedd mam yn clywed bod mwy o 'fforinyrs' wedi cyrraedd y Dref doedd dim mercy i'w gael ganddi. 'Griff' medda hi wrth fy nhad 'get plenty hot water ready for the tub, Gracie will need another bath and her head washed and probably de-liced again'.

"Roeddwn yn gwybod yn iawn mae faciw卯s oedd wedi cyrraedd y dref unwaith eto, dyna oedd y drefn pob tro. I'r twb golchi o flaen y t芒n, cael fy sgwrio hefo Carbolic Soap (sebon coch drewllyd) a golchi fy mhen hefo paraff卯n i ladd nits a llau os oedd gennyf rai ne beidio."

Atgofion cymysg oedd gan Eleanor Roberts o Garndolbenmaen am y plant ddaeth i'w hardal wledig yng Ngwynedd rhwng 1939 a 1945: "Oherwydd oedran Taid a Nain, a'r ffaith fod Mam yn wael, ni orfu i ni gymeryd plant cadw - ifaciw卯s. Ond cafodd y Person a'i wraig, oedd yn ddi-blant, ddau hogyn o Lerpwl, Harri a Tomi Oaks. Dau hyderus dros ben oeddent.

"Curent ddrws nain a deud, 'Dyro frechdan siwgr i ni'. Arswydai Nain ar eu haerllugrwydd, roedd hi wedi cael dysg gwahanol i barchusrwydd. Ac ni wyddai'r Person a'i wraig faint stumog dau fachgen ar eu prifiant. Dysgodd y ddau Gymraeg yn sydyn iawn.

"Daeth geneth fach bedair oed o Lundain hefo'i mham a'i brawd i fyw at ei nhain i Golan - Dorothy. Ni siaradai Gymraeg. Sylwodd ei mham arnaf i yn eistedd yn y drol ar ryw daith hefo'm taid. Ac wrth Dorothy dywedodd ei mam: 'Hefo'r hogan fach yna sydd yn y drol y byddi di yn mynd i'r ysgol.' Ac felly bu pan ddaeth yr amser.

"Roedd llawer mwy o Gymry bach uniaith yn Ysgol Garn Dolbenmaen bryd hynny (1941) ac mewn dim dro o roedd Dorothy yn Gymraes. Hyd heddiw mae'r cyfeillgarwch clos fu rhyngom ar hyd y blynyddoedd yn para. Buom forwynion priodas y naill i'r llall."

Gallwch ddarllen atgofion llawn y faciw卯s a'r cyfranwyr eraill drwy glicio yma:


Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.

Gogledd ddwyrain

Arfau cemegol

Ffatri gemegau

Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.

Gogledd orllewin

Milwyr yn yr Aifft

Straeon rhyfel

O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.

Canolbarth

Parti stryd

Diwrnod VE

Dathlu diwedd y rhyfel ac atgofion ifaciw卯s gan bobl y canolbarth.

成人快手 iD

Llywio drwy芒鈧劉r 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.