In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Darlledwyd Eisteddfod Cairo yn anterth yr Ail Ryfel Byd ar 31/10/1943. Yn y clip hwn, mae'r Archdderwydd yn cyhoeddi enillydd y Gadair, gyda'r gri 'A oes heddwch!', a'r tenor John Evans o Frynsiencyn yn canu Cartref.
17 Hydref 2008
Cynhaliwyd Eisteddfod Cairo yn 1943, dan adain Cymdeithas Gymreig Cairo ar gyfer y milwyr Cymreig oedd wedi eu lleoli yn yr Aifft .
Fe'i trefnwyd gan y Parch J Madoc Jones a Richard Aethwy Jones oedd yr Archdderwydd a ynganodd y gri draddodiadol, A Oes Heddwch! Enillwyd y gadair gan W J Jones o Gaernarfon a'r Gwir Barchedig Llewellyn Gwyn, Esgob yr Aifft a Swdan, oedd Llywydd y Dydd.
Darlledwyd Eisteddfod Cairo gan y 成人快手 yn 1943 a chlywodd y gwrandawyr n么l yng Nghymru y tenor John Evans o Frynsiencyn yn canu 'Cartref' dan dipyn o emosiwn - gallwch wrando ar y g芒n a'r seremoni gadeirio yn y clip uchod.
Ymysg y darnau eraill a ganwyd yn yr Eisteddfod mae Sosban Fach a Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd, ynghyd ag ambell g芒n Saesneg!
Un milwr sy'n cofio'r achlysur yn dda ydy Elias Jones o Amlwch, aelod o'r Llu Awyr yn yr Aifft rhwng 1940 - 1945. Roedd am gyfnod yn weithiwr weirles ar yr awyrennau yn gyfrifol am anfon rhagolygon y tywydd a chludo sypleis i El Alamein.
"Gan fod cannoedd o Brydeinwyr yng Nghairo roedd 'na gapeli yno hefyd, ac mi wnaeth y Cymry gymryd un ohonynt drosodd fel Capel Cymraeg Cairo. Roedd un o'r prif Gapleiniaid yn y Dwyrain Canol yn dod o Lannerchymedd ac mi fydden ni'n cyfarfod yn y Capel Cymraeg bob nos Sul, yna mynd ymlaen i fwyty Eidalaidd a chanu caneuon Cymraeg drwy'r nos.
"Roedd eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Capel Cymraeg bob blwyddyn. Doeddwn i ddim yn un i gymryd rhan mewn eisteddfodau fel arfer ond mi wnes i fwynhau gwylio pawb yn cystadlu. Un peth sy'n aros yn y cof ydy'r 'steddfod gyntaf - yn y YMCA dwi'n meddwl. Daeth bachgen ifanc i fyny i ganu, a'r neuadd yn llawn o soldiwrs y fyddin a'r awyrlu ar leave o'r anialwch. A dyna'r hogyn yma, John Evans o Frynsiencyn, yn canu 'Cartref' - roedd na ddagrau yn ll'gadau pawb.
"Dwi'n cofio'r 成人快手 yn darlledu o'r Aifft ar Ddydd Gw欧l Dewi Sant yn 1941 hefyd. Mi wnaethon nhw ofyn i ni, giang o fois Cymraeg, ddweud gair ac mi nes i glywed fod pawb adref yn Amlwch yn gwrando.
"Cof arall ydy bod ar diwti un noson a gyrru neges morse code o Cairo i Algiers. Ar 么l gorffen mi ofynnais i'r boi mewn morse code o ble roedd yn dod - "Wales" gyrrodd yn 么l. "Where in Wales?" gofynnais. "Anglesey," meddai, "Amlwch." Roeddwn yn ei 'nabod o'n iawn ac felly roedden ni'n gallu siarad Cymraeg ar yr awyr heb boeni bod neb yn gwrando arnon ni."
Bu Elias Jones yn dweud ei hanes wrth d卯m bws 成人快手 Cymru. Gallwch ddarllen mwy o hanes Elias Jones a gweld ei luniau o'r cyfnod ar wefan 成人快手 Lleol
Yr Ail Ryfel Byd
Cysylltiadau'r 成人快手
Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.
Gogledd ddwyrain
Ffatri gemegau
Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.
Gogledd orllewin
Straeon rhyfel
O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.