Dros y flwyddyn ddiwethaf maent wedi bod yn cystadlu dros Brydain gyfan am y teitl Pencampwyr Enduro Prydain mewn beic modur a seidcar. Mae'r pwyntiau maent yn ennill o rownd i rownd yn cael eu cyfrif ac mae'r marciau uchaf yn dod i'r brig ac yn ennill y Bencampwriaeth. Tro Chris a Simon oedd hi eleni. Roeddynt wedi cystadlu mewn unarddeg o rasau, ac allan o'r unarddeg wedi ennill saith ohonynt ac wedi dod yn ail yn y gweddill. Dydd Sadwrn, lonawr l7eg aeth y ddau i Solihull i dderbyn y teitl a'u medalau. Llongyfarchiadau cynhesaf i'r ddau ar gamp o orchest.
 |