Mentrodd bron drigain o aelodau Clwb yr Henoed allan dros ffyrdd gwael a phalmantau Ilithrig i'w cinio blynyddol Dydd lau, lonawr 7 fed.
Diolchodd Beryl Calvin-Thomas i bawb wnaeth helpu gludo yr aelodau i gyd yn saff yno ar ddiwrnod mor oer a gaeafol.
Roedd croeso twymgalon a chysurus ym Maesmawr Hall pan wnaethont gyrraedd.
Cafwyd cinio godidog wedi ei weini yn brofessiynol a di ffwdan gan y staff.
Roedd gwobrau di-ri i'w cael yn y raffl ac fe wnaeth bron bob aelodau fynd adref ac anrheg yn eu Ilaw.
Diolchwyd i bawb oedd yn bresennol ac i staff Maesmawr Hall gan Beryl Calvin卢Thomas ar ddiwedd y pnawn.
 |