成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Y criw Dysgu am Owain Glynd诺r yn Sycharth
Gorffennaf 2007
Daeth nifer dda ynghyd ger Llangedwyn ar noson braf (Mehefin 5, 2007) i ymweld ag olion Sycharth, sef cartref Owain Glynd诺r (1349-1416).

Cawsom gwmni diddorol ac addysgiadol Emyr Evans (Cefn Braich), un a fagwyd yn yr ardal, wrth iddo ein tywys o gwmpas cloddweithiau'r "castell" tomen a beili a dweud hanes y g诺r nodedig a ddaeth i'r amlwg fel arweinydd dylanwadol cenedlaetholdeb Cymreig.

'Roedd Owain Glynd诺r o dras bendefigaidd - yn aelod o linach gogledd Powys a'r Deheubarth; dysgodd Saesneg, astudiodd y gyfraith yn Llundain a daeth yn filwr disglair a theyrngar i frenin Lloegr cyn dychwelyd i Gymru. Daw disgrifiad o Lys Owain Glynd诺r (sef Sycharth) yng ngherddi'r bardd, Iolo Goch.

Ym mis Mehefin 1401 ym Mrwydr Pyllalai carcharwyd Syr Edmwnd Mortimer (Iarll Merswy), un o dri thw pendefigaidd mwyaf pwerus Lloegr, gan Glynd诺r. Ar ddiwrnod olaf Tachwedd 1402 priodwyd Mortimer 芒 Chatrin, merch Owain ac mae'n debyg bod y seremoni, gwledda a'r lletygarwch yn Sycharth heb ei ail.

Llosgwyd Ty Maenorol Sycharth a llawer o dai yr ardal ym mis Mai 1403 gan y Tywysog Hal (Henri V) a symudodd Glynd诺r, ei lys a'i deulu i Gastell Harlech - lle y bu tan 1408.

Ym Machynlleth yn 1404 fe gynylliodd Glynd诺r senedd o bedwar dyn o bob cwmwd yng Nghymru ac fe'i goronwyd yn Dywysog y Gymru Rydd. Cafwyd ail senedd yn 1405 yn Harlech pan gynlluniodd Glynd诺r i rannu Lloegr a Chymru yn dair fel rhan o glymblaid (Glynd诺r, Mortimer ac Iarll Northumberland) yn erbyn brenin Lloegr ond ni wireddwyd y Cynllun oherwydd grym cynyddol byddin y Brenin.

Yn 1408 fe syrthiodd cestyll Harlech ac Aberystwyth, i luoedd y brenin. Lladdwyd Mortimer ac fe garcharwyd teulu Glynd诺r yn y T诺r yn Llundain ond parhaodd ef a'i fab, Meredudd, i fod yn ddraenen yn ochr y brenin newydd (Henri V) nes rithiodd o lwyfan hanes ym 1415.

Cawsom fap gan Emyr yn dangos lleoliad tebygol y Llynodd pysgod, yr Ardd, y cyndai c诺n a'r pentref lle trigai'r gweision a'r crefftwyr a wasanaethai'r Llys. Mae'n debyg fod y Ffos wedi ei sychu tua diwedd yr 1890'au. Ym 1962 fe wnaethpwyd ymchwiliad archeolegol o'r safle ac o'r pridd fe godwyd rhai arteffactau a ymddangosai'n gysylltiedig 芒 thrigfan a losgwyd ar ben y domen.

Diolchodd Dai Morris i Emyr am roi o'i amser i'n tywys o amgylch safle cartref Owain Glynd诺r a'n haddysgu am y g诺r o Sycharth. Wedi'r ymweliad cawsom swper blasus ym Mwyty'r Orsaf yn Llansantffraid.

  • Mwy am Owain Glynd诺r

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy