Dosbarthwyd 拢1000 a wnaethpwyd yn y Rasus ar gaeau Red House drwy ganiatad caredig Rachel Davies a'r teulu.
Mae'r rasus yn boblogaidd iawn gan y cyhoedd ac yn y tair blynedd ddiwethaf mae Rasus Caersws wedi cael ei henwebu fel y gorau allan o 40 o gyfarfodydd tebyg ddwy waith ac yn ail yn y drydedd flwyddyn.
Bydd y rasus nesaf ar gaeau Red House, Dydd Sadwrn, Mehefin 30 yn dechrau am hanner awr wedi un, ac fe fydd 拢4000 yn cael ei dalu allan mewn gwobrau.
Yn y llun gwelwch Ann Lewis yn derbyn siec o 拢600 oddi wrth Rachel Davies i'r Ambiwlans Awyr a Paul Calvin-Thomas yn derbyn siec oddi wrth George Lewis o $000 i Glwb Pentref Caersws.
Hefyd yn y llun mae Phil Davies, Brian Matthews, Harry a Lyn Newey, John a Sue Hughes, aelodau'r pwyllgor.
 |