Effaith y diwylliant jazz
Chwaraeodd y clybiau jazz ran hollbwysig yn natblygiad y flappers. Dyma ble gallen nhw ysmygu a dawnsio'n rhywiol. Roedden nhw hefyd yn yfed alcohol anghyfreithlon yn y speakeasies.
Yn hytrach na dawnsio'r waltz arferol a gawsai ei dawnsio yn y cyfnod cyn y rhyfel, dechreuodd pobl fwynhau dawnsiau mwy beiddgar fel y Shimmy a'r Bunny Hug.
Cychwynnodd petting parties lle byddai'r flappers yn cusanu dynion yn gyhoeddus.
Roedd gan y flappers eu bratiaith (slang) eu hunain hefyd. I have to go see a man about a dog
oedd yr ymadrodd am fynd i brynu wisgi, a handcuff neu manacle oedd modrwy ddywedd茂o neu briodas.
Mae nifer o dermau'r flappers yn parhau i gael eu defnyddio heddiw, ee big cheese am berson pwysig, bump off am ladd person a hooch am alcohol.
Ond nid oedd pob merch yn mwynhau ffordd y flappers o fyw. Nid oedd menywod tlawd yn gallu fforddio'r ffasiynau newydd ac nid oedd ganddyn nhw'r amser i fynd i fwynhau digwyddiadau cymdeithasol. Nid oedd menywod du yn gallu manteisio chwaith.
Nid oedd menywod yn Ardal y BeiblArdal grefyddol yn nhaleithiau deheuol UDA. yn dilyn yr arferion newydd. Hefyd, roedd llawer o'r menywod h欧n yn ddig iawn ac aeth rhai ati i ffurfio'r Gynghrair yn Erbyn Fflyrtio.