Ffactor cyffredin mwyaf
Y ffactor cyffredin mwyaf (wedi ei dalgrynnu i FfCM) yw鈥檙 rhif mwyaf sy鈥檔 mynd i mewn i ddau neu fwy o rifau. Er enghraifft, ffactorau cyffredin 40 ac 16 yw 2, 4 ac 8.
FfCM 40 ac 16 felly yw 8. Dyma鈥檙 rhif mwyaf sy鈥檔 鈥榤ynd i mewn鈥 i鈥檙 ddau rif.
Enghraifft un
Canfydda ffactor cyffredin mwyaf 12 a 20.
Ffactorau 12 yw: 1, 2, 3, 4, 6, 12.
Ffactorau 20 yw: 1, 2, 4, 5, 10, 20.
Y ffactor cyffredin mwyaf felly yw 4, gan mai dyma鈥檙 rhif mwyaf sy鈥檔 mynd i mewn i 12 a 20.
Enghraifft dau
Canfydda ffactor cyffredin mwyaf 42 a 24.
Ffactorau 42 yw 1, 2, 3, 6, 7, 14, 21, 42.
Ffactorau 24 yw 1, 2, 3, 4, 6, 8, 12, 24.
Ffactor cyffredin mwyaf 42 a 24 felly yw 6.
Enghraifft tri
Canfydda ffactor cyffredin mwyaf 12 a 24.
Ffactorau 12 yw 1, 2, 3, 4, 6, 12.
Ffactorau 24 yw 1, 2, 3, 4, 6, 8, 12, 24.
Ffactor cyffredin mwyaf 12 a 24 felly yw 12.
Enghraifft pedwar
Canfydda ffactor cyffredin mwyaf 12, 24 a 39.
Ffactorau 12 yw 1, 2, 3, 4, 6, 12.
Ffactorau 24 yw 1, 2, 3, 4, 6, 8, 12, 24.
Ffactorau 39 yw 1, 3, 13, 39.
Ffactor cyffredin mwyaf 12, 24 a 39 felly yw 3.