Lluosrif cyffredin lleiaf
Y lluosrif cyffredin lleiaf (wedi ei dalfyrru鈥檔 LlCLl) yw鈥檙 鈥渞hif lleiaf sy鈥檔 lluoswm o ddau neu fwy o rifau鈥.
Er enghraifft, lluosrifau cyffredin 4 a 5 yw 20, 40, 60, 80...
Dyma鈥檙 rhifau sy鈥檔 lluosrifau o 4 a 5.
Y LlCLl felly yw 20, gan mai hwn yw鈥檙 lleiaf o鈥檙 holl luosrifau cyffredin.
Enghraifft un
Canfydda luosrif cyffredin lleiaf 6 a 10.
Os ysgrifennwn ni dabl lluosi rhif 6, cawn: 6, 12, 18, 24, 30, 36, 42, 48, 54, 60, 66, 72.
Os ysgrifennwn ni dabl lluosi rhif 10, cawn: 10, 20, 30, 40, 50, 60, 70, 80, 90, 100, 110, 120.
Felly LlCLl 6 a 10 yw 30.
Enghraifft dau
Canfydda LlCLl 12 a 36.
Os ysgrifennwn ni dabl lluosi rhif 12, cawn: 12, 24, 36, 48, 60, 72, 84, 96, 108, 120, 132, 144...
Os ysgrifennwn ni dabl lluosi rhif 36, cawn: 36, 72, 108, 144, 180, 216...
O鈥檙 tablau lluosi uchod, gwelwn fod yr holl rifau sydd yn nhablau lluosi 36 yn ymddangos yn nhablau lluosi 12 hefyd.
LlCLl 12 a 36 yw 36.
Weithiau, efallai y bydd gofyn i ni ganfod LlCLl mwy na dau rif. Mae鈥檙 broses yn union yr un fath, er bod hyn yn ei gwneud fymryn yn anoddach.
Enghraifft tri
Canfydda LlCLl 3, 4 a 5.
Os ysgrifennwn ni dabl lluosi rhif tri, cawn: 3, 6, 9, 12, 15, 18, 21, 24, 27, 30, 33, 36, 39, 42, 45, 48, 51, 54, 57, 60.
Os ysgrifennwn ni dabl lluosi rhif pedwar, cawn: 4, 8, 12, 16, 20, 24, 28, 32, 36, 40, 44, 48, 52, 56, 60, 64, 68, 72, 76, 80.
Os ysgrifennwn ni dabl lluosi rhif 5, cawn: 5, 10, 15, 20, 25, 30, 35, 40, 45, 50, 55, 60, 65, 70, 75, 80, 85, 90, 95, 100.
Mae鈥檔 werth nodi, er mwyn canfod lluosrif cyffredin, roedd yn rhaid i ni ysgrifennu llawer mwy na 12 rhif ym mhob tabl lluosi.
Gallwn weld mai LlCLl 3, 4, a 5 yw 60.