Canfod LlCLl a FfCM o ffactorau cysefin
Weithiau, byddi鈥檔 cael rhifau wedi eu mynegi fel lluoswm o ffactorau cysefin. Er enghraifft, 8 = 23 a 90 = 2 脳 32 脳 5.
Os wyt ti eisiau canfod y LlCLl a鈥檙 FfCM mewn arholiad, gallwn ddefnyddio dull y ffactorau cysefin i symleiddio鈥檙 broses.
Enghraifft
Canfydda LlCLl a FfCM 18 a 30.
Yn gyntaf, rydyn ni鈥檔 ysgrifennu鈥檙 rhifau fel lluoswm o ffactorau cysefin.
18 = 2 脳 3 脳 3 = 2 脳 32
30 = 2 脳 3 脳 5
Yna rydyn ni鈥檔 creu diagram Venn ar gyfer y ffactorau:
Unwaith mae gennyn ni鈥檙 diagram Venn, yn syml, gallwn luosi鈥檙 holl rifau yn y diagram Venn i ganfod y LlCLl:
LlCLl = 3 脳 2 脳 3 脳 5 = 90
I ganfod y FfCM, rydyn ni鈥檔 lluosi鈥檙 rhifau yn y rhan sy鈥檔 gorgyffwrdd gyda鈥檌 gilydd:
FfCM = 2 脳 3 = 6
Mae鈥檔 bwysig i ni nodi hyn: pan fydd gen ti ddau rif, a bod gofyn i ti ganfod y FfCM a鈥檙 LlCLl, y LlCLl fydd y mwyaf o鈥檙 ddau rif.
Enghraifft
Canfydda LlCLl a FfCM 50 ac 16.
Yn gyntaf, rydyn ni鈥檔 ysgrifennu鈥檙 rhifau ar ffurf ffactorau cysefin:
50 = 2 脳 5 脳 5 = 2 脳 52
16 = 2 脳 2 脳 2 脳 2 = 24
Yna rydyn ni鈥檔 llunio鈥檙 diagram Venn:
Gan fod 2 yn ffactor i鈥檙 ddau rif, mae hwn yn mynd yn y canol. Mae鈥檙 ffactorau sydd dros ben yn mynd yn eu cylchoedd perthnasol.
Cawn y LlCLl drwy luosi鈥檙 holl rifau yn y diagram Venn gyda鈥檌 gilydd. Gan fod yna bedwar rhif 2 a dau rif 5:
LlCLl = 2 脳 2 脳 2 脳 2 脳 5 脳 5 = 400
Cawn y FfCM drwy luosi鈥檙 holl rifau sydd yn y rhan sy鈥檔 gorgyffwrdd gyda鈥檌 gilydd. Gan mai dim ond un rhif sydd yno:
FfCM = 2