Mesurau a gymerwyd i ddelio â‘r bygythiad Piwritanaidd
Roedd Elisabeth yn gallu delio â’r bygythiad Piwritanaidd yn y Senedd gan fod ganddi’r pŵer i gau’r Senedd os oedden nhw’n ceisio trafod materion doedd hi ddim eisiau iddyn nhw sôn amdanyn nhw.
Fodd bynnag, dechreuodd y Piwritaniaid argraffu a dosbarthu pamffledi, fel Pamffledi Marprelate 1588-89Pamffled yn erbyn rôl Esgobion a chwynion Piwritanaidd eraill., oedd yn feirniadol o bolisïau crefyddol y llywodraeth. Ymatebodd Elisabeth drwy gyhoeddi gorchymyn i reoli’r gweisg argraffu.
Roedd rhai Piwritaniaid yn gwerthfawrogi pregethu da uwchlaw’r gwasanaethau a osodwyd yn y Llyfr Gweddi Gyffredin. Yn ystod y 1570au, dechreuodd grŵp o offeiriaid gwrdd i glywed pregethau gan offeiriaid da. Galwyd y cyfarfodydd hyn yn wasanaethau proffwydo a chredai Elisabeth eu bod yn beryglus gan eu bod yn bygwth ei safle fel Uwch-Lywodraethwr Eglwys Loegr.
Felly yn 1577, cyhoeddodd Elisabeth gyfarwyddiadau i’w hesgobion wahardd gwasanaethau proffwydo.
'Tair Erthygl'
Yn 1583, roedd Elisabeth yn gallu penodi Archesgob Caergaint oedd yn cytuno â’i safbwyntiau. Cynhyrchodd John Whitgift y 'Tair Erthygl' oedd yn atgyfnerthu Ardrefniant Crefyddol 1559 ac roedd offeiriaid oedd yn gwrthwynebu yn cael eu diswyddo.
Yn y 'Tair Erthygl', gorfodwyd offeiriaid i dyngu llw i dderbyn:
- popeth yn y Llyfr Gweddi Gyffredin
- esgobion
- y 'Deugain Erthygl Namyn Un' - roedd y rhain yn gosod credoau Eglwys Loegr ac fe’u cyhoeddwyd yn 1563
Enghreifftiau o’r bygythiad Piwritanaidd a sut deliodd Elisabeth â nhw.
Dyddiad | Bygythiad Piwritanaidd | Gweithredoedd Elisabeth |
1571 | Roedd Walter Strickland, arweinydd grŵp y Piwritaniaid yn y Senedd, eisiau diwygio Llyfr Gweddi Gyffredin newydd Elisabeth a gwahardd urddwisgoedd yr offeiriaid (cafodd ei enwi’n Ymryson yr Urddwisgoedd). | Llwyddodd Elisabeth i’w dawelu drwy gau’r Senedd fel na ellid trafod ei syniadau. |
1575-83 | Dechreuodd rai offeiriaid Piwritanaidd drefnu cyfarfodydd gweddi o’r enw gwasanaethau proffwydo oedd ddim wrth fodd Elisabeth. Yn y cyfarfodydd hyn, cymerodd y Piwritaniaid agwedd fwy hyblyg at weddi, ac nid oedd yn dilyn yr hyn a ofynnodd Elisabeth. Roedd hi’n poeni y gallai syniadau ledaenu ynglŷn â herio’r Ardrefniant Crefyddol. | Gorchmynnodd Elisabeth yr Archesgob Caergaint newydd, Edmund Grindal, i wahardd y cyfarfodydd, ond gwrthwynebodd. Cafodd ei wahardd, awgrymwyd y dylai ymddiswyddo, a chafodd 200 o offeiriaid Piwritanaidd eu gwahardd o’u swyddi. Ymddiheurodd Grindal a chafodd ei swydd yn ôl. |
1583 | Cyhoeddodd y Piwritan, John Stubbs, bamffled yn beirniadu trafodaethau parhaus Elisabeth ynglyn â’i phriodas gyda brawd brenin Catholig Ffrainc. | Cafwyd Stubbs yn euog o greu trwbl a chafodd ei ddedfrydu i dorri ei law dde i ffwrdd. |
1588-89 | Cyhoeddodd rhai Piwritaniaid bamffledi anhysbys o’r enw’r Pamffledi Marprelate , yn cwyno am yr eglwys a’r esgobion. | Ni chafodd yr awduron byth mo’u henwi, ond credwyd bod John Penry yn rhan o’r peth. Cyhoeddodd Elisabeth gyfarwyddiadau newydd i reoli’r gweisg argraffu. |
1593 | Roedd rhai Piwritaniaid eithafol fel John Penry eisiau dilyn esiampl Robert Browne a sefydlu eu heglwys eu hunain. | Rhoddodd y Ddeddf yn erbyn Sectyddion Terfysglyd 1593 bŵer i’r awdurdodau garcharu, alltudio, ac hyd yn oed, dienyddio, ymwahanwyr posib. |
Dyddiad | 1571 |
---|---|
Bygythiad Piwritanaidd | Roedd Walter Strickland, arweinydd grŵp y Piwritaniaid yn y Senedd, eisiau diwygio Llyfr Gweddi Gyffredin newydd Elisabeth a gwahardd urddwisgoedd yr offeiriaid (cafodd ei enwi’n Ymryson yr Urddwisgoedd). |
Gweithredoedd Elisabeth | Llwyddodd Elisabeth i’w dawelu drwy gau’r Senedd fel na ellid trafod ei syniadau. |
Dyddiad | 1575-83 |
---|---|
Bygythiad Piwritanaidd | Dechreuodd rai offeiriaid Piwritanaidd drefnu cyfarfodydd gweddi o’r enw gwasanaethau proffwydo oedd ddim wrth fodd Elisabeth. Yn y cyfarfodydd hyn, cymerodd y Piwritaniaid agwedd fwy hyblyg at weddi, ac nid oedd yn dilyn yr hyn a ofynnodd Elisabeth. Roedd hi’n poeni y gallai syniadau ledaenu ynglŷn â herio’r Ardrefniant Crefyddol. |
Gweithredoedd Elisabeth | Gorchmynnodd Elisabeth yr Archesgob Caergaint newydd, Edmund Grindal, i wahardd y cyfarfodydd, ond gwrthwynebodd. Cafodd ei wahardd, awgrymwyd y dylai ymddiswyddo, a chafodd 200 o offeiriaid Piwritanaidd eu gwahardd o’u swyddi. Ymddiheurodd Grindal a chafodd ei swydd yn ôl. |
Dyddiad | 1583 |
---|---|
Bygythiad Piwritanaidd | Cyhoeddodd y Piwritan, John Stubbs, bamffled yn beirniadu trafodaethau parhaus Elisabeth ynglyn â’i phriodas gyda brawd brenin Catholig Ffrainc. |
Gweithredoedd Elisabeth | Cafwyd Stubbs yn euog o greu trwbl a chafodd ei ddedfrydu i dorri ei law dde i ffwrdd. |
Dyddiad | 1588-89 |
---|---|
Bygythiad Piwritanaidd | Cyhoeddodd rhai Piwritaniaid bamffledi anhysbys o’r enw’r Pamffledi Marprelate , yn cwyno am yr eglwys a’r esgobion. |
Gweithredoedd Elisabeth | Ni chafodd yr awduron byth mo’u henwi, ond credwyd bod John Penry yn rhan o’r peth. Cyhoeddodd Elisabeth gyfarwyddiadau newydd i reoli’r gweisg argraffu. |
Dyddiad | 1593 |
---|---|
Bygythiad Piwritanaidd | Roedd rhai Piwritaniaid eithafol fel John Penry eisiau dilyn esiampl Robert Browne a sefydlu eu heglwys eu hunain. |
Gweithredoedd Elisabeth | Rhoddodd y Ddeddf yn erbyn Sectyddion Terfysglyd 1593 bŵer i’r awdurdodau garcharu, alltudio, ac hyd yn oed, dienyddio, ymwahanwyr posib. |