³ÉÈË¿ìÊÖ

Pwysigrwydd adloniant poblogaidd

Roedd bywyd yn anodd i’r mwyafrif helaeth o bobl yn oes Elisabeth ac yn frwydr ddyddiol i oroesi. Y Sul, ambell ŵyl a digwyddiadau fel y cynhaeaf a’r flwyddyn newydd, oedd eu hunig seibiant o’r gwaith. Roedd adloniant yn ffordd bwysig felly o ddianc rhag eu bywydau pan oedd amser yn caniatáu.

Chwaraeon a hamdden

Roedd y cyfoethog a’r tlawd yn ystod oes Elisabeth yn mwynhau gwahanol fathau o chwaraeon a digwyddiadau hamdden. Roedd gan y cyfoethog fwy o amser ac arian i’w wario, felly roedden nhw’n gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth ehangach o chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Byddai’r cyfoethog yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon fel a hela. Byddai teuluoedd cyfoethog yn aml yn diddanu yn eu cartrefi eu hunain a byddai adloniant fel (masques), , clerwyr a dangosiadau preifat o ddramâu, yn cael eu cynnal ar ôl y gwledda a’r gloddesta.

Byddai pobl tlotach cymdeithas yn mwynhau dramâu gan berfformwyr 'crwydrol', sioeau pypedau a chonsurwyr, chwarae fersiwn gynnar o bêl-droed neu fwynhau taro chwintan (tilting at the quintain). Fersiwn o baledu oedd hwn lle roedd gyrwyr yn gyrru tuag at fag o dywod gyda .

Roedd mwynhau chwaraeon creulon a’r theatr yn gyffredin i bawb yn oes Elisabeth, yn ogystal â chanu a dawnsio.